Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÜfeRPPOR-Y-tëYMRY, DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol V. G-ORPHENAF, 1888. Rhit 7. CYNWYSIAD. Ein Touau Cynulleidfaol—y presenol a'r dyfodol Yr Ysgol Gerddorol .............. Y Wasg Gerddorol .............. Cerddoriaeth Gynulleidfaol............ Nodiadau ar Ddyddiau Boreuol Franz Liszt 85 8? . 87 EIN TONAU CYNULLEIDFAOL,— Y PRESENOL A'R DYFODOL. YPRESENOL.—Y mae yn ffaith fod genym fel cenedl doraeth lled helaeth o donau gwir dda. Yr ydym wrth ddweyd hyn yn awgrymu y tonau o awduraeth Gymreig. Cred- wyf fod genym donau saif ochr yn ochr a thonau unrhyw genedl arall. Gwelais yn ddiweddar mewn llythyr yn y Monthly Tidings, gan un a arddela yr enw " Precentor," wrth d'ynu sylw at ganu cynulleidfaol, yn anturio dweyd nad yw y tonau goreu yn Llyfr Mr. Jenkins ddim i'w qael gan awdwyr Cymreig. Credwyf fod gan awd- wyr Cymreig yn y llyfr dan sylw donau saif ochr yn ochr (a dweyd y lleiaf) a dim sydd ynddo, ac hefyd â thonau unrhyw genedl arall. Beth feddyliai "Precentor" am y tonau can- lynol sydd yn Llyfr Mr. Jenkins :—LiverpooI, Moab, Ashgrove, Syria, Groeswen, Ardudwy, Tanycastell, Henryd, Islington, Aberystwyth, Llanrwst, Rhianfa, a Wynnstay? Beth hefyd am yr hen alawon Cymreig canlynol:—Twr- gwyn, Bangor, Dyffryn, Gwalia, Britain's La- ment, St. John, Desire, a Joanna? &c. Rhyf- edd fod "Precentor" mor Ilaw drwm ar ein tonau, ac hefyd am roddi cynghor i Mr. Jenkins i beidio llwytho tudalenau ei atodiad i'r llyfr â'r fath donau a rhai o honynt sydd wedi ym- ymddangos yn ei lyfr. Diau fod amryw o'r hen alawon Cymreig yn cael eu canu gan gy- nulleidfaoedd Seisnig, pa rai na fedrant ganu y tonau sydd yn y cywair Ileiaf gyda'r fath hwyl ac ysbryd a fedr ein cynulleidfaoedd Cymreig. Yr wyf yn brofìadol o hyn, ac yn wir y mae ein cynulleidfaoedd Seisnig Cymreig yn euog o'r un peth. Yr wyf wedi eu galw hwynt yn hen alawon Cymreig, ond credwyf mai hen donau Cymreig fyddai oreu, gan fod hen alawon Cym- reig yn cyfeirio at ein halawon bydol, tra y mae y llall yntau yn cynwys y rhai cysegredig; y mae y ffìn wahaniaethol rhwng y ddau ddos- barth yma wedi myned yn un gwan iawn erbyn hyn. Gellir gweled mewn casgTiadau erbyn hyn pob math o gerddoriaeth wedi èu trefnu yn don- au cynulleidfaol, megys Dead March; hen ddawns-don Ffrengig, megys Breuddwyd Ros- seau ; symudiad offerynol, megys Bavaria ; cyd- gan Baalaidd, megys Carmel; solo o'r "Mes- siah ;" cân Seisnig a Chymreig, &c. Beth ellir gasglu oddiwrth hyn 1 Wel, gellir casglu fod chwaeth y bobl ac arddull tonau yn newid, gyda phob oes, ac yn wir yn amlach na hyny. Yr wyf fl yn cofío llawer iawn o wahaniaeth yn arddull ein canu cynulleidfaol; yr wyf yn coflo hen donau, megys y rhai sydd yn Nghaniadau Seion, Haleluwia, a'r Haleluwia Drachefn, yn cael eu canu ar hyd a lled y wlad. Yn fuan wedi hyny daeth yr arddull Ellmynaidd i arferiad yn lled gyffredinol, ac wedi hyny yn fuan yr oedd ein cynulleidfaoedd yn ymawyddu am fwy o am- rywiaeth yn yr alawon, ac ychwaueg o fireinwch yn y gynghanedd. Oredwyf fod tonau Mr. Sankey ar un llaw, a thonau bywiog yr Eglwys- wyr ar y llaw arall, yn ogystal a'u dull effro a phompus o gario yn mlaen eu canu wedi bod yn fantais i fagu yr awydd hwnw. Llawer o ganu sydd wedi bod ac yn bod eto ar donau Mr. Sankey; y mae un yn awr ac yn y man yn gwneyd y tro yn weddol, ond i rygnu arnynt yn barhaus fel y mae rhai cynulleidfaoedd yn gwneyd, yn ddigon i syrffeti unrhyw gerddor o chwaeth. Y felodedd yw y peth goreu sydd ynddynt; ond am y gynghanedd, nid oes dim freshiess i'w gael ynddynt, y cordiau mwyaf cyffredin yn barhaus, nes eu gwneyd hwy yn undonol a dieffaith. Y mae ein hen donau Cym- reig yn wahanol iawn ; y mae eu cynghanedd- ion, lawer o honynt erbyn hyn, yn dda iawn ; ac yn ddiau wedi eu cynghaneddu gan ein cy- nghaneddwyr goreu, ni flina gerddor o chwaeth wrth eu canu, gan fod cymaint o hwyl a fresh- ness yn y felodedd a'r gynghanedd yn arbenig trwyddynt, maent oll, gydag ychydig iawn o eithriadau, wedi enill iddyut eu hunain gymer- adwyaeth calon a safle gysegredig yn aüdoldai ein cenedl, a rhoddasant, ganoedd o weithiau, ^galonau yr hen addolwyr disyml gynt yn dan- ' llwyth o orfoledd. Y mae y pwnc yn bur dywyll