Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(ÜERPPOR • y .^YMRYi DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Oyfrol IV. MAWRTH, 1887. Rhif. 44. CYNWYSIAD. Prif Symudiadau CerddoreJ y Cymry yn Nghymru yn adeg gwyliau y Nadolig a'r Ca'an diweddaf ......21 Yr Ysgol Gerddorol..................22 Y Wasg Gerddorol... ...........'. ......25 Y Grythen........................24 Bhestr o enwau prif Gerddorion ............24 83?= Davr diwedd yr anthem, " Gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando," allan yn gyflawn y mis nesaf. PRIF SYMUDIADAU CERDDOROL Y CYMRY YN NGHYMRU, YN ADEG GWYLIAU Y NADOLIG A'R CALAN DIWEDDAF. "IS gallwn ysgrifenu yn nchel am ranau eerddorol ein cyrddau, nid oeddynt i fyny a'r rhai a welsom. Ni fu yn y Dywysogaeth unrhyw Eisteddfod ag y gellir ei galw yn uwchraddol, eto gall mai y rhai a fu ydoedd y mwyaf Hesiol i wir Lenyddiaeth. Ni a nodwn ychydig o brif symudiadau ein cerddorion. Mr. D. Jeneins, Mus. Bac.—Yr oedd ef wedi ei logi i'r Gogledd, fel y bydd fwyaf arferol. Y Nadolig yr oedd yn Llangefni. Nid oedd yn yr Eisteddfod hon un math o wobrwyon mewn cyfansoddiadaeth gerddorol, yr hyn a awgrymwn ar iddo gael ei ddwyn i fewn i'r Eisteddfodau blynyddol hyn yn y dyfydol. Yr oedd y cystad- leuon cerddoroî yn wir dda, yn arbenigol ar " Chwibianu rhyddion odlau," a'r " Hallelujah Chorus" Y Calan yr ydoedd yn Amlwch. Nid oedd yma drachefn gystadleuon mewn datgan- iaeth, am ba resymau nis gwyddom. Llefarai Mr. JenMns yn uchel am y dadansoddiadau a dder- byniasai, ac hefyd am yr Anthemau Coffadwr- iaethol, am ba rai y dyfarnwyd y wobr o £3 3s. i Mr. W. Davies, LÍangefni, yr hwn sydd wr ieuanc tra gobeithiol. Mr. John H. Roberts, Mus. Bac.—Am y Nadolig ei fangref ydoedd Brynrodyn, yn mhlith mynyddau Arfon. Ac er nad ydoedd ond Gwyl leol i raddau, eto troes y rhan gerddorol yn wir ogòneddus, fel y gwna bob amser yn nwylaw rneib y chwarelau. Y Calan drachefn yr ydoedd yn barnu yn Eisteddfod flynyddol Meirion, yr hon a gynhelid yn Üolgellau. Cynorthwyid ef gan Mr. Lingwood, o Abertawe/ Nid oedd y cystadleuon cerddorol yma drachefn i fyny a'n dysgwyliadau, eto bu y Cyngherdd yn wir rhagorol. Eos Morlais.—Y Nadolig, gwasanaethai ef yn Llanerchymedd, Mon. Llanwai y gadair feirn- iadol, ac hefyd cymerai ran dadganydd. Yr ydym yn credu iddo gyfiawnu y blaenaÍF yn dda, er ei fod, i raddau, yn dysgwyl gormod hyfdra cddiar law y cystadleuwyr, sef dysgwyl iddynt gymeryd yr un hyfdra ar yr unawdau ag a gymerir gan y soloist proffesedig. Yn y dadganiadau, yr oedd yn rhagorol. Y Calan, yr oedd yn cymeryd rhan dadganydd yn Eisteddfod Meirion, Dolgellau, yn wych. Mr. R. C. Jeneins, R.A.M.—Gall nad yw y gwr ieuanc hwn mor gyffredin a'r rhai a nodasom ; eto llon genym gaei arwyddion mor amlwg o gynydd, a gobaitham ddyfodol mor wvch. Efe a eisteddai yn nghadair feirniadol Eisteddfod Aberystwyth, a diamheu iddo ei llenwi yn ar- dderchog. Mu. J. T. Rees (Aberystwyth). — Gwych genym yn y Gogledd gael presenoldeb y gwr ieuanc gobeithiol hwn. Dygwyddodd ini ei gwrdd y llynedd yn Mon, a ffurfiasom syniadau uchel am dano, ac yn awr yr ydym yn rhoddi " í'w barhau " wrthyht. Nadolig, yr ydoedd yn Rhostryfan, Arfon, yn ngwlad gerddorol y chwar- elau, ac, ar ol pob ystyriaeth, y canu ydoedd ragorol. Eryr Eryri (Llanberis).—Treuliodd ef ei nadolig yn Mhwllheli, a llawen genym ddeall fod ei gymhwysderau yn cael eu gwerthfawrogi, a'i alluoedd yn ymddadblygu. Nid oedd y cys- tadleuon a feirniadai yn uwchraddol, er y dylasent fod. Eos Bradwen (Caernarfon).—Yn Llanfair- talhaiarn yr ydoedd ef yn llanw y gadair feirniad- ol. Nid oedd y cwrdd hwn drachefn yn Uawer mwy uwchraddol. Pa bryd y medr ein cerddorion uwchaf ymwrthod a'r mân-gyrddau, gan roddi y rhai hyn i'r dechreuwyr 1 Mr. W. Arfon Parry (Liverpool).—-Hyd y gwyddom, dyma seren gerddorol newydd. Llewyrchai y Nadolig yn nhref Caernarfon, a chafodd lon'd eifreichiau o waith, yn arbenigol yn y rhanau cerddorol cyfansoddiadol. Deallasom fod cynifer a 39 yn cystadlu ar gvfansoddi Emyn- dôn at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Llawer