Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y CYMRY. Cyf. X., Cyfres Newydd.] Mehefin, 1892. [Rhif. 6. GWYL GERDDOROL DAIR BLWYDDOL CAERDYDD. MAE yr enw uchod yn dynodi amcan yr Wyl uchod yn well na'r enw a ddefnyddiwyd genym dro yn ol, sef " Gwyl Gerddorol Caerdydd." Nid oes dim Cym- reig yn perthyn iddi; mae hyd y nod y South Wales Daily News yn cyfaddef hyny yn awr. Profwyd hyny yn gynar yn ei hanes. Rhoddwyd gwahoddiad i rai o'n cerddorion blaenllaw gan Dr. Parry ac ereill i fyned yno, a bu dau neu dri mor ffôl a myned ; ond y fath dderbyniad oer- aidd a gawsant—ni fentrodd hyd y nod y Doctor twym-galon a rhoddi gwahoddiad i un o'r brodyr da i egluro ei farn. Felly, y mae yr Wyl Gerddorol Gymreig eto heb dori drwy y dyfodol tywyll ; ond mae fel pe byddai y wawr ar dori yn y gor- wel pell; ac mae'n bryd i ni gael Gẁyl Gerddorol i'r Cymry, lle y gellir dwyn gweithiau Cymreig i sylw, a meithrin y nodweddion Cymreigyn eincyfarsoddwyr. Fe wnaethpwyd cynyg mewn cyhoedd- iad neillduol i fesur teimlad y wlad yn y mater; ond unochrog iawn oedd, rhaiá cyfaddef; a rhaid magu mwy o barch i'n gilydd, a chael mwy o undeb cyn y daw y freuddwyd hon yn wir. Mae'n ddigon gwir fod y genedl Gymreig yn cael ei chynrychioli yn yr Wyl, yn Nghaerdydd, yn mherson Dr. Joseph Parry ; ond a fydd cerddoriaeth y genedl ar ei henill sydd gwestiwn arall, gan fod pwys mawr yn cael ei roddi gan y papyrau a'r adolyg- wyr hyny sydd wedi bod yn moli " Saul" Parry, ar ei fod wedi mabwysiadu arddull ramantaidd Wagner a'i ysgol. " Gwyddom hanes Nehichodonosor," ebe un awdwr, "a ddygwyd allan i bob mantais yn Eistedd- fod Genedlaethol Lerpwl. Mae athrylith y Pencerdd Parry o nodwedd nad oes eisieu iddo fyned i loffa i feusydd estronol am ei fater nac am ei /o/i." Ond dyna, cawn amser i fanylu ar ffrwyth ei gynhyrfiad di- weddar eto, a da ydyw gwneyd pob peth yn ei amser ; a digon i'w dyweyd ein bod yn dymuno llwydd y gwaith newydd, yn enwedig yn Nghaerdydd, gan y bydd yno fel cynrychiolydd yr awen Gymreig, ac yn cael ei gymharu â gweithiau awdwyr o genedloedd ereill o ddosbarth a safon ucheì iawn. Fel Gŵyl Gerddorol, yn annibynol ar genedlgarwch, na dim o'r cyfryw bethau, yr ydym yn edrych yn mlaen am wledd na chafwyd ond yn anfynych ei chystal; a diamheu y bydd yr arlwy a'i goginiaeth yn deilwng o brif wyliau Lloegr a'r Cyf- andir. Yn hyn, yr ydym, hytrach, yn synu na byddai y gorpholaeth yn votio swm c arian at dreuliau amcan mor aruchel a meithrin chwaeth at gerddoriaeth uwch- raddol. Bydd y treuliau yn aruthrol, ond y mae darpariaeth ddigonol, gellid medd- wl, ar gyfer pob cyfwng all ddygwydd ; heblaw awydd angerddol y boblogaeth, ynenwedig y Cymry, at fwynhau gwledd- oedd fel hyn. Er mwyn ein darllenwyr o bellder gael syniad am waith yr ŵyl, nia osodwn\y programme yma yn ei gyfanrwydd; yr hwn, yn ddiau, siarada yn ddigon hyawdl drosto ei hun :—