Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(ÜERPPOR . Y • (gYMRY, &t masmtaetft Cetôdoriafctífc &t.t gn mftfitft g Csmrs* DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol V. TACHWEDD, 1888. Rhir. 11. CYNWYSIAD. Yr Ysgol Gerddorol Y Wasg Gerddorol Mozart 101 103 103 YR YSGOL GERDDOROL. Gwobrau ! Gwersi ! ! Gwobrau ! !! (Diolchir i bersonau am gynyg gwobrau, gyda thestynau, i'r adran hon, er lles ein cerddorion. Bydd hawl gan roddwyr y gwobrau i nodi beirniaid eu hunain.-) -----■ Oyhoeddir cwrs newydd o Destynau a Gwobr- wyon ddechreu y flwyddyn newydd. rR ydym yn dechreu cyhoeddi anthem Nadolig yn y rhifyn presenol—un o'r ddwy fuddugol yn nghystadleuaeth y Cerddor. Gwelir y feirniadaeth yn y gongl hon. Gobeithiwn y cymer y corau sydd eisieu darn o'r fath erbyn y gwyliau at ei dysgu ar un- waith, gan y cwblheir hi ddiffael yn ein nesaf. At y Rhai sydd yn ymholi am Gyfansodd- IADAU. O'r braidd y gellir dysgwyl i ni ddychwelyd cynyrchion syäd wedi eu hanfon i'r cystadleuon yma er ys blynyddoedd ; ond gwnawn ein goreu i chwilio am danynt, er y cymer hyny oriau o waith. ------ Anthem neu Garol Nadolig. Y Feimiadaeth. Derbyniwyd 19 o gyfansoddiadau ar y testyn hwn, a chan fod ein cyfansoddwyr ieuainc yn anfon eu cynyrchion i fewn er cael gwybod ein barn ni arnynt, ac mai amcan y cyhoeddwyr wrth gynyg y gwobrwyon yn y golofn hon yw dwyn allan dalent y cytansoddwyr, dywedwn air mor fyr a chryno ag y medrwn ar bob un o honynt, gan eu cymeryd yn union fel y deuant i'n llaw o'r bwndel, yna, ni a'u dosbarthwn mor agos ag y medrwn, yn ol eu teilyngdod. 1. Lorax.—Anthem iled ysgafn yw hon i'r pedwar llais heb gyfeiliant, ond yn y ddwy nod- iant Y mae yr awdwr yn gallu ysgrifenu yn ramadegol, ac y mae yn amcanu at gael melod- edd yn y gwahanol leisiau. Y mae ei harddull yn fwy rhanganol neu ganigol nag anthemol : ysgafn yw y 9-8, a lled ddiafael yw y part writing yma. Y mae y rhan olaf eto'n well, er ei fod yn agor gydag unseiniau pur gyfFredin, a jhaid dweyd mai arwynebol yw y cyfansodd- iad drwyddo. 2. Gwilym Llwyd.—Hawdd gweled mai dech- reuwr yw y cyfansoddwr hwn eto, a'i fod yn fwy cyfarwydd yn nodiant y Sol Ffa nag yn y nod- iant arferedig. Teitl ei gyfansoddiad ef yw " Clywch lu'r nef yn seinio'n un." Y mae yn agor yn hollol ganigol, ac nid oes ffurf yn y byd ar ei waith. Y mae yntau wedi dysgu dipyn o ramadeg ; ond y mae yn rhaid iddo eto ddysgu y ffordd i roddi ei feddwl allan yn glir a destlus. 3. Gorelli.—Math o rangan fechan lled ddestlus sydd gan y cyfansoddwr hwn, ac mae yn gosod allan yr hyn sydd ganddo yn gryno a phur gywir. " Llawen-floeddiwch i Dduw " yw ei destyn ; a theimlwn fod ei gerddoriaeth yn dyner i'r geiriau. Dylasai ddewís cyweirnod mwy cydnaws â syniad y geiriau, megys C neu D. Y mae yma, er hyny, rai tarawiadau hapus a melodus. Dylai yr awdwr astudio ffurf yr anthem yn briodol, a cheisio cael pwynt i ym- gyrhaedd ato. 4. Brychan.—Yn nodiant y Sol-Ffa yn unig yr ysgrifena Brychau, felly nid yw i fyny a'n rheol; ond y mae hon yn llawer rhagorach anthem na'r un sydd wedi dyfod o dan ein sylw hyd yn hyn. Y penillion yn dechreu " Peraidd ganodd ser y boreu," sydd ganddo yn theme, a gwna fugeil-gan neu garol fach gymeradwy, yn ddiau. 5. Gerddor Ieuanc.—" Gogoniant byth i'r Iesu mawr " yw teitl ei anthem ; ond wedi yr agoriad, llithra i'r adnod adnabyddus, " Iddo ef yr Hwn a'n carodd," &c. ; yna, tyr allan mewn " Haleliwia." Detholiad da, a chana yn syml a melodus. Ceir aml i efelychiad mirain yn yr ail dudalen, sydd yn arwyddo yn dda. Bai y cyf- ansoddwr hwn yw nad yw wedi efrydu cwmpas y gwahanol leisiau yn ddigon trwyadl—un llais yn marchogaeth y llall yn ormodol. Darllened yr awdwr hwn y llyfrau goreu, er coethi ei chwaeth a disgyblu ei feddwl. 6. John Goss in One Flat.—Anthew. fechan o ffurf lled foddhaol: yn sicr y mae yr awdwr hwn yn efrydydd da, a dyfodol gwych o'i flaen. Dengys yr anthem hon ol llafur a theimlad cerddorol. Mae y frawddeg a ddechreuir gan y soprano ar " Oanys ganwyd i chwi heddyw Geidwad," &c., yn bwynt da iawn. Felly hefyd y testyn ehedgan yn yr allegro, er na weithir llawer arno ; y mae yn profi cynydd yr awdwr, ac yn dangos hefyd y gall y cyfansoddwr lunio testyn hapus, ac mae'r cynygiad yn hollol gywir mor belled ag y mae yn myned. 7. Sepaste. — Dylai efe geisio bod yn fwy destlus gyda'i gopi—y mae ei waith yn edrych