Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(ÜERPPOR.y.tëYMRYi &t ms&mm&th Ŵtŵ&mimthf &t+Ỳ gtt mftHift s Cgmrg DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Oyfrol IV. AWST, 1887. Rhif. 49, hono. CYNWYSIAD. Eiateddfod Llundain ................. 41 Cerddoriaeth Gyfansoddiadol y Cymry ......... 41 Eisteddfod Gerddorol y Borth ............ 43 Yr Ysgol Gerddorol .................. 43 Nodau Beirniadol ar Fywyd ac Athrylith Mozart ... 44 YBugailDa ..................... 44 Rhestr o Enwau Prif Gerddorion ............ 44 EISTEDDFOD LLUNDAIN, AWST gFED, IOFED, IIEG, A'R I2FED. AE yr Eisteddfod fawr Genedlaethol wrth y drws eleni eto. Mae hon yn Eisteddfod a dỳn sylw y genedl yn gyff- redinol; bron na ddywedwn na fydd y genedl yn yr Albert Hall yr wythnos 0 ran ein hunain, yr ydym yri gobeithio y try pethau allan yn fwy llwyddianus hyd yn nod na dymuniad y rhai mwyaf aiddgar ar ei rhan. Nid ydym yn awr am feirniadu y gweithred- iadau, gan ein bod yn golygu, os byw ac iach fyddwn, wneyd ysgrif feirniadol ar Eisteddfod 1887, ar ol iddi fyned heibio. Yr ydym wedi derbyn y pamphledyn tlws, yn rhoddi desgrifiad byr o'r prif weithrediadau, oddiwrth yr Ysgrifenyddion ; a deallwn y bydd y programme cyüawn yn barod cyn y bydd y rhifyn bwn yn nwylaw ein darllenwyr. Y diwrnod cyntaf cymer cystadleuaeth cor- au bechgyn le ; a'r brif gystadleuaeth ddydd Mercher. Dwy ymdrechfa bwysig fydd y rhai yma : 12 o bartion, a chwech cor mawr yn cyn- rychioli Gogledd a JDeheudir Cymru, gyda dau gôr o Loegr. Dydd Iau y bydd cadeirio y bardd, a rhoddir arbenigrwydd i'r amgylchiad. Nid oes son am y prif gyfansoddiad cerddorol yn y llyfr hwn o gwbl. Jûau gôr sydd yn ymgeisio ar y gystadleu- aeth gerddorol Gymreig, am y gwobrau o lOOp. a 25p., a rhai hyny o Ogledd Cymru ! Y mae y Pwyilgor wedi gwneyd ymdreeb gan- ^oladwy i wneyd hon yn Eisteddfod fwy Oym reigaidd, a hyny yn ystyr uchaf y gair; onú na feddylied y Pwyllgor mai o achos fod y darnau yn rhai Cymreig, nad oes rhagor o gorau yn yr ymdrechfa. Y mae rhesymau ereill i'w rhoddì am hyn, a gall y Pwyllgor dd'od o hyd iddynt ond meddwl. Dylai un o leiaf o'r darnau yn y brif gystadleuaeth fod o waith Oymro, ac ni ddy- lasid cau allan y côr buddugol ar y brif wobr yn y gystadleuaeth gyntaf rhag cynyg yn yr oll. Gallasai ein corau ar y brif ymarfer â darnau yr ail gystadleuaeth fel relief, pe gad- awsid hwy at eu rhyddid. Ond yr ydym wedi addaw peidio beirniadu. Gobeithiwn y teyrnasa heddwch trwy yr holl wersyll ar ol yr wyl fawr hon, ér anrhydedd y Cymry, a lles Üenyddiaeth a cherddoriaeth yn ein mysg. Deallwn y cynelir yr Orsedd, fel arfer, ac y rhoddir arbenigrwydd i'r gwahanol gyfarfodyd'd mewn cys^lltiad ag addysg mewn gwahanol agweddau ar y mudiad. Pan ystyriom hefyd fod yr hen wron, Mr. Gladstone, a'n Tywysog poblogaidd, yn mysg y Hywyddion elsni, rhaid y bydd y cyfarfodydd yn atdyniad i laweroedd heblaw y Cymry. CERDDORIAETH GYFANSODD- IADOL Y CYMRY. Cystadleuaeth Rhif. III. EÎN hamcan, er nas gallwn ei gwbl gyfìawnu mewn erthygl mor fyr, yw rhoddi ciptrem dros ein cerddoriaeth yn ei gwahanol agweddau neu ddosbarthiadau. 1. Oratorio.—O'rholl ffurfiau cerddorol, dyma yr uwchaf; ac wrth edrych ar ddiweddarwch dadblygiad cerddoriaeth Gymreig, yr ydym yn synu cael un o'r cyfryw yn ein plith. Y gyntaf i wneyd ei bymddangosiad ydoedd " Ystorm Tiberias, gan y diweddar E. Stephen. Ar ei hol daeth "Emanuel," Dr. Parry ; ac ar ei hol hithau, " Jeremiah," Owain Álaw. Am eu rha- goroldeb ni raid llefaru gair ; a'u dosbarthu o ran teilyngdod sydd anmhosibl, oblegid y dirfawr wahaniaeth sydd rhyngddynt. Er eu bod yn yr