Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dJERPPOR- Y • ÇyMRY. &f tuasatraetft Cfcrôôariastfu &c*t m mltHtlt U Cömtg. DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol V. MEHEFIN, 1888. Riiif./e. CYNWYSIAD. Nodiadau ar Ddyddiau Boreuol Franz Liszt Nodiadau............ Yr Ysgol Gerddorol ..... Y Wasg Gerddorol ...... Glan Hen Afon Tywi ..... Cerddoriaeth Gynulleidfaol ... NODIADAU AR DDYDDIAU BOR- EUOL FRANZ LISZT. {Cystadleuatth Cerddor y Cymry.) " AE yr enw sydd uwchben yr ysgrif hon yn hysbys i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr y Cerddor—Liszt, y prif chwareuwr ar y berdoneg a welodd y byd erioed. Ond er fod yr enẅ yn swnio yn eithaf cynefin, eto credwn nad yw hanes by wyd y dyn talentog mor adnabyddus ag y carai ìlawer ei fod. Mae y berdoneg yn dyfod i sylw neillduol yn ein plith y dyddiau presenol, ac felly, nid hollol annyddorol fyddai ysgrif ar fywyd un o'i phrif arwyr. Er nad yw gofod yn caniatau i gael ond ychydig o hanes dyddiau boreuol y dyn yn yr ysgrif hon, eto credwn mai dyma y rhan fwyaf dyddorol o'i hanes. Y plentyn yw tad y dyn meddir, ac nid oes angen sylwi na chwilio llawer cyn gweled gwirionedd yn yr hen ddywediad. Tyfed ac ymeanged y dderwen i'r maintioli mwyaf, bydd y ffaith ei bod wedi cael dechreuad yn y fesen yn aros yr un." Yr un fath eto, os bydd athrylith gref yn y plentyn, ni fydd angec dim ond gwrteithiad priodol er ei chaeí o wasan- aeth iddo ; ac er i'r llwyddiant fyned mor eang ag y byddo bosibl yn y blynyddoedd canlynol, gellir dilyn yn drwyadl elfenau y cwbl i'w dymor boreuol. Ganwyd Franz Liszt yn mis Hydref, 1811, mewn pentref bychan a thawel o'r enw Raiding, yn ngwlad Hungari. Enw ei dad oedd Adam Liszt, ac enw ei fam ydoedd Anna. Enillai ei dad fywioliaeth dawel a chysurus, o dan y Oount Esterhazy, fel cyfrifydd a goruchwyliwr ei ystad. Yr oeid y Count yn berchen hefyd ar gerddorfa ag oedd wedi dyfod i enwogrwydd mawr ar y Cyfandir, o ba un yr óedd Adam Liszt yn aelod ; a chan ei fod yn feddianol ar alluoedd cerddoroí y tuallan i'r cyfredin, daeth i gyffyrddiad ag amryw o brif gerddorion yr oes ; a bu, lawer adeg, yn chwareu yn y gerddorfa gyda Oheru- bini, a Hummel, dysgybl Mozart. Pan yn bedair oed, dangosodd Franz hoffder neillduol at y berdoneg, a phe gofynai rhywun iddo beth garai wneyd, ei ateb bob amser fyddai, " Ohwareu y berdoneg." Drachefn, yn mhen amser, gofynai ei dad iddo beth garai fod. " Fel efe " meddai, gan gyfeirio â'i fys at ddar- lun o Beethoven oedd yn grogedig ar y mur. Treuliai yr holl amser oedd yn gael i chwareu gyda'r plant eraill, i ddysgu ar ei hoft offeryn ; a dyna lle y byddai yn difyru ei hun mewn ffeindio allan 3eddau, a chyfryugau eraill. Dangosai allu rhyfeddol hefyd mewn cysylltu cordiau, trawsgyweiriant (modulation) Meistr- olodd y graddfäu (scales) ac ymarferiadau heb unrhyw anhawsder. Yr oedd y cwbl mor na- turiol iddo, vel nad oedd angen dim ond gafaelyd ynddynt, a gadael i bob peth gymeryd ei gwrs. Nodweddid ef mor foreu a hyn gan yr angerdd- oldeb mawr a fu arno trwy ei oes am wybodaeth, ac hefyd y difrifwch di-aiì mewn cysylltiad a phobpeth y gafaelai ynddo. Cafodd ei daro â thwymyn boeth, ond nid oedd bosibl ei gael oddiwrth ei offeryn hyd nes i'w nerth dreulio allan yn Jlwyr ; yna gorweddai, a gweddiai yn uchel ar i Dduw ei wella, gan add- unedu, os ca'i wellhad, na wnai ddim ond tônau a fyddai wrth fodd Duw a'i rieni. Ÿr oedd pawb yn benderfynol mai cerddor oedd Franz i fod ; ond yr oedd y fath gwestiynau a, Sut ei gael i'r amlwg ì a, Sut oedd iddo gael addysg? yn rhai nas gallasai eu cymydogion tlawd eu hateb. Pan yn wyth mlwydd oed, gwawriodd ychydig arno. Ffurfiwyd cyngherdd yn nhy y Oount Esterhazy, lle yr oedd Franz ieuanc i chwareu ; a chwareuodd nes eu gyru i gyd i syndod. Enillodd iddo ei hun y fath glod gan y boneddion oedd yn bresenol, fel y ffurf- iwyd yn y fan bwyllgor, er cael arian i roddi addysg iddo. öasgiwyd digon i roddi addysg iddo am chwe' blynedd, yn ol 200 florins y fiwyddyn. Teimlai ei rieni eu sevyllva yn awr yn ddifrifol. Er mwyn cael Franz i le manteisiol i dderbyn addysg, byddai raid iddynt hwy fyned gydag ef; ac felly, wrth gwrs, byddai raid i'w dad roddi i fyny ei swydd dawel a chysurus yn nhy Count