Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

toPPOR.Y-tëYMR.Y DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Oyfrol V. MAI, 1888. Rhit. 57. CYNWYSIAD. Cymdeithas Gerddorol Cymru Yr Ysgol Gerddorol ......... Ein Bwrdd Cerddorol......... Y Wasg Gerddorol ......... 77 79 79 79 CYMDEITHAS GERDDOROL CYMRU: CYFARFOD Y SEFYDLIAD. GYNALIWYD y cyfarfod uchod yn Neuadd y Dref, Abertawe, dydd Sadwrn, Mawrth 31, am ddau o'r gloch yn y prydnawn, dan /-) I ly wyddiaeth y Parch. John Griffiths, Árch- ^* ddiacon Llandaf. Oafwyd cynulliad cryf a Uuosog iawn. Yn mhlith y rhai oeddynt yn bresenol, yr oedd y boneddigion canlynol:— Dr. Parry, D. Jenkins, Mus. Bac, Aberystwyth ; Alaw Ddu, Mri. John Watkins, A.C., Treforris ; W. T. Samuel, G. & L., Abertawe; D. Grifflths, A.C., Cwmbwrla ; G. Anthony, A.C., Cwmbwrla ; Tom Price, A.C., Merthyr ; Jacob Davies a Mrs. Olara Novello Davies, Caerdydd ; Seth P. Jones, Penclawdd ; Alaw Meudwy, Llanelli; J. George, Llanelli; T. J. Davies, Abertawe; J. G. Noakes, Scranton, Pennsyl- vania ; Dd. Hughes, R.A.M.; Ap Caradog, a llu ereill. I agor y cyfaifod* cafwyd anerchiad gan y llywydd, yn ei ddull meistrolgar arferol,— cafwyd awgrymiadau buddiol ganddo, y rhai a fyddant er lles mawr yn ol liaw, ac o fudd i'r Gymdeithas. Yna, cafwyd darlleniad o weithrediadau y cyfarfodydd blaenorol gan yr ysgrifenydd. 1. Cynygiwyd gan Mr. John Watkins, ac eiliwyd gan Mr. W. T. Samuel, fod darlleniad yr ysgíifenydd o weithrediadau y cyfarfodydd i'w mabwysiadu. 2. Cynygiwyd gan Alaw Ddu, ac eiliwyd gan John Bevan, Treforris, fod Oymdeithas o natur °°ü Ji gael ei sefydlu yn Nghymru, ac fod yr adeg wedi dyfod pan y mae rhaid i Gymru wrth sefydliad o'r fath. 3- Cynygiwyd gan Mr. D. Jenkins, ac eiliwyd SaQ Athan Fardd, fod y Gymdeithas i'w galw yn Gymdeithas Gerddorol Cymru." 4. Etholwyd y rhai canlynol yn swyddogion : —Llywydd y Gymdeithas, Archddiacon Llan- daf; Is-lywyddion, Dr. Parry, D. Jenkins, Mus. Bac, D. Emlyn Evatis, Alaw Ddu, John Thomas, Llanwrtyd, ac Eos Morlais ; Trysorydd, Mr. Jacob Davies, Caerdydd; Ysgrifenydd, Rees Jones, Glandwr. 5. Cynygiwyd gan Mr. D. Jenkins, ac eiliwyd gan Mr. W. T. Samuel, fod un rhan o dair o'r Is lywyddion i gael ei newid bob blwyddyn. 6. Cynygiwyd gan Mr. John Watkins, ac eiliwyd gan Alaw Meudwy, fod y swyddogion i'w ffurfio yn councìl. 7. Oynygiwyd gan Mr. John Watkins, ac eiliwyd gan Alaw Meudwy, fod y Gymdeithas i wneyd appel at bwyllgorau eistetìdfodau ein gwlad i dalu mwy o sylw a rhoddi mwy o gefn- ogaeth i ddarnau cyfansoddwyr Oymreig. 8. Cynygiwyd gan Mr. D. Jenkins, ac eilwyd gan Mr. W. T. Samuel, fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Merthyr, dydd Mawrth, Awst 7. 9. Cynygiwyd gan Mr. D. Griffiths, ac eilwyd gan Mr. W. H. Rowlands, fod Mr. D. Jenkins i ddarllen papyr yn nghvfarfod Merthyr, ar " Ddiwygiad Eisteddfodol." 10. Cynygiwyd gan Alaw Ddu, ac eilwyd gan Seth P. Jones, fod yr holl drefuiadau yn nglyn â'r cyfarfod nesaf i'w hymddiried i Mr. Tom Price, Merthyr, a'r Ysgrifenydd. 11. Oynygiwyd gan Mr. D. Griffiths, ac eiliwyd gan Ap Oaradog, fod yr Ysgrifenydd i gael stamp a phop peth angenrheidiol at wasan- aeth y Gymdeithas. Dygwyd yr etholiadau oll yn mlaen trwy y tugel. Darllenwyd llythyrau oddiwrth rhai o brif arweinyddion a cherddorion Cymru, ac yn eu mysg Caradog, Mr. D. Bowen, Abercarn ; Mr. Rees Evans a Hywel Cynon, Aberdare ; Telorydd, &c, &c, y rhai sydd yn barod i wneyd yr hyn a allont er llwyddiant y sefydliad, ac yn flin iawn na allasent fod yn bresenol yn y cyfarfod. Y mae yn galondid mawr i'r rhai sydd wedi cychwyn gyda'r mudiad hwn i weled eu llafur yn cael ei goroni gyda'r fath lwyddiant, ac, fel un, yr wyf o eigion fy nghalon yn dymuno diolch i bawb yn ddiwahan am y sirioldeb a'r cyd-