Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

toPPOR.Y.tëYMRY» DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Oyfrol III. GORPHENAF, 1886. Rhif. 36. 125 126 127 128 128 yr CVTNVVYSIAD. Cystadlenaeth Lenyddol a Cherddorol Talsarn. Hyfryd- le a Than'rallfc, Caernarfon, Mehefln 3ydd, 1886 Cerddoriaeth Gynullueidfaol............... Beirniadaethau—Eisteddfod Aberdare, 1885 ...... Yr Ysgol üerddorol— Ein Bwrdd Cerddorol.................. Y Wasg Gerddorol .................. Cerddoriaeth—Anthem, "Eto, mi a lawenychaf yn . Arglwydd" (ben alaw Gymreig), wedi ei threfnu gan John Nicholas, Aberafon. CYSTADLEUAETH LENYDDOL A CHERDDOROL TALSARN, HYFRYDLE, A THANRALLT, CAERNARFON, MEHEFIN 3YDD, 1886. —- Ton gynulleidfaol (M.H.) ar ypenill "Byioyd y meirw tyr'd i'n plith" LERBYNIWYD 36 o gyfansoddiadau, a chan fod y fath nifer, nis gallwn sylwi ar bob un ar ei phen ei hun. Yr ydym wedi arolygu yr oll o honynt yn fanwl, a dos- barthwn hwynt i dri dosborth, yna yn ad- ranau, fel y gallo yr ymgeiswyr weled yn bur agos beth ydyw ein barn ar eu teilyndod cyd- mariaethol. Dosbarth III. Min y Llyn, Uriah, Un yn treio am y tro cyntaf, ac Anfedrus Iawn—4. Gellid meddwl wrth y ffugenwau mai dechreuwyr yw y rhai yma ; eto mae pob un o'r ymgeiswyr yn arddan- gos ychydig o wybodaeth yn elfenau cyntaf gramadeg cerddoròl, ac mae yn eu halawon ychydig o wres yr awen. Ond egwan ac anfedr- us iawn ydynt eto, gan hyny dylent ymroi i lafurio a darllen llyfrau ar y gelfyddyd cyn cyf- ansoddi mwy. Dosbarth II. Adran 2.—Preswylydd y Bryniau, Un o'r Dyffryn, Ap G-wilyin, Faust, Un Ieuanc, Musicus, Dyfnwal, Cerddor o'r Cwm ac Ap Fivain—9. Cawn fod alawon y rhai hyn i gyd wedi eu hys- grifenu yn bur reolaidd, a'r oll, ond eiddo Faust, yn y cywair lleiaf. Ceir amryw o wallau gram- adegol pendant yn nihob un o honynt; ond dengys y mwyafrif dipyn o wybodaeth yn elfenau cyntaf cyfansoddiant, a byddai yn werth iddynt lafurio yn helaethach eto. Iloffwn gynllun tôn yr un drwg, Faust; y mae rhywbeth allan o'r eyffredin yn ei-ffurf, ac efe, yn ddiau, yw y gallu- ocaf yn yr adran hon. Adrati 1.— Hen Gymro, O.N., Luther, Rhys taoch, Dr. Dykes, No. 1 in G, No. 2 in F minor —6. Mae y tônau sydd yn gwneyd i fyny yr adran hon yn well eto, yn gymaint ag nad oes ynddynt gynifer o wallau pendant; ond ceir yn y rhan fwyaf o honynt amryw o symudiadau afrosgo a chordiau gweinion. Mae yr alawon, hefyd, er yn Jled gyffredin, yn cynwys rhai ad- ranau da a thoddedig ; ond fel cyfan-weithiau y maent yn colli. Y cyfansoddwr goreu, yn ddiau, yn y dosbarth hwn, yw Dr. Dylces : y mae gan- ddo ddwy dôn fach lled gryno, a buasai yn y dosbarth blaenaf onibai ei fod wedi bod mor es- geulus gyda'r notaiion. Ysnrifena G, D#, E, yn y bass, ail frawddeg o'r adran fiaenaf, yn Ue C, C$ a D. Ton fach ddiafael, er hyny, ydy w No. 1 yn G—rhy ysgafn i'r gair, ac nid ydym yn hoffi mydr mor gloff, er ei fod yn neillduol— d :m I s d I f :n I L &c. Nid yw yn ateb nodwedd y penill Cymreig. Am No 2 yn F minor, y mae yn lled effeithiol, ond yn rhy debyg i'r dôn Golgotha : bydd yn lled aohawdd canu hon heb feddwl am hono. Da genym fod yr awdwr yn rhoddi ei nod mor uchel. Dosbarth I. Adran 2,—Franz Liszt (2), Mynyddwr, Asaph, Telynor o St. Helena, Arfonydd, Erotic, J. S. Bach, a Cerddor o'r Cwm—9. Dyma restr o dônau yn meddu alawon cryf a llithrig, a'r cy- nghaneddion yn bur ddifai; eto, rhy w bethau bychain yn andwyo eu gwisgoedd. Gallem nodi aílan eiddo Erotic ac Arfonydd fel yn ystwyth iawn—y ddwy yn G leiaf. Alaw hynod gryf a nwyfus sydd gan J. S. Bach, a thrueni fod symudiadau gau a gormod awydd i orliwio yn tynu oddiwrth ei gwerth. Byddai yn anhawdd cyfarfod â thon, o ran alaw, sydd yn fwy dwys nag a geir gan Mynyddwr, yn y modd Doriaidd ; ond y mae gan yr awdwr 7fed heb ei hadferyd, a symudiadau clogyrnaidd a gwallus yn y ddwy adran. Ton bert ddigon a gyfiwynir i ni gan F. Liszt, ond arwynebol yw hi, ac nid yw yn wreiddiol, gan ei bod yn rhedeg moi agos i un neu ychwaneg o donau Seisnig sydd mewn arfer- iad. Y tair ton mwyaf ddiwallau yn yr adran hon ydynt eiddo Asaph, Cerddor o'r Cwm, a Telynor o St. Helena; ond y maent lawer yn rhy gyffredin i fod o lawer o ddefnydd. Adran 1. — Bronydd, Llwydfab, Alawydd, Mawrthfab, 1 2 3, E F G, W X Y, a Jeduthin