Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif XXIII.] ' [Tachwedd 1, 1881. PAPUR CENHADOL CHWARTEROL Y OYMDEITEAS ER LLEDAENU YB EFENGYL. TOUNGOO, BUBMA BEYDEINIG. •U;- EGLWYS ST. PAUL, TOUNGOO. Sepydlwyd y Genhadaeth i Toungoo gan y Gymdeithas yn 1873, pan aetli y Barch. Charles Warren o Bangoon i ddechreu'r gwaith. Anwesir y cof am dano etto yn Bnrma, ac addawodd ei waith ganlyniadan daionns; ond, wedi cael ei lethn gan ofalon, o ha rai yr oedd gofalu am y milwyr yn un o'r rhai pennaf, efe a fu farw ynghanol eilafur yn 1875. Ei wraig ragorol/)yr hon a fuasai yn gyd-lafurwr mewn gwirionedd, a fu farw yn 1874, a gofalir am eu plant amddifaid gan y Gymdeithas, yr hon hefyd a'u haddysga. Saif tref Toungoo oddentu canol gwastadedd llydan, trwy yr hwn y rhed yr afon Sittang neu Sittoìmg, i lawr i Gulfor Martaban. Oddeutu ugain milltir o du'r dwyrain fe gyfyd Bryniau Karen, pwynt uchaf pa rai yn y rhandir hon yw Thandoung, yn codi i'r uchder o é,800 troedfedd. Ar y mynydd hwn mae'r Llywodraeth wedi sefydlu planhigfa o cinchona neu goed quinine. Yn wasgaredig ar y trum o fryniau yma y mae pentrefydd y ICarens, y Paku Karens tu a'r dehau a'r Bwai Karens tu ar gogledd. Ynddynt preswylia pobl fynyddig wyllt, yn ymgadw o'r trefydd a'r Burmaid; yn parhau i adeiladu eu pentrefydd, fel y Ceneaid gynt, yn uchel i fynu ar y bryniau anhygyrch, yn adgoífa yr amser pan oedd pob llwyth bychan neu bentref yn codi rhyfel yn erbyn ei gymmydog, a phan oeddynt oll yn uno â'u gilydd i wrthwynebu gorthrwm y gormeswyr Burmaidd yn y gwastadedd a'r ddinas islaw. Eu hen ffurf o grefydd ydoedd yn gynnwysedig mewn cymmodi ysprydion, nid ysprydion drwg o angen- rheidrwydd, fe ddywedir wrthym. Etto y mae hi yn grefydd llawn o ofnau ac o ymddarostyngiad o angenrheidrwydd; a phan bregethwyd Cristionogaeth iddynt JL •*