Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tëERPPOR-y.tëYMRY. DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Oyfrol V. EBRILL, 1888. Rhit. 56. CYNWYSIAD. Nodiadau Beirniadol ar Fywyd ac Athrylith Ludwig Van Beethoven ................ 73 Yr Ysgol Gerddorol .................. 75 Y Wasg Gerddorol ................. 75 Ysgrif Lenyddol ar "EinCanu" ........... 76 NODIADAU BEIRNIADOL AR FYWYD AC ATHRYLITH LUDWIG VAN BEETHOVEN. Gan T. Howells, Pentee Ystrad. TT'RS blynyddau bellach y mae'r enw sydd yn Vj benawd i'r ysgrif hon wedi dyfod yn enw teuluaidd yn y byd cerddorol; a diau ei fod yn swnio mor hyfryd. ar glustiau cerddorion ag un- rhyw un o gewri cerddorol Germany. ftanwyd ef yn Bòn, Rhagfyr yr 16eg, 1770, a bedyddiwyd ef y diwrnod canlynol. Yr oedd ei dad yn gerddor, ond dywedir ei fod yn dilyn bywyd afreolaidd iawn, ac felly ni chafodd Ludwig y ddysgyblaeth oreu. Ónd nid oedd hyn yn ddigon i guddio y fath athrylith a Ludwig Van Beethoven. Nodweddid ei fywyd gan ei ysbryd annibynol: mynai gael ei ôordd ei bun. ac nid ymostvngai i gymeryd cvnghor nac addysg gan neb. Torai allan ffordd iddo ei bun, ac ar hyd hono yr âi; yr oedd mor wreiddiol o ran y dyn ag ydoedd o ran ei feddwl. Nid oedd yn gofalu dim am y dyfodol, nac yn prisio dim beth fyddai barn pobl am ei arferion ; medrai werthfawrogi a thalu sylw i farn beirniaid da, ond ni chymerai sylw o nodiadau maleisus a chenfigenllyd, er y byddai y naill am ei anfon i'r carchar, ac un araìl am ei anfon i'r gwallgofdy. Ei ddywediad cyffredin ydoedd:—" Os ydyw pobl yn cael difyrwch mewn ysgrifenu pethau fel hyn am danaf, gad- ewch iddynt fyned yn mlaen cyhyd ag y bydd- ant yn dewis." Fid oedd cyfraíth nac urddas daearol yn dylanwadu arno mewn un moiid. Edrycbai ar y pethau hyn fel pethau damwein- ^oh Yr oedd ymgrymu i Mamon yn ei olwg ef yn gabledd ac yn ddiraddiad o'r fath iselaf ar ddyn o athrylith, ac ni roddai barch i ddyn cyfoethog hyd nes y deallai ei fod yn ddyn call a charedig, ac edrycbai arno ei hun fel un wedi cael bodolaeth gan Dduw, a chredai fod iddo le a neges arbenig. Y mae hanes prif deithiau Beethoven yn eithaf adnabyddus; ar y cyfan, yr oedd ei fywyd yn un syml a llonydd, nid oedd yn gysylltiedig ag ef ddim o'r ymdrech y bu raid i Gluck a Handel fyned trwyddynt yn Paris a Llundain ; ac y mae taith i Loegr, yr hyn a goronodd benllwyd- ni y tad Haydn, yn ddiffygiol yn hanes Beet- hoven. Ac nid oedd 'chwaith ddim yn hynodi tymor ei ieuenctyd a barai i bobl synu wrth ei weled, megys Mozart. Er i Mozart ddyweyd am dano unwaith wrth ei glywed yn chwareu yn ddifyfyr ar destyn a roddasid iddo :—" Fe wna y llanc vma swn yn y byd ryw ddydd." Bywyd J. S. Bacb yn unig sydd wedi dyfod i lai o gyfar- fyddiad â'r byd mawr, llydan, nag ef, Dech- reuodd gyfansoddi yn lled ieuaac, ac yr oedd ei drio i'r piano, y violin, a'r viol,oncello yn un o'r pethau goreu a ysgrifenodd yr adeg hono, a dy- wedir fod hon yn danaics pa mor uchel y safai Mozart yn ei olwg, a pha mor foreu yr oedd wedi dechreu ei addoli. Yn ystod yr amser hyn, ac am flynyddau wedi hyn. ni wyddai ond ychydig am gynghanedd, na dim am wrthbwynt. Yr oedd ei ddychymyg yn gryf, a'i glust yn goeth, ac felly efe a gvfansoddai rhag ei flaen heb ofalu am reolau yr afchrawon. Tuag at iawn ddeall sefyllfa Beethoven, rhaid i ni ge;sio cadw mewn cof beth oedd sefyllfa cerddoriaeth ar y Cvfandir y prvd hwnw. Yn myd barddoiol y Cyfandir y prif enwau oedd- ynt Herder, Wieland, Lessing, a Goethe. Gweith- iau y rhai hyn oedd yn rhedeg ac yn dylanwadu trwy yr holl wledydd. Y cerddorion oeddynt J. S. Bach a'i feibion, Gluck, Mozart, Haydn, a Salieri. Yr oedd gweithiau y rhai hyn wedi dyrchafu cerddoriaeth yn y fath fodd, ac yn enwedig yn mysg y dosbarth uchaf, fel yr oedd gwybodaeth o'r egwyddor a medr yn y gelfyddyd yn angen- rheidioí i gvmdeithas goeth a deallgar ; ac yn yr amser hyn yr oeid "Creation" Haydn ac oratorios Handel yn cael eu mwynhau gyda cherddorfeydd bychain o 150 i 200 o gerddorion, am fod pobl yn deall ac yn mwynhau cerddor- iaeth, ac nid yn mawrygu swn. Meddwl ac enaid mewn cerddoriaeth oedd yn caelei fawrygu