Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ERDDOR.Y.CYMRYi DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol IV. HYDREF 1887. Rhif. 50. CYNWYSIAD. Nodiadau............... Adgofion am Fordaith o Eleser Yr Ysgol Gerddorol Y Bugail Da ............ NODIADAU. rMDDENGYS i Eisteddfod Dalaethol Porthmadog droi allaa yn bur lwyddianus mewn ystyr gerddorol yn gystal ag mewn ystyr arianol. Canmolai Dr. Parry y cyf- ansoddiadau cerddorol yn fawr. Y mae eíe yn cydnabod, bellach, fod tô o gerddorion lled addawol yn codi yn Nghymru. Barna ereill o'n prif gerddorion fod gwell gobaith am gerdd- oriaeth Oymru yn awr nag a fu ; ond ffolineb yn mhob ystyr ydyw gor-ganmol pethau, fel ag y gwneir yn ddiweddar. Mor barod yr ydym i fyned o un eithafíon i'r llall, pan fo hyny yn ateb ein pwrpas ! —o— Dylai ein cerddorion ysgrifenu eu beirniad- aethau (neu gael rhywrai i wneyd hyny dros- tynt) yn y Gymraeg, fel y byddont ar glawr a chadw. Gwrthun i'r eithaf ydyw ceisio cyngh- ori sefydlu hyn a'r llall yn ein gw]ad, ao, 'ar yr un fynyd, yn dibrisio ein hiaith. —o— Mawr yr awydd erthyglu sydd wedi disgyn ar y Pencerdd Parry, a hyny yn yr iaith fain ! Dywed lawer o bethau gwir werth talu sylw iddynt. Yn mhlith llawer o bethau sydd yn dal mwy o gysylltiad personol iddo ef na neb arall, teiíi allan aml i awgrymiad teilwng o ymenydd y Oelt gwyllt a brwdfrydig. Dyna y syniad am sefydlu Coleg Cerddorol Cenedl- aethol, a'r Gymanfa Gerddorol Genedlaethol nefyd. Paham na eilw Dr. Parry bwyilgor o °rif ddynion sydd yn teimlo dros lwyddiant cerddorol y genedl at eu gilydd i fyned dros y Petnau yma? Dylem, yn bendifaddeu, gyd- wmhredu yn y pethau hyny sydd yn ymarferol, ac fe wnelid hyny ond cael trefn i weithio. Pwy yn fwy cymhwys na Dr. Parry i wneyd hyny ì Credwn pe byòdai iddo ef, ac ereill sydd yn cyf- rif eu hunain yn ddysgawdwyr, gymeryd y cwrs y maentyngymeryd ynawrflynyddoedd yn ol, y byddai rhywbeth wedi ei wneyd. Nid yw yii rhy ddiweddar eto, a gwell un gynadledd o'r fath na mil o lythyrau masw, ac o gynlluniau anym- arferol. —o— Beth am y colofnau cerddorol yn y papyrau Cymreig 1 Ý mae llithiau y Genedl wedi darfod : ceir ambell i lith dduwiolfrydig gan Pencerdd y gân yn y Faner, a gwelwn fod yr oracl mawr cerddorol, mewn papyr pwysig arall, wedi ad- newyddu ei nerth fel yr eryr eto. Yn absenol- deb cyhoeddiad cerddorol, lle gellid trafod mater- ion cerddorol yn helaeth, purion peth y colofnau papyrol, ond eu bwydo yn briodol. Yr ydym ni yn parhau ein llafur yn nglyn â'r Cyfaill, am fod canoedd yn dymuno i ni wi.eyd hyny ; ond, ysywaeth, nid yw y canoedd hyuy yn ddigon i gynal un cyhoeddiad cerddorol! —o— Gyda Uaw, mawr yw y twrw am godi cy- hoeddiad cerddorol eto, a hyny gan yr un dynion ar a adawsant i'r Gerddor Gymreig, Greal y Corau, Y Gerddorfa, Yr Ysgol Gerddorol, Cronicl y Cerddor, a Cheeddoe y Cymry, farw 1 Wel, wel, ffordd y gallwn gael cyhoedd- iad cerddoroí cenedlaethol Oymreig, pan y cefn- ogir y wasg Seisnig gan fwyafrif mawr ein cerdd- orion 1 Addewir pobpeth gan y rhai sydd yn gwneyd i fyny Oymru Fydd, er nas gallwn weled un seren ddysglaer iawn, fel Uenor cerdd- orol, yn ffurfafen dywell y dyfodoì. Efallai fod ein llygaid ni yn bŵl, serch Ìiyny. —o— Dywedir yn awr, ac, meddir, ar dystolaeth ddiwyrni, mai Dr. Rogers oedd yn gydfuddugol â Mr. Tom Price ar y rhangan, yn Eisteddfod Llundain. Pa eisieu gwneyd y fath gynhwrf am beth mor ddistadl 1 Gobeithiwn fod ein cyfaill o Ferthyr yn gosod safon uwch o'i flaen fel cyf- ansoddwr cerrîdorol na'r Doctor o Fangor ! —o— Hysbysir ni, ar awdurdod dda, y cyhoeddir y