Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(EERPPOR.Y-tëYMRYi &t w&smrattft Ctrôîteẃfctft, &t*t gtt ttthHtít g Cttiwttt DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol IV. IONAWR, 1887. Rhif. 42. CYNWYSIAD. Y Grythen (Violin), ....... Syr Julius Benedict ....... Bhestr o enwau prif Gerddorion Nodiadau ............. Yr Ysgol Gerddorol....... Yr Ystorm............. Tysteb AlawDdu ... ....... Y GRYTHEN (VIOLIN). CYSTADLEUAETH YSGOL GERDDOROL " OERDDOR Y OYMRY." Gan Thomas Howells. HANES, &c—Y mae hanes boreuol y grythen mor dywyll, fel nad oes genym y dychymyg lleiaf i ba genedl y perthyn o'r dechreuad. Mae yn ddiamheu fod rhyw offeryn yn cynwys ei hegwyddor yn adna- byddus i'r teülu dynol yn foreu iawn. Dy wed Engel (*\ Music of Ancient Nations ") fod offer- ynau ar yr un egwyddor yn adnabyddus i wa- hanol genedloedd y dwyrain yn foreu iawn ; ac yn y gorllewin, hefyd, ceir fod offerynau cyffelyb yn mysg y Celtìaid yn ei gwahanol ganghenau. 0 bob offeryn cerdd ag sydd hyd yn hyn yn adnabyddus, ystyrir mai y grythen ydyw y per- ffeithiaf. Nid yn unig y mae yn alluog i gy- nyrchu mwy o amrywiaeth seiniau nag un offeryn arall, ond y mae seiniau, tôn, ac iaith y grythen yn Uawer agosach at ddyn na'r eiddo un offeryn arall sydd yn adnabyddus. Ond y mae wedi costio llawer o fyfyrdod, a sylwadaeth, a phrofiad llawer o oesoedd yn y byd gorllewinol cyn ei dwyn i'r perffeithrwydd y mae ynddi yn bresenol. Mae yn amlwg ei bod yn gyfuniad o dri o offer- ynau mwy syml ac anmherffaith, sef y rebee, y crwth, a'r rotta. Offeryn hir gyda un neu dri o danau oedd y rebee; ac yr oedd y crwth yn ffurf cist hir bedair-ongl, gyda chwech neu ragor o danau iddi. Delid y tanau yn y ddau offeryn "jn gan bontydd, a chwareuid hwynt â bwäau. «íath o guitar oedd y rebee, heb na phont na bwa, ond chwareuid y tanau â'r bysedd. Nis gellir bod yn sicr pa mor fuan y daeth yr offer- ynau hyn i arferiad, ond y tebygolrwydd yw mai y rebee ydoedd yr henaf, a'r crwth yn nesaf ati, yr hon, mae yn Ued debyg, a ddaeth i fodol- aeth fel gwelliant ar y flaenaf; ond nid yw yn ymddangos i'r rotta ddyfod i arferiad cyn y ddeuddegfed ganrif ; ac o'r amser hwnw hyd yr unfed ganrif ar bymtheg, fel yr oedd gwybodaeth a medr cerddoroi yn myned ar gynydd, nid oes neb a all ddyweyd pa nifer o arbrofìon o bob math a wnaed i wella yr offerynau hyn. I ba wlad yr ydys yn ddyledus am y syniad a roddes y ffurf bresenol i'r grythen, nid oes neb a wyr. Barna rhai mai i Ffrainc, ac ereill mai i Itali. Ond os yn Ffrainc y caed allau y syniad, mae yn sicr iddo gael ei gludo megys hedyn ar adenydd y gwynt, a disgyn yn Itali; ac yno yr ymddadblygodd ac yr ymberffeithiodd i'r ystâd y mae ynddi yn bresenol. Pa faint bynag o ym- balfalu a fu am dani, mae yn lled sicr mae yn ngweithdy Gasparo di Salo, yn Brescia, y cafwyd y grythen Italaidd gyntaf. Cafodd y gwr hwnw oes faith. Y mae dwy grythan o'i waith ar gael yn bresenol, un wedi ei dyddio yn 1566, a'r llall yn 1613. Dysgybl iddo drachefn oedd Jean Paul Magini, yr hwn a lwyddodd i wneyd offerynau gyda llawer gwell tôn na'i athraw. Tra yr oedd Gasparo di Salo a'i ddysgyblion yn gweithio yn Brescia, yr oedd ysgol fydenwog o wneuthurwyr crythenau yn cael ei sefydlu yn Oremona. Pa bryd, neu yn mha le, y ganwyd Andrew Amati, nid ydym yn hysbys ; neu pa un a fu efe yn dysgu gyda Magini yn Brecia, nid oes neb a ŵyr ; ond y mae yn hysbys iddo ryw- bryd tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg ddechreu gweithio yn Cremona. Yn 1580, dis- gynodd ei weithfa a'i athrylith i'w feibion Jerome ac Antonius, y rhai a fuont yn gweithio gyda'u gilydd hyd farwolaeth Antonius, yn 1635; ac yr oedd y crythenau a anfonent hwy allan yn y cyfuod hwnw yn rhagori ar ddim a gafwyd o'u blaen. Ond nid oedd y rhai a wnaed gan Jerome ar ol marwolaeth ei frawd mor dda. Yn 1596, ganwyd Nicolas, mab Jerome, yr hwn yn ddiau oedd y galluocaf o'r Amatiaid. O ran prydferthwch, ffurf, gwaith, a gorpheniad, yr oedd offerynau Nicolas Amatis yn enwog trwy holl Ewrop. Dysgybl iddo ef oedd Guar- nerians, yr hwn a enillodd iddo ei hun lawn cym^int o enwogrwydd a'r Amatiaid. Ond cyfododd un yn Oremona, yr hwn a'u taflodd oll i'r cysgod. Yr oedd Gasparo a Magini wedi