Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fapPQR«Y»(gYMRY, DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol V. HYDREF, 1888. RMÍ. 10. CYJSIWYSIAD. Eisteddfod Genedlaethol Wrexham, 1888......... 97 Yr Arholiadau am Urddau Cerddorol yn Eisteddfod Wrexham ..................... 99 Cymdeithas Gerddorol Cymru ............ 100 Yr Ysgol Gerddorol ................ 100 EISTEDDFOD WREXHAM, 1888. ADOLYGIAD. AE yr Eisteddfod Genedlaethol, bellach, wedi dyfod yn allu pwysig yn ein gwlad, ac edrychir yn mlaen at yr ŵyl gyda llawer 0 ddyddordeb gan ganoedd 0 Gymry aiddgar. Oawn fod yr Êistedd- fod, y blynyddoedd diweddaf hyn, wedi gwella lìawer i'r peth ydoedd fel sefydliad addysgiadol; yn wir, y mae bron wedi dyfod yn ganolbwynt yr holl sefydliadau ereill yn y Dywysogaeth, fel o'r braidd y gellir cael amser yn ystod wyth- nos yr Eisieddfod i drin materion yn nglyn â gwahanol bethau. Y mae hefyd yn para yn ei phoblogrwydd : brou naellir dweyd yn yr ystyr yma eto, " Ti a ragoraist arnynt oll," er, 0 bosibl, mai nid teg hawlio mai Eisteddfod Wrexham gyrhaeddodd y nod uchaf 0 ran der- byniadau, gan i Eisteddfod Oaernarfon, 1877, dderbyn mwy, ac wedi hyny, Eisteddfod Lerpwl. Bydd canoedd 0 bunoedd yn weddill ar ol Eisteddfod Wrexham, ond rhaid cofio nad oesun Eisteddfod Genedlaetho] wedi talu eto, yn anni- bynol i'r tanysgrifiadau blaenorol ; ac mae hyn yn ffaith ddifrifol wedi } styried pethau, a dylid ymgynghori ar y mater heb oedi. Cyrddaf yr Eisteddeod. Yr oedd cyrddau yr Eisteddfod hon yn tra rhagori ar eiddo un eto ag y buom ni ynddi,— llai 0 ffwdan, a mwy 0 rwyddiueb yn nygiad yn mlaen y gweithrediadau. Nid oedd y gwaith a dorwyd allan ar gyfer pob diwrnod yn ormod, a chan fod y trefuiadau yn rhagorol, deuwyd i der- fyniad prydlon, fel nad oedd cyfarfodydd yr Eisteddfod yn rhedegi fewn i'r cyngherddau oddi- gerth dydd Gwener, ond achoswyd hyny gan hŷd afresymol y darn i'r seindyrf pres. Os oes rhaid j eynifer 0 seindyrf gael chwareu i gyd ar y ^wyfan, yn enw pobpeth sydd resymol dylid cael dernyn byr, ond yn cynwys digon ynddo i brofí ansawdd a gallu pob cwmni mewn amser rhesymol. Cymerai y detholiad i'r seindyrf eleni ugain mynyd i fyned drwyddo. Yr oedd cystadleuaeth y corau meibion, er mai ychydig oedd eu nifer, yn nodedig 0 dda, ac felly y dy wedir oedd eiddo y tri chor gystadleuodd ar y brif gystadleuaeth y diwrnod cyntaf. Bu yn ymdrechfa hyd at waed rhwng bechgyn Dyffryn Clwyd a llanciau'r Eryri, a gorfu i'r rhai olaf roddi ffordd eleni ; ond cantorion dewrion Caer- narfon drechodd yn yr ymdrechfa gymysg. Nid oedd yn bosibl cael gwell cystadleuaeth nag a gafwyd gan y chwech côr y dydd olaf, a hyny ar ddau ddarn Cymreig, yr hyn sydd yn profi fod y corau yn cymeryd dyddordeb dwfn raewn cerddoriaeth gan G-ymry, ond i'r pwyll- gorau fentro, a bod yn ffyddlon i'w proffes. Yr hyn oedd yn ein synu oedd fod y corau sydd a'u haelodau bron i gyd yn gwbl analluog i starad a darllen Cymraeg, yn seinio yr Hen Iaith yn fwy croew a synwyrol na'r corau oedd yn dyfod 0 ganol y wlad. Hysbyswyd ni gan rai 0 aelodau Cor y Drefnewydd (y côr fu yn fuddugol) eu bod 0 dan ortodaeth o gael cyfieith- wyr i egluro ystyr y geiriau Cymreig, ac yr ydym yn eu credu ; rhaid, felly, fod y gwaith 0 addysgu y cor i seinio a broddegu y Gymraeg wedi bod yn orchwyl enfawr i Mr. Jenkins, yr arweinydd. Y mae y gwaith 0 ganu unawdau, chwareu offerynau, &c, yn myned ar gynydd parhaus, ond nid ydym yn deall fod un canwr na chwareu- ydd 0 allu nodedig wedi dyfod i'r golwg eleni. Ddaeth neb i'r amlwg ychwaith fel cyfan- soddwr, ac ymddengys mai lled wan oedd y cy- nyrchion eleni. Rhanwyd y ganig rhwng dau sydd eisoes yn adnabyddus, ac aeth y pres am y caneuon i logell yr un, gan yr hwn, os credwn Pencerdd Gwalia, yr oedd tua haner yr holl gy- nyrchion ei hunan. Aeth y dôn i'r Iwerddon, at ryw Ddoctor yno, ac ataliwyd y Salm 0 ddiffyg teilyngdod. Y Cyngherddau. Cawsom ni ddau gyngherdd llawn, a rhan 0 un arall, allan o'r pedwar ; a rhyfedd fel y darfu i ni fwynhau y cyngherddau nos Fercher a nos Wener. Barn llawer oedd, na chafwyd gwell deongliad o'r Elyah, tuallan i'r Briíddinas a'r