Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

faPPOR.Y.tëYMRYi &t tuasatmeift ẅròòormctftt $x+f gn mltUtít 9 Csmtrg DAN OLYGIAETH W. T. REE (ALAW DDU). Cyfrol IV. GORPHENAF, 1887. Rhif. 48. CYNWYSIAD. Eisteddfod ündebol Cwmorthin .,....... Gladstone yn Abertawe............... Yr Ysgol Gerddorol ...... ,„ Ein Bwrdd Cerddorol.............. Nodau Beirniadol ar Fywyd ac Athrylith Moeart EISTEDDFOD UNDEBOL CWM- ORTHIN, &c, MAI çfed, a'r IOFED, 1887. BEIRNIADAETH Y DEUAWDAU.— GWOBR £l 10S. |ERBYNIWYD pump 0 gyfansoddiadau, y cyntaf 0 ba raì i gael sylw fydd eiddo " Cerddor Gwych." Dernyn yn yr hyn a elwir yr arddull Americanaidd, a'r hwn nid ydyw yn ddeuawd 0 ran ffurf, ond tôn i ddau lais yn hytrach. Cychwyna gyda 4ydd, dybla eiriau yn ddichwaeth—megys "faner Iesu," "gawn orchfygu," ac y mae'r aceniad yn fynych yn hynod 0 feius. Y naae "Perorydd" yn fwy uchelgeisiol, ac hefyd yn fwy galluog ; ceir yn y cyfansoddiad brofion amlwg o awengarwch uwchlaw y cyff- redin—yn neillduol yn nglyn â'r adran alawol, ond fod eisieu ymarferiad a gwrteithiad. Mae y darn yn rhy hirwyntog, yn cynwys gormod 0 symudiadau, ac yn crwydro yn ormodol i gy- weirnodau pell. Yn dra hynod hefyd ceir yma a thraw y gair "symphony," &c„ ond ddim oW symphony. Gor-wneir y llithreni ar "fe gan- wn," ac am y beiau elfenol, gweler y nodiadau ar y copi, yn neillduol y triniad anghywir o'r nod arweiniol yn y symudiad olaf. Glyned " Peror- ydd" wrth astudiaeth fanol a diflino ; diau ei fod yn ieuanc, a syn os na chlywir am dano eto. Os yw yn bresenol yn y cyfarfod, byddai yn dda gan yr ysgrifenydd ei weled. Yn nghyfansoddiad " Gwladgarwr," canfyddir ol llaw cerddor mwy profiadol 0 gryn dipyn, er nad yw yntau yn feistr ar deithi y ddeuawd. JJyma y cyntaf a rydd gyfeiliant offerynol, ac er nad ydyw yn ddiwall, y mae, serch hyny, ym amcanu yn bur wych ; am rai o'r prif golliantau, gweler y copi. Y prif weödidau ydynt unrhyw- iaeth mydryddol a chyweirnodol, a diffyg pwynt% neu glimax. " Bartholdy " sydd yn fwy 0 feistr ar yr ar- ddull ddeuawdawl, a ysgrifena well melodi i'r lleisiau, a rhagorach ranau i'r offeryn—er nas gellir mewn un modd ddyweyd fod yr olaf yn ddestlus nac yn ddifai, yn enwedig rhai o'r arpeggi: gweler y copi. A barnu oddiwrth yr arddull a'r llawysgrif, tebyg mai yr un awdwr ydyw. " A Paris Student"—Cyn beìled ag y mae a fyno a'r gystadleuaeth hon 0 leiaf, byddai UA Festiniog student," dyweder, yn Uawn mor gy- fareddol; ond biü a fyno am hyny, y mae llawer iawn ag sydd yn ganmoladwy yn y deuawd hwn—arddull briodol y ffurf yma 0 gyfansodd- iad, alaweg wych ar y cyfan, yn neillduol yn yr unawd i'r isalaw, cymhlethiad y ddau lais, a chyfeiliant effeithiol, er nad perffaith mewn rhai mân bethau : gweler y copi; felly dyfernir y wobr i'r Stnient hwn ag sydd wedi gorfod myned mor bell am dipyn 0 ffugenw. Y mae prinder deuodau o'r fath, a phurion peth pe y gallai y pwyllgor gyhoeddi yr un presenol, a chael dat- ganiad cystadleuol 0 hono mewn Eisteddfod ddyfodol. D. Emlyn Evans- Hereford, Ebrill, 1887. GLADSTONE YN ABERTAWE. Ymweliad Cor Undebol Abertawe a Sin- gleton Abbey i'w Serenadio. NI fuasai y dygwyddiad mawr hwn 0 ymwel- iad prif wleidyddwr yr oes â Deheudir Cymru yn gyflawn, heb gael gwasanaeth cerdd- oriaeth ; a gwnaed defnydd helaeth 0 honi er dathlu yr amgylchiad. I ddechreu, canwyd ei glod, a thorodd y teim- lad cenedlaethol allan yn aml a brwdfrydig, ar hyd yr holl ffordd 0 Benarlag i Abertawe. Ond nos Wener, y 3ydd, y cafwyd hyn ar raddfa eang, ar waith y cor mawr, yn rhifo 0 leiaf 300,