Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

«. «O. \* Utó; XV.] [Tachwedd 1, 1879. í PAPUR CENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHÁS EB LLEDÁENU YB EFENGYL. YR EGLWYS A THAI CENHADOL YN MANDALAY. Gwelsom lawer yn ddiweddar yn y papurau newyddion ynghylch Burma, ac efallai yr hoffem wybod rhywbeth am y wlad honno a gwaith y Gymdeithas er Lledaenu yr Efengyl ynddi. Mae Burma yn gorwedd o du'r dwyrain i India, tu hwnt i Calcutta, gydâ chulfor llydan Bengal yn ei gwahaunu oddiwrth yr orynys. Mae'r wlad ar hyd glan y môr, ac am 200 o íìlltiraedd i'r tir, a elwir Burma Brydeinig yn herthyn i Loegr; ond llywodraethir y wdad fewnol gan frenin Burmaidd, â'i enu Theebaw, yr hwn yn ddiweddar a olynodd ei dad, ac a fu mor ofnadwy o greulawn a gwaedlyd yn ei ymddygiad tu ag at ei bobl ei hun, fel ag yr ofnid yr ymosodai ar y tiriogaethan Prydeinig. Mae ei anhawsderau neillduol ei hunan yn perthyn i waith cenhadol yn Burma, rhai o honynt yn deilliaw o'r ífaith fod gwahanol genhedloedd yn byw yno, y rhai a siaradant ieithoedd gwahanol i'w gilydd, yn perthyn i wahanol grefyddau, a phob un yn dilyn ei ffordd a'i arferion ei hunan. Yn gyntaf dyna'r Burmeaid, y rhai a gyfarmeddant yn y trefydd a'r rhannau mwyaf gwareiddiedig o'r wlad ar lannau yr afonydd mawrion. Mae'r brenin yn un o'r rhai hyn, ac hefyd gwŷr y llys, y milwyr, yr holl farsiandwyr a'r boneddigion. Maent yn bobl o dymmer hynaws, fedrus, llawn o ddigrifwch, üeb fod yn rhyw ddiwyd iawn, mwy hoff o "paay," neu ddrama yn cael ei chwarae yn yr awyr afored, yr hon a barhâ am ariau ar noson oleu leuad, nâg am waith Ymddangosant yn garedig y naill i'r Uall a thu ag at bawb a fyddant yn garedig wrthynt hwythau, a thalant l)arch mawr i'r rhai hynny a fuont un amser yn ddysgawdwyr iddynt. Mae eu gwisgoedd a'u tai yn rhai cyswms i'r hinsawdd frwd, ac y mae ganddynt pagodas godidag, ym mha rai yr anrhydeddant eu hathraw mawr Buddha, a'r hwn a alwant Guadama. Gwedi y rhai hyn daw llwythau Karen, y rhai ydynt yn byw yn y mynyddau trwy ddiwyllio y tir. Mae y rhai hyn yn bobl llawer mwy gwyllt, ac nis gwyddant hyd yn aed am y ffordd oreu i wneuthur defnydd o'u tir da. Eu dull o weithio