Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehip XX.] [Chweprob 1, 1881 PAPUR CENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHAS ER LLEDAENU YB EFENGYL. ^js^^^wiìi^**^ CLUDWYR FFRWYTHYDD A SIARCOL YN MADAGASCAR. Cenhadaeth at y Paganiaid yu y genhadaeth yu Madagascar. Yn awr y mae ycliwaneg nag un mlynedd ar bymtheg er pan laniod ein Cenhadon Eglwysig yn yr ynys fawr honno. Anfonasid hwy i'r gororau dwyreiniol i lafwrio ymhlith pobl nas gwyddent ddim am waith y Prynedigaeth. Ond gadewch i mi ddywedyd ychydig wrthych ani yr Ynys, a mwy am y Gororau. Mae Madagascar oddeutu mil o fìlltiroedd o hŷd ac oddeutu tri chant o lêd. Preswylir hi gan liaws o lwythau, o ba rai yr enwaf dri yn unig:—yr Hova, y Betsimisa? aha, a'r Sakalava. Yn ei jchanol y mae'r wlad yn uchel, gyd â mynyddau mawreddog a dyffrynoedd dyfuion, jtra y mae'r afonydd lìydan yn dirwyn o gwmpas cyn iddynt ymarllwys i'r môr. Yn gyntaf peth ardrethodd ein Cenhadon dŷ brodorol, ac yna dechreuasant ddysgu yr iaith frodorol. Defnyddient y tv fel eglwys ac ysgol: cawsant y rhai bycham yno i'w dysgu a ffurfìasant gynnulfeidfa fechan. Bob yn dipyn adeiladasant eglwys fechan daclus, a llawenychwyd eu calonnau pan fedyddiwyd eu dychweledig cyntaf wrth yr enw Mary Csleste. Nid oedd hi ond caethes dlawd, ond yr oedd gandd feistres dda, yr hon a'i rhyddhaodd wedi hynny ; ac yn awr y mae yn llafurio yn ffyddlawn yn y genhadaeth, gan wneuthur yr oll a all i ddwyn gwragedd eraill i fwynhau y bendithion y gwnaed hi yn gyfrannog o honynt. Cynnyddodd y gwaith : a chynnyddodd ymhlith poblcyffelyb i'r rhai a welwch yn y? darlun. Cludydd ffrwythydd yw un, ac ar ysgwydd y llall y mae siarcol (charcoal) o r fath a geir ar y gororau. Yno fel rheol y mae'r bobl yn bur dlawd. Mae'r gwragedd yn gwneud matiau a hetiau, ac yn gweithio yn y meusydd rice ; tra y >b-