Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y CYMRY. Cyf. IX., Cyfres Newydd.] Rhagfyr, 1891. [Rhif. 12. Y DIWEDDAR BARCH. D. C. DAVIES, M.A., TREFECCA, ORIAETH.—BYR-GOFION. A CHERDD- Gan Ddysgybl iddo. MAE y cedyrn yn syithio. Nid oedd Cymru, braidd, wedi dechreu sychu ei dagrau ar ol Dr. Owen Thomas, pan y daeth y newydd galarus a phruddaidd am farwolaeth y gwr mawr a pharchus, y Parch. D. C. Davies, M.A., Prif-athraw Coleg Trefecca. Creodd yr hanes am ei farwo'aeth hiraeth yn mhob bron. Colled fawr i Gymru, ac i'r byd meddyliol, oedd symudiad un mor ddysgedig ac athrylith- gar. Mae Trefecca yn wylo yn hidl. y Cyfundeb Methodistaidd wedi cael ergyd trwm, a'r byd Cymreig, a dyweyd y lleiaf, yn teimlo yn fawr iawn. Efallai nad an- nyddorol hollol gan ddarllenwyr Cerddor y Cymry fyddai cael ychydig o sylwadau arno, yn dal perthynas a cherddoriaeth, gan un fu'yn eistedd wrth ei draed am yn agos i ddwy flynedd. Fe ŵyr pawb ddaethant i gyffyrddiad agos â'r diweddar Brif-athraw, mai hoff iawn oedd ganddo gerddoriaeth. Swynid ef yn fawr gan ganu da. Byddai wrth ei fodd pan yn gwrando ar gerddoriaeth gysegredig, a gellid meddwl wrth edrych arno fod clywed y lleisiau yn rhoddi allan fawl i Dduw yn hwyluso llawer hyd y nod ar ei fyfyrdodau cyflym a threiddgar, &c. Nid anhawdd gweled hyny yn ei lygaid bywiog a thanbaid. Y gerddoriaeth buraf, mwyaf aruchel a defosiynol effeithid fwyaf arno ef. Nid canu ysgafn â'i cyn- hyrfai, ond fel rheol y dôn gynulleidíaol deimladwy naturiol, ac eto ddofn-ddwys. Meddianai natur rhy fawr i gael ei fodd- loni rhyw lawer gyda thônau a chanu arwynebol ac ysgafn. Yn hyn, fel gyda phob peth arall, yr oedd yn debyg iddo ef ei hunan : y mawreddog, a'r pur, a'r treiddgar fyddai oreu ganddo bob amser —yr hyn fuasai yn tueddu 1 ddyrchafu dynion. Defnyddiai y tlws a'r pert i ddangos y mawr. Canu dwfn, dreiddiol, lonai ei galon. Clywsom am dano yn galw am ail ganiado dônyny gynulleidfa, gan fel y cymerwyd ef i fyny ganddi. Mae genym adgofion melus am danoyn y cyfarfodydd yn Nhrefecca. Mynychir hwy, wrth reswm, gan yr eírydwyr, ac fe fyddai yn llon ei ysbryd, ac yn edrych yn ieuengaidd, yn mron, pan yn gwrando ar y canu. Ar ol siarad da a chynwysfawr ganddo ef ei hun—siarad fyddai yn ein synu. o herwyddj eangder ei syniadau a choethder ei feddyliau, codai i fyny yn syml ar y diwedd, a rhoddai allan ei hoff emyn yn deimladwy a thyner dros ben :— " Dwy aden colomen pe cawn, ' Fe hedwn a chrwydrwn yn mheîl ; I gopa bryn Nebo mi awn, I weled ardaloedd sydd well; A'm golwg íu arall i'r dw'r, Fe dreuliwn fy nyddiau i ben, Mewn hiraeth am weled y gwr Fu farw dan hoelion ar bren." Teimlem ef yn fraint i'w glywed yn myned dros yr emyn bendigedig hwn, gan mor berffaith oedd y pwyslais, a chywir y syniad a gyfleai. Rhoddai fynegiant i'r llinellau cyntaf gyda llais yn arwydco