Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(gERPPOR.Y.tëYMRYi &t tu&sattîüfctft (Etetrôôoríafctít, &c, 13« mftHtlt g Csmrg DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol IV. EBRILL, 1887. Rhif. 45. CYNWYSIAD. Y Grythen (Violin) ...... ...........25 Yr Ysgol Gerddorol ...... ...........25 Hen Alawon ......... ...........27 Ein Bwrdd Cerddorol ...... ...........27 Madame Mara ... — ...........27 Ar Gadeiriad Bardd ..... ...........28 Bhestr o enwau prif Gerddorion ...........28 Nodiadau ............ ...........28 Y GRYTHEN (VIOLIN). CYSTADLEUAETH YSGOL GERDDOROL " CERDDOR Y CYMRY." GAN ThOMAS HOWELLS. (PARHAD.) 'ICHOLAS Gagliano, J. B. Gnadagini, Govani Tononi, Tomaso Balestrieri, De- coneti Lorenzo Storioni, Pietro Ambrosi, Ruggerius, &c., a adawsant ar eu hol offerynau o deilyngdod uchel iawn, ond nid oedd un o honynt mor uchel a Stradiuarius. Yn mysg gwneuthurwyr diweddaiach, y mae Darche, o Aaehen, a'i ddysgybl, Gorge Mon- genot, offerynau y rhai ganmolir yn fawr ar gyfrif eu tôn hyfryd, Gorge Gemünder a lwydd- odd i gynyrchu offerynau o sain dyner iawn. Andrae Ÿenini, Collin-mezin, ac amryw ereill ag y gallem eu nodi pe bjddai eisieu, sydd yn rhoddi i ni offerynau da iawn ; ond credaf mai eu prif ddiffyg ydyw boddloni ar geisio efelychu rhai o'r hen wneuthurwyr ardderchog, ac, fel mae gwaetha'r modd, yn syrthio yn fyr o gyr- haedd y nod. Ymddengys fod dau beth o'r pwys mwyaf yn ngwneuthuriad crythenau, sef, yn gyntaf, fod y coed yn gyfaddas o ran trwch, caledrwydd, a chyfuniad ; ac yn ail, fod y cryfion yn y maint a'r ffurf briodol. Y pren y gwneir y wyneb o hono ydyw ffawydd tyner; a goreu po ysgafnaf, tyn- eraf, a thyllog fyddo. Ond rhaid cael pren cal- etaeh i wneuthur y cefn, yr ochrau, a'r asenau ; * dywedir mai masarn (maple) ydyw y pren goreu i'r rhanau hyn o'r offeryn Ond y mae eisieu llygaid craff, a meddwl manwl a phrofiadol, ya y dewisiad o'r coed, yn gystal ag yn holl ffurf ft gwneuthuriad yr offeryn. Wrth ystyried hyn, a chofìo fod pob offeryn da yn gwella wrth hen- eiddio, nid yw yn rhyfedd fod offerynau o wneuthuriad Stradiuarius yn cael eu gwerthu am dri neu bedwar can' gini; ond nid ywyn rhyfedd eu bod mor ddyddorol i'r chwareuwyr, ac mor swynol eu tôn i'r gwrandawyr. 2. Enwau prif chwareuwyr a chyfansoddwyr idii, éc.—Ar dop rhestr y chwareuwyr rhaid i ni osod Paganinni, yr hwn, fel y mae'n hysbys, ydoedd un o'r chwareuwyr penaf y mae genym hanes am danynt. Yn y rhestr hon, hefyd, mae Mozart, Spohr, J. Barbon Swori, Marsik, Holman, Leonard, Armingand, Marie Tayan, Massart, Sawzay Dancla. Pranchome Maurin, Chevillard Jacquard, J. Engelbert Rolgen, Ole Bule, Berthould Tours, A. Burnet, W. F. Parker, F. Ralph, P. Sainton, &c. Yn mysg cyfansoddwyr i'r grythen cawn J. S. Bach, a Beethoven, yr hwn sydd wedi ysgrifenu llawer iawn o sonatas i'r violin a'r pianoforte. Y mae Mozart wedi ysgrifenu yn helaeth iawn yn yr un cyfeiriad ; cawn hefyd fod Corelli wedi ysgrifenu Uawer iawn o trios, duets, a solos ; ac mae Handel wedi ysgrifenu sonatas; ac y mae P. Sainton wedi ysgrifenu amryw ddarnau i'r violin a'r piano, a Weber, Roeckel, Franz Neruda, Schuman, Haydn, ac ereill ; ond credaf mai J. S. Bach, Beethoven, a Mozart, sydd wedi ysgrifenu fwyaf i'r offeryn hwn. Pentre, Ystrad, Pontypridd. YR YSGOL GERDDOROL. Gwobratj ! Gwbbsi ! ! Gwobrau ! ! ! (Diolchir i bersonau am gynyg gwobrau, gyda thestynau, i'r adran hon, er lles ein cerddorion, Bydd hawl gan roddwyr y gwobrau i nodi beìrniaid eu hunain.) Gwobbau Neillduol gan Bersonau. Y Trepniad o'r Alaw Mesur Hir. RWY ryw amryfusedd neu gilydd, gadawyd y paragraff diweddaf o'r feirniadaeth uchod allan. Rhenir y wobr rhwng eiddo Ioan Bach a Allegro. Er fod eiddo yr olaf lawer yn fwy uchelgeisiol, y mae eiddo Ioan yn fwy syml, ac yn agosach át y peth ddysgwylid.