Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

€&RPPOR«Y.(gVMRY, At ttm$*mŵfctft Cer&îfccnríaetft, &t.f gn mftfitfi 3 Cgmtg, DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Oyfrol V. RHAGFYR, 1888. Rhit. 12. CYNWYSIAD. At ein Cerddorion ac Ereill............... 105 Yr Ysgol Gerddorol .. .............. 106 Colofn Beirniadaeth ac Hanesiaeth ......... 106 Bin Bwrdd Cerddorol................ 106 Y Wasg Gerddorol .................. 106 Y "BugailDa"yn Porthmadog ........... 107 Anthem gofradwriaethol y Proffeswr Howells...... 107 Cymdeithas Gerddorol Cymru ............ 107 Sefyllfa bresenol Cystadleuaeth Gerddorol yn Nghymru 108 AT EIN CERDDORION AC EREILL. ,YMUNA Meistri D. Williams a'i Fab, Llanelli, roddi ar ddeall i'n Cerddorion oll, yn nghyd a charwyr Cerddoriaeth a Llenyddiaeth Gerdd- dáorol Gymreig, eu bwriad o gychwyn cyfres newydd, yn annibynol, ar y iafo o Ionawr, 1889, y Cylchgrawn Cerdd- orol—Cerddor y Cymry. Gwyddis fod y Cyhoeddiad uchod wedi ei gario yn mlaen, oddiar 1886, yn nglyn á Chyfaill yr Aelwyd ; ond, yn awr, ar daer ddymuniad llawer o'r hen dderbynwyr, a chanoedd o'r derbynwyr presenol, y mae y Cyhoeddwyr wedi penderfynu ei ddwyn allan eto yn ei hen ddiwyg annibynol ; ac mae'n dda gan y Cyhoeddwyr hysbysu eu bod wedi cae] gan ei hen Olygydd— Mr. W. T. Rees (Alaw Ddu), i barhau yn brif Olygydd iddo. Dymuna y Cyhoeddwyr hysbysu yn mhellach, gan eu bod wedi gwneyd cais teg i ddwyn allan gyhoeddiad cerddorol Uwchraddol am Dair Ceiniog, a bod cyhoeddwyr ereill wedi methu a chynal Un yn mlaen yn yr un cyfeiriad am Dwy Geiniog, eu bod yn awr o'r farn mäi cyhoeddiad Ceiniog fydd yn ateb y Cymry °reu ar hyn o bryd. Er mai Ceimog fydd ei bris, amcenir ei *°d, o ran maint a chynwysiad, yn deil- wng 0 sefyllfa gerddorol ein gwlad. Cerir y cyhoeddiad yn mlaen bron ar yr un llinellau amrywiol a rhyddfrydig ag y cychwynwyd Cerddor y Cymry, gan ei Syfaddasu yn arbenig at sefyllfa ac angen- ion Cerddoriaeth y dyddiau presenol. Parotoir erthyglau gan y Golygydd, ac ysgrifenwyr ereill cyfarwydd yn y gel- fyddyd gerddorol, yn mha rai yr ymdrinir a phynciau fydd yn dwyn cysylltiad â rhanau uchaf Cerddoriaeth yn ein gwlad. Angen mawr Cymru, ar hyn o bryd, yw cael Cymdeithas Gerddorol Gymreig wedi ei sefydlu ar dir cadarn, ac ar egwyddor- ion eang a rhyddfrydig. Gwna Cerddor y Cymry ei oreu i gefnogi yr amcan yma; ac yn nglyn â hyn, i sefydlu Ysgol neu Goleg Uwchraddol er addysgu Cerddor- ion Cymreig, ac i fagu chwaeth at astud- iaeth ac ymarferiad âg offerynau, er sefydlu Cerddorfäau (Orchestras) bychain yn mhob cẁr o'r Dywysogaeth, gyda'r amcan o uno y cwbl at amcanion y Gym- deithas, &c. Cedwir yn mlaen gynllun y Gwobrau yn Adran yr Ysgol Gerddorol, cynllun sydd wedi bod yn foddion i symbylu a rhoddi cyfeiriad i ganoedd o'n Cerddorion ieuainc ; a thelir sylw arbenig i Gerddor- iaeth Gysegredig, yn nghyd â phob am- rywiaeth o fewn ein terfynau. Dygir allan y Gerddoriaeth yn nglyn â'i rifynau fel yn bresenol; a hydera y Cyhoeddwyr y parheir i'w cefnogi, fel ag i'w calonogi i fyned yn mlaen yn eu hym- drechion i ymeangu gwybodaeth gerddor- ol yn y dyfodol. AT ARWEINYDDION CORAU. B^^ddai yn dda gan y Cyhoeddwyr a'i Olygydd pe byddai Arweinyddion Corau mor garedig a dwyn Cerddor y Cymry i sylw aelodau eu corau. Y mae y pris y fath fel y gall bob aelod ddyfod yn dan- ysgrifiwr. Bydd y Gerddoriaeth yn unig yn nglyn â'r cyhoeddiad yn fwy o werth na'r geiniog; ac er mwyn sicrhau cyhoeddi Cerddoriaeth o radd uchel, y mae yn angenrheidiol cael cylchrediad helaeth; a bydd ^arweinyddion Corau trwy ein