Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y CYMRY. Cyf. XI., Oyfres Newydd.] Ebrill, 1893. [Rhif. 4. ORATORIO "DAFYDD A SAUL" (D. JENRINS, MUS. BAC). MOR belled ag y gwelsom, y mae yr adolygiadau ar lyfr Mr. Jenkins yn lled ífafriol a chalonogol i'r awdwr llafurus a galluog. Os yw dyfalbarhad ac uchelgais yn teilyngu llwyddiant, y mae yr awdwr hwn yn haeddu y cwbl a ddywedir am dano yn nglyn â'i lafur pwysicaf hwn. Darfu i ni bwrcasu y llyfr er myned drosto yn fanol ac ham- ddenol i ni ein hunain. Wrth wneyd hyny, gallwn ddweyd yn onest i ni gael pleser, a budd hefyd, yn yr ymdrech. Wrth gwrs, yr oedd y prif gydganau yn hysbys i ni o'r blaen, a chafwyd perfformiad o'r gwaith yn ei gyfanrwydd—o leiaf o ran yr esgyrn o hono—flynyddoedd yn ol yn nglyn ag Eisteddfod yn Merthyr, gan gôr o Rym- ni. Nid oedd yr awdwr mor brofìadol, bid siwr, y pryd hwnw; ond y mae y Draethgan, fel y mae o'n blaen yn bre- senol, yn brawf teg o beth all celfyddyd- wr cydwybodol ac amyneddgar wneyd ; a'r hyn a red trwy ein meddwl wrth ys- grifenu hyn o nodiadau ydyw, y byddai yn golled i'n llenyddiaeth gerddorol pe cyhoeddid y gwaith yn ei ddiwyg gyntefig : erbyn hyn y mae giau a chnawd wedi d'od ar yr esgyrn, oeddynt dipyn yn sychion y pryd hwnw. Nid yr awdwr hwn yn unig sydd wedi gorfod cadw ei waith yn ei goffor am .ddeng mlynedd : dyma hanes prif gynyrchion bron yr òll o'n cerddorion mawr, perthynol i bob gwlad; ac y mae hyn, yn ddiau, yn enill mawr i Gerddoriaeth, yn ol cwrs naturiol pethau. Y mae yn nghorff y gwaith hwn lawer 0 brydferthion, heblaw yr hyn ddygir i'r amiwg yn y cydganau, ac y mae y cwbl wedi eu cydgysylltu mewn modd bodd- haol; yn enwedig gyda golwg ar amryw- iaeth a gwrthgyferbyniad. Ceir yma lawer o yni yn rhai o'r mel- odion: " yni," efallai, ddyry y drych- feddwl cywiraf o nodwedd y gwaith ; gan fod yr elfen ddramayddol yn amlycach o lawer na'r ddefosiynol; ond y mae yma gyfuniad hapus o'r ddwy elfen yn achly- surol. Wedi rhoddi y ganmoliaeth ddyledus i'r unawdiau, a'r modd y mae yr awdwr yn gwneyd defnydd o adnoddau y Gerddorfa, 1 liwio ac asio; y mae yn ddigon amlwg fod prif nerth y cyfansoddwr yn gorwedd yn ei allu i wau a gweithio allan y cyd- ganau. Ond daw llaw y cerddor i'r golwg yn y rhifynau bychain, yn llawn mor amlwg ag yn y rhifynau llafurfawr. Nid celfyddyd ydyw y cwbl, ychwaith: y mae natur ar yr orsedd hefyd. Fel enghraifft o'r hyn a awgrymwn, gallwn nodi y gydgan gymharol fèr—yn D minor, rhif g : y mae hon yn orlawn o deimlad ; ac erys yr awdwr yma yn hamddenol yn yr un teimlad, ac yn yr un cyweirnod— peth pur amheuthyn i'r cyfansoddwyr ydynt byth a hefyd ar eu hedyn. Y mae athrylith yn d'od i'r golwg yn y rhanau yma, yn enwedig pan y dyga yr awdwr y