Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. IV.] [Chwefror 1, 1877. DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHAS Efì LLEDAENU'M EFENGYL. NEWFOUNDLAND.—LLONG YN CAEL EI MALÜRIO GAN Y RHEW. Newfotjndland, lle y mae lliaws o Genhadon y G.LLE. yn llafurio, ydyw un o'r rhai tlottaf o'r Trefedigaethau Prydeinig. Dros lawer o fìsoedd yn y flwyddyn y mae'n orchuddiedig gan eira; ac y mae'r oerfel mor angerddol, a'r wlad mor llom, fel na cheir yno ond ychydig dyddynod a gerddi, a dim porfeydd i ddefaid ac anifeiliaid. Nid oes preswylwyr i'w cael ond yn y rhannau hynny o'r wlad ag sydd gerllaw y môr. Y mae glan y môr yn greigiog, ac yn fynych bydd tarth yn gorchuddio y wlad am liaws o ddyddiau olynol. Y mae'r môr yn un terfysglyd; a buasai yn anhawdd cael lle mwy gwyllt yn yr holl fyd. St. John's ydyw'r unig dref o un maint a phwysigrwydd. Yn y cilfachau byehain ar hyd glan y môr, weithiau yn dra phell oddiwrth eu gilydd, ceir pentrefydd cynnwysedig o ychydig fythod llwydaidd yn cael eu preswylio gan bysgodwyr a'u teuluoedd. Y mae yr oll o'r braidd o bobl Newfoundland yn bysgodwyr; ac y mae eu gyrfa ddaearol yn un galed a llawn o beryglon. Weithiau bydd ganddynt ddigonedd o fwyd a dillad garw; ond yn fynych y mae tymmor drwg yn dyfod ar eu gwarthaf, nid oes cyílawnder o bysgod i'w cael, y mae'r morloi yn brinion, neu ynte y maenfc yn colli'r oll a feddant trwy ystormydd a llongddrylliadau; ac yna y mae eu tlodi a'u truenusrwydd yn dorcalonnus. Yn 1869 yr oedd caledfyd lliaws o'r bobl hyn, trwy iddynt fethu dal pysgod, a chael colledion ar y môr, mor fawr, fel ag y gorfu i'r Llywodraeth, er eu cadw rhag marw o newyn ac oerfel, eu cyflenwi â bwyd a dillad. Ond gyd â'r holl gyn- northwy a roddwyd iddynt, mae'n bur debyg i liaws farw oddiwrth effeithiau y caledi y gorfu iddynt ei ddioddef yng ngauaf y flwyddyn honno. >**