Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

erddor.y.Cymry, DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol V. MEDI, 1888. Rhit. 9. CYNWYSIAD. Camadaeth y Cysegr ......... Eisteddfod Ffynon Taf......... Yr YsgolGerddorol ........ Ein Bwrdd Cerddorol ......... Y Wasg Gerddorol ......... Eisteddfod Genedlaethol Wrexham... ,. 96 „ 96 CANIADAETH Y CYSEGR. (Ysgrif Wobrioyedig.) Gan E. Rowlands, Meifod. MAB trefn yn dda, ac yn anhebgorol angen- rheidiol. Nis gellir dysgwyl i ganiadaeth fod yn ddylanwadol ac effeithiol hebddo, rnwy na rhyw ran arall o wasanaeth y cysegr ; ac y mae ein Oreawdwr yn ym- hyfrydu yn y drefn oreu ar bob peth. "Trefn yw prif reol y nefoedd," rneddai un awdwr. Ond nid ein hymgais penaf ac uchaf ddylai trefn fod yn ein caniadaeth, ond cyfrwng neu foddion i ymgyrhaedd at y peth mawr, sef, addoli y Tad mewn ysbryd a gwirionedd. Rhaid canu â'r deall ac â'r ysbryd. Gyda medrusrwydd a threfn yr ydym yn gallu gwella llawer ar gan- iadaeth y cysegr yn alîanol neu gelfyddydol; ac y mae hyny yn angenrheidiol. Y mae canu â'r deall yn dda, ond y mae canu â'r ysbryd yn well, am ei fod yn golygu ae yn ymgyrhaedd at bethau mwy sylweddol a pharhaus. Dal perth- ynas â byd o amser yn benaf y mae canu â'r deall; ond y mae canu â'r ysbryd yn dilyn tu- draw i amser—i'r byd mawr ysbrydol a thragy- wyddol, Dadblygiad o alîu a nerth meddyliol dyn yw canu â'r deall, heb amcan uwch iddo na dyrchaf- iad cymdeithasol ar saii celfyddyd ; ond os cawn ysbryd Duw i'n mynwesau, y rnae canu â'r deall yn cael ei droi i fod yn foddion i ddyrchafu ein meddyliau uwchlaw y celfyddydol a sylw cym- deithasol, nes cyrhaedd y pwynt uchaf mewn perffeithrwydd. Bydd ein henaid yn cael ei gario i'r byd anweîedíg. i gymysgu ein cao ag angylion Duw, i ddyrchafu ein lleisiau gyda'r cor ysbrydoledig, ac i dywallt ein moliant ger bron y Gwaredwr, nes byddwn yn anghofio pa un ai yn y corff ai allan o'r corff y byddwn. Mewn gair, ymgyfìwyniad hollol a diragrith o'n serchiadau i Dduw, mewn modd ysbrydol ac addoliadol, yw caniadaeth y cysegr i fod. Yn 2il, Oaniadaeth y cysegr fel y bu ac íel y mae. Y mae caniadaeth gysegredig ac addol- iadol yn y byd er yn foreu. Yn fuan wedi i'n Oreawdwr "syJfaenu y ddaear," cawn i holl feibion Duw orfoleddu, ac i ser y boreu gydganu mawìgerdd nefolaidd iddo. Felly, gwelir mai nid rhan wedi dyfod i fodolaeth yn ddiweddar o wasanaefch cysegredig ydyw canu ; na, y mae yn hen arferiad. Oanodd Moses ac Israel anthem o fawl i Dduw am y waredigaeth ryfedd hono wrth y Mor Coch ; Deborah a Barac, wedi y waredigaeth o law Jebin, brenin Oanaan. Ond gwan ac anmherffaith ar y cyfan oedd caniad- aeth y cysegr yn fìaenorol i Dafydd, Perganied- ydd Israel. Oyfansoddodd ef lawer o ber- ganiadau digyffelyb, o ansawdd grefyddol, efengylaidd, ac ysbrydoledig, i'w canu yn ngwas- anaeth addoliadol y Duw byw; ac y mae yn cymhell pob perchen auadl i foiianu yr Arglwydd. A thrwy ei allu a'i fedrusrwydd anghydmarol, gwellhaodd a choethodd lawer ar ganiadaeth ei oes. Wedi hyny nid oes dim neillduol yn hanes caniadaeth y cysegr hyd y ganrif hon. Mae'n wir ei fod yn arferedig ar hyd yr oesau. Cawn i'n Gwaredwr, ar ol gweinyddu y Swper Sant- aidd, ganu hymn ; a Phaul a Siìas ganu mawl. Yn yr oesoedd diweddaraf, cawn fod Mozart, Beethoven, Mendelssohn, Handel, J. S. Bach, ac ereill rhy luosog i'w henwi, wedi cyfansoddi tonau, perffeithio ac addurno llawer ar ganiad- aeth y cysegr, trwy ei ddwyn i fwy o sylw fel rhan arbenig o'r gwasanaeth Dwyfoí. Lluosog ac amrywiol ydyw yr ymdrechiadau a wnaed o oes i oes i geisio gwella a diwygio can- iadaeth y cysegr, ac y mae llawer a fu yn llafurio yn gaìed yn y gorchwyl pwysig hwn wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr ; tra y mae ereill ar y maes yn dyfal barhau. Ac wrth i ni edrych yn ol a chydmaru ein canu yn awr â'r hyn oedd er's haner canrif a mwy yn o!, y mae diwygiad amlwg iawn i'w weled yn yr addurniadau aílanol o hono, fodd bynag. " Y mae yr oes hon i'i oes- oedd a aethant heibio," meddai y diweddar Dan- ymarian, " fel y ddalen olaf mewn ambell lyfr, ar yr hon yr ysgrifenir ' Gwelliant Gwallau.' Eelly yn yr oes yma," meddai, " y mae gweìliant gwallau yr oes o'r blaen yn cael eu hargraffu."