Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(SERPPOR.Y.jSYMRYi DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol IV. MEDI, 1887. Rhif. 50. CYNWYSIAD. Eisteddfod Llundain .................. 45 Eisteddfod Ffynon Taf................. 47 Yr Ysgol Gerddorol .............. ... 47 Ein Bwrdd Cerddorol.................. 48 Y Wasg Gerddorol ...... ,........... 48 Y Bugail Da ..................... 4g Rhestr o Enwau Prif Gerddorion ............ 48 Rhangan Gysegredig—" Ar lan Iorddonen ddofn." EISTEDDFOD LLUNDAIN, AWST gFED, IOFED, IIEG, A'R I2FED. DAN y penawd yma y mis o'r blaen, darfu i ni ddymuno yn dda i Eisteddfod Llun- dain, neu Gaerludd, fel y myn ein hen feirdd ei galw ; erbyn hyn rhaid ei rhestru hithau yn mhlith y pethau a fu. Add- awsom feirniadu y gweithrediadau, a hyny a wnawn o dro i dro, fel y bydd amgylchiadau yn caniatau. Rhaid i ni, pa fodd bynag, y mis hwn, ddwyn tystiolaeth i ragoroldeb Eisteddfod 1887, a hyny mewn llawer ystyr. Nis gallasai neb ond dynion o brofiad hir, a gwybodaeth helaeth, drefnu i beiriant mor fawr symud mor heinyf a didrwst ; ie, a didram- gwydd i bawb, mor belled ag y gwelsom ac y clywsom ni. Yr oedd pethau wedi eu hysbysu a'u trefnu mor eglur a pherffaith yn y ddwy iaith (y Gym- raeg yn mlaenaf, fel y dylasai), fel y mae yn syn fod yr arweinyddion yn gwneyd y fath ffwdan gyda galw pobpeth allan o'r llyfr, fel pe na buasai y rhai oeddynt yn bresenol yn galiu dar- llen drostynt eu hunain. Aeth y Pwyllgor y íiwyddyn bon alìaa o'u ffordd i gefnogi y Gymraeg, ond ofuwn fod can- oedd o'r Cymry eu hunain yn ddiystyr o'r ym- drech clodwiw yna o eiddo Oymry goleuedig a da y Brifddinas. Ceir clywed mwy, ond odid, am hynyma. Gyda bod hon yn hynod am ei threfnusrwydd, a'i hymlyniad a'i pharch i'r Gymraeg; yr oedd hefyd yn un hynod am atal gwobrau ! Atal- iwyd amryw o wobrwyon yn mhob un o'r ad- ranau, peth digon diflas, a hynod ddigalon i'r rhai oedd ar eu goreu oedd hyn. Gan nad beth oedd yr achos, y mae yn cael effaith annymunol ar y wlad. Er íbd tôn yr holl bapyrau Seisnig yn dra ffafriol i'r Eisteddfod, bellach, sylwasom fod rhai o honynt yn cael cryn ddifyrwch a defnydd i ddefnyddio gwawdiaith gyda'r an- nheilyngdod yma o hyd. Y rhanu gwobrwyon diddiwedd, hefyd, yn waith digon anfoddhaol. Yr oedd digon o feirniaid galluog ac enwog wedi eu cyflogi, a dylasent benderfynu i drwch y blewyn mewn llys mor uchel, a than amgylch- iadau mor bwysig. Peth rhyfedd fod y votes mor gyfartal o hyd ! A phaham na fuasid yn cael pump neu saith 1 yn ììe y rhif cyfartal ac anghyflawn—-chwech ! Beth am y beirniad- aethau ì Y mae arnom ofn na chlyw y corau, ac ereill, air byth mwy ond a glywsant, wedi'r holl boen a'r drafferth i ymdrechu dyfod i fyny â'r safon !! Dyma'r oll a gafwyd oddiwrth yr hen ysgolor cerddorol uchel, Macfarren ; ac fel datganiad o ragoroldeb y canu, y mae yn werthfawr:— " Yr oedd yn syndod iddo," meddai ef,'' fod y fath ragoriaeth mewn canu corawl wedi ei ddadblygu yn Nghymru, lle yr oedd ond ychydig gyfleusderau i glywed datganiadau o'r dosbarth uchaf. t Yr oedd yr holl gorau yn haeddu y canmoüaethau goreu. Yr anhawsder ydoedd dewis." Yn ei feirniadaeth ar y brif gystadleu- aeth, dywedai—-" Y mae y wawdiaeth a deflid arnoch yn flynyddol yn eich gwlad eich hunain i'r perwyl na chaniatewch i neb o'r tu allan i chwi ymgeisio yn eich herbyn, yn cael ei wrth- brofi yma heddyw yn gymaint â'ch bodwedi gwahodd personau o'r tu allan i gydymgeisio â chwi. Yr ydych wedi profi eich bod yn alluog i roddi perfformiad ardderchog." Y mae y sylwadau hyn oddiwrth ŵr o safle Dr. Macfarren yn adlewyrchu llawer o glod i gantorion y Dywysogaeth ; a diau y cy- nyrchant ysbrydiaeth newydd yn y gwahanol gorau i ragori yn y dyfodol; ond buasai yn Hawer mwy dymunol pe ceid beirniadaeth fanol ac addysgiadol. Diau fod y beirniaid Oymreig wedi gwneyd sylwadau, ac ni ddylai gwyleidd- dra eu hatal rhag rhoddi cyhoeddusrwydd iddynt. Am danom ein hunain, gallwn uno gyda'r