Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

toPPOR-Y-tëYMRYi DAN OLYGIAETH W. T. ■ REES (ALAW DDU), Cyfrol IV. MEDI, 1886. Rhif. 86. CYNWYSIAD. Cystadleuaeth Ysgol Gerddorol Cerbdor y Cymry, Madame Albani.....................133 Nodiadau........ ..............134 Y Berdoneg, gan John Ẁilliams, Fe.stiniog ......135 Yr Ysgol Gerddorol ..................135 Ein Bwrdd Cercldorol— Y Wasg Gerddorol ..................136 Congl yr Hen Alawon..................137 CYSTADLEUAETH YSGOL GERDD- OROL « CERDDOR Y CYMRY." Ail Gyfees,—Tasc III. MADAME MALIBRAN. Çf ANW YD Maria Felicia Garcia, gwrthddrych \á\ yr ysgrif hon, yn Paris, Mawrth 24ain, yn \3 1808. Enw ei thad ydoedd Senor Manuel *Ü> Garcia, Ysbaenwr o enedigaeth, ond o deulu Iuddewig. Daeth drosodd i Brydain yn y flwyddyn 1818, i gyflawnu ei ymrwymiad yn yr Italìan Opera Honse, yn yr hwn le y gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y wlad hon, yn y cymeriad o Oount Almaviva yn opera " II Bar- bier de Seviglia," o waith Rossini. Yr oedd Maria, ei ferch, y pryd hyn tua deDg mlwydd oed, ac ar ei dyfodiad i Lundain cymer- odd ei thad dy yn Sherrard Street, Soho ; a bu ei harosiad yn y Brifddinas yn fantais ueillduol iddi er ymgydnabyddu â'r iaith Seisnig, pa un a siaradai gyda'r rhwyddineb mwyaf. Yn fuan wedi iddi sefydlu yn Llundain, ym- roddodd Garcia i astudio o dan ofal athrawon achlysurol. Er hyny, fe ddywedir na chafodd nemawr, os dim, addysg gerddorol yn y rhan foreuol o'i hoes ; ond pa un bynag am hyn, yr oedd ganddi un fantais ragorol, set' cael bod yn bresenol yn y rehearsal ac yn nghyfarfodydd hwyrol yr opera, a chael cymdeithasu â phrif gantoresau y dydd, ac yr oedd hyn yn unig yn ddigon o ysgol i'r fath feddwl a Maria, fel mai nid trwy wrando yn unig ar y prif gantorion yr oedd yn elwa, ond trwy sylwi ar actors blaenaf Italy yn myned trwy eu perfformiadau ; ao o'r manteision hyn y tarddodd y wybodaeth a rodd- odd iddi y safie anrhydeddus a feddianodd yn toysg cantoresau ei hoes. Ar y 7fed o Fehefin, 1825, gwnaeth Maria Felicia Garcia ei hym- udangosiad cyntaf yn yr Italian Opera House, yn y cymeriad o Rosina yn y " Barbier ;" yr oedd y pryd byn yn 17eg oed. Yn ystod y tymhor hwn, gwnaeth ei hymddangosiad yn yr opera " II c'rociati in Egitto," Meyerbeer, yn mha un y rhoddodd brawf arni ei hunan trwy ganu y prydferth morceau, " Giovinetto Cavali- er ;" canodd hi a Signor Velcuti duet o'r un opera yn hynod o foddhaol, a dywedir fod cyf- uniad eu lleisiau yn fwy tebyg i sain dwy flute nag i lais dynol. Felly fe welir iddi, ar ei hymddangosiad cyntaf, sicrhau enwogrwydd o'r fath a ddylai talentau mor anghyffredin ei gael, pa un a gadwodd trwy ei ces ddysglaer ond bèr. Yn 1826, mewn canlyniad i lwyddiant ei ferch yn y wlad hon, tynodd Senor Garcia gynllun yn ei feddwl er sefydlu opera Italaidd yn yr Ameri- ca; ac er mwyn iddo gael rhoddi ei feddyliau niewn gweithrediad, dilynwyd ef i New York gan ei ferch. Ond daeth Senor Garcia i weled nad oedd yr Ianci yn gwerthfawrogi ei syniad, a gorfu arno ail feddwl am ddychwelyd, gan fod ei gynlluniau oll wedi troi yn fethiant truenus, ac yn fuan cawn ef yn troi ei gefn ar America, ac yn wynebu ar Paris. Yn ystod ei harosiad yn Mhrifddinas Ffrainc, daeth Maria i gyöyrdd- iad âg un M. Malibran, bancwr cyfoethog, a chynygiodd ei law iddi, ac unwyd hwy mewn glân briodas. Ond ní phrofodd yr uniad yn un hapus, o herwydd afradlonedd ac afreoleiddiwch ei gwr, pa rai a ddiweddasant mewn ymwahan- iad. Ac felly, mewn ffordd, cafodd y rhan foreuol o'i hoes ei lethu ; cafodd ei thyngedu i oddef llawer o ofidiau a thrallodion ; ond, yn ffortunus iddi hi, nid oedd ei hysbryd brwd a phenderfynol i gael ei guro gan unrhyw brofedigaeth, ac yn fuan gwnaeth ei hymddangosiad yn Paris yn yr Italìan Opera, a derbyniodd gymeradwyaeth anghyffredin, a buan y daeth yn favourite y ddinas. Yn Mai, 1835, gwnaeth Malibran ei hym- ddangosiad cyntaf yn y cyfieithiad Saesneg o'r " La Sonnambula," pa un a gymerodd le yn y Drury Lane Theatre. Yr oedd yn anhawdd cyfarfod âg unrhyw ddadganwr Seisnig a allai gyfiawnu rhan Elvino er boddlonrwydd iddi. Yr oedd Mr. Templeton yn ddadganwr da iawn, ond nid oedd ond actiwr gwael. Ni. wnai hyn ei boddloni, o herwydd yr oedd yn rhaid iddi gael actio gyda chanu. 0 herwydd hyny byddai yn aml yn ei ddysgu, a dywedai:—" Rhaid i chwi beidio aros yn llonydd pan y byddaf yn atolygu arnoch ; cofiwch eich bod yn cynrychioli cariad eiddigeddus, ac felly cymerwch afael ynwyf o ddifrif, a thaflwch fi ymaith oddiwrthych mewn