Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehif XXX.] [Awst 1, 1883, DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y G7MDE1THÂS EB LLEDÁENU YB EFENGYL. HONDURAS BRYDEINIG. EGLWYS FAIR, BELIZE. Dywediii mai Cliristopher Columbus a ddarganfu Honduras Brydeimg, oddeutu'r flwyddyn 1503. Mae'r wlad yn ffurfio y rhan ganolog o'r lleindir hir hwnnw ag sydcl yn cyssylltu Gogledd a Deheudir Anierica. llhifedi y bobl ydyw oddeutu 28,000 neu 29,000. Mae y rhai hyn yn cynnrychioli llawer cenedl a ilawer iaith, er y gall o'r braidd yr oll o honynt siarad ychydig Saesneg bratiog. Mae Honduras yn nodedig am ei mahogany. Cymmer un goeden dri chan mlynedd i dyfu cyn y bydd yn barod i'w chymmynu. Mae yno hefyd blanfeydd ffrwythydd a meusydd y cyrs siwgr, ym mha rai y llafuria y bobl. Golygfa ddyddorol yw gweled yr holl genhedìoedd amrywiol yma, sef Affricaniaid, Coolies Indiaidd, Chineaid, Hispaenwyr, Caribeaid, ac Indiaid Yspaenaidd, oil gyd â'u güydd yn brysur wrth eu gwaith. Y brif dref ydyw Belize, yr hon sycld yn cynnwys oddeutu 8,000 o bobl. Eel yr ydym yn dynesu at y porthladd mae'r dref fëchan yn edrych yn brydferth, o'r braidcî fel tref o deganau. Ceir ynddi yma ac accw dai coed bychain, wedi eu cyfleu yng nghanol coedydd hardd a thoreithiog a melus ffrwythydd. Mae llaweroedd o'r tai wedi eu dyrchafu oddeutu deg troedfedd uwchben y ddaear ar drawstiau mahogany. Mae'r heolydd yn rhai pur syml, a'r fath ag ydynt yn rhedeg yn unionsyth yng nghyfeiriad y môr. Adeiledir y tai yn anrheolaidd, ac nid ydynt o gwbl yn ein hadgoffa am Brydain. Mae gennym ddwy eglwys yn y dref, ac arlun o un fechan St. Mair yw'r un a ganfyddir ar ben y ddalen. Mae'r tô wedi ei wneud o alcan rhychedig (corrugated tin), a'r muriau o goed. Yn y tŵr digrif yr olwg arno mae gennym gloch fechan. Mae'r eglwys arall o faintioli mwy; ond wrth edrych arni oddiallan ni thybiech mai eglwys ydyw, oblegid ei bod mor afluniaidd. Saesneg yw ein holl wasanaethau, ac yr ydym yn defnyddio Hymns Ancient and Modern. Pobl ddu neu felyn yw'r oll o'r cynnulleid- faoedd o'r braidd. Ymwisgant yn wych ar y Suliau, fel mái o'r braidd y gallech