Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

v \\ ** B;Nif. I.] [Mai 1,1876. DALEN GENHADOL CHWARTEROL ' .' ' •■■•'■• •' Y GYMDEITHAS ER LLEDAENU YR EFENGYL. ■ \)ì .,..., ,:., :........ . . ..... ■i'A j . ■ ■ •: . ■ - •.■.: •.. ■ ■ ■■■■■_ ■ . CENHADAETH PUTHIAMPUTHÜB. . ''■':"'- -'' , . Puthiamputhur sydd randir eang yng nghennadaeth ỳr S.P.G. yn Tinneyelly, Deheubarth India. Y mae un Cenhadur Europeaidd ai wraig yn gweinidogaethu yno, tri o Glerigwyr hrodorol mewn widdau offeiriad, un Diacon brcdorol, a chwech a deugain o Gateceisuyr, Darllenuyr, ac Ysgolfeistraid. Y mae yno 2,938 o Gristio- nogion bedyddiedig dan eu gofal, a 2,117 o rai ar brawf, neu bersonau yn ymbarottôi i gael eu bedyddio. Y mae yno ddwy ysgol fyrddiol (ooarding-schools) i fechgyn a genethod, a phump ar hugain o ysgolion dyddiol yn cynnuys 699 ö ysgolheigion. Y mae ein harlun yn arddangos dwy eneth fechan, a berthynant i un o'r ysgolion byrddiol, yn bwytta eu ciniaw; tra y mae dwy ferch ieuainge a addysgwyd yn yr ysgol yn sefyll y tu ol iddynt, yn carrio basgedi o rice ag ydynt yn ei barottoi gogyfer â lluniaeth y diwrnod nesaf. Y mae un o honynt wedi privdi; gallwch ddywedyd hyn wrth weled y llinyn sydd ganddi am ei gwddf, yn lle gleiniau. Y mae'r Uinyn priodasol hwn yn Neheubarth India yn cymmeryd lley fodrwy briodasol. Y mae'r gwr yn ei glymmu am ei gwddf pan yn priodi, ae y mae geiriau Gwasanaeth yr Eglwys wedi eu cyfnewid i atteb y purpas yma. Yn hyn, fel mewn gwisgoedd ac addwrnau, y mae'r Cenhadon yn cefnogi y brodorion Cristionogol i gadw cynnifer o'u harferion cenhedlaethol ag ydynt ddiniweid, oblegid y maent yn fwy cydweddol â bywyd Indiaidd nag a fuasai dulliau Prydeinig. Hwyrach yr hoffech wybod pa beth y mae pobl og ydynt wedi bod yn baganiaid yn ei wneuthur pan yn dynmno cael eu derbyn fel thai ar brawf. Mi a ddywedaf wrthych pa fodd y derbyniwyd thai o'r cyfryd yn ddiweddar. Ym mhentref Thun- *«• + 4