Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

faPDOR.Y-tëYMRYi DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol III. MEHEFIN, 1886. Rhif. 85. CYNWYSIAD. Y Dechreuwr Canu .................121 Eisteddfod Aberdar, 1885 ...............122 Nodiadau.......................122 Y diweddar Joseph Mass, y tenor enwog.........128 Yr Ysgol Gerddorol ..................124 Y Wasg Gerddorol .................124 Cerddometh—Andante i'r Harmonium, gan J. Price, Aber- aman,—Glan Gwy, gan D. Wylor Owen. Y DECHRRUWR CANU. PA FATH UN DDYLAI F 0 D ? Gan Oynalaw. "ID wyf yn gwybod am un swydd yn gofyn cydgyfarfyddiad cynifer o wahanol gym- wysderau a swydd " Dechreuwr Canu," neu arweinydd canu cynulleidfaol. Dylai fod yn gerddor deallus ; nid yn unig yn alluog i ddarllen tônau yn gywir, ond hefyd i ddeall prif deithi a nodweddion y cyfryw dônau. Yn niffyg deall hyn, bydd y geiriau mwyaf galarus a phruddaidd yn cael eu canu ar y dôn glodforus, a'r dôn dyner a swyuol ar y geiriau mwyaf nerthol, &c. Dylai fod yn deall mesurau barddoniaeth, ac yn gyflym i ganfod meddwl y bardd yn rhedeg drwy'r penill, neu'r emyn, ac ymdrechu i roddi allau y cyfryw yn nadganiad y dôn. Y mae llawer o feddyliau prydferthaf ein beirdd yn cael eu dinystrio yn fynych drwy annealldwriaeth yr arweinyddion. Dylai feddu barn addfed am amser tônau. Dylai pob tôn gael ei dechreu yn yr amser y goíygid ei chanu, a hyny yn eglur, gydag acen- iad priodol. üylid canu y geiriau bron yr un fath o ran amser ag y darllenir hwynt, yn natur- iol. Clywais yn ddiweddar am arweinydd cy- nulleidfa barchus, yn Morganwg, yn cymeryd saith mynyd i ganu " Eifìonydd " unwaith dros- odd. Gallwn feddwl y buasai dwy fynyd yu llawn ddigon, heb frysio. Clywais, hefyd, am hen weinidog doniol, sydd yn awr yn fyw, yn dechreu " Dyrnuniad," ac yn canu â'i lais isel, mawreddog, y llinell, "T.ywallt, 0! Dduw, ar fyr o dro," ac yn methu, o eisieu anadl, fyned yn mhellach ; ac un arall, gwanaidd a gwichaidd ei lais, yn ateb yn yr wjthawd, "Dy Ysbryd or uchelder;" a r hen weinidog drachefn yn ei chymeryd wythawd yn is ar y llinell, " Fel bo'r an-iaa al-w-w-w-wch oll y-y-yn wir ;" a'r gwich- lyd erbyn hyn wedi casglu digon o wynt i'w gorphen yn yr wythawd. Y mae pethau fel hyn yn peri chwerthiu ac ysgafnder, nes llwyr ddi- nystrio ysbryd addoli. Dylid bod yn ofalus i ddechreu pob ton yn ei chyweirnod, gyda sain mor glir a sefydlog ag sydd ddichonadwy, gyda goslef briodol i ansawdd y geiriau a genir. Dylid dechreu yn yr un cryfder ag y bwriedir canu y dôn, ac nid bloeddio i ddechreu, a gwneyd pob ystumiau wedi hyny i ddylanwadu ar y gynulleidfa i ganu yn wan. Yn wir, yr wyf yn clywed rhai yn bíoeddio pobpeth, ac nad oes braidd dim i'w glywed ond bloeddiadau yr arweinydd. Dylid cofio nad bloeddio yw canu. Y mae mwy o gerddoriaeth wirioneddol o iawer yn y tyner a'r swynol; a dylid bod yn ofalus iawn i roddi chwareu teg i'r cyfryw yn ein can- iadaeth grefyddol. Ni ddylid canu pob tôn, na phob penill, yn yr un amser. Dylid amrywio y naill a'r llall i fesur yn ol nodwedd yr hyn a genir ; ac mewn tônau cynulleidfaol, ansawdd y geiriau a nod- wedd y geiriau ddylai reoleiddio yr amser, yn gystal a nerth a goslef y llais. Dylid ystyried, hefyd, maint y gynulleidfa a'r addoldy ; y mae cynulleidfa fawr, f'el corff mawr, yn cymeryd mwy o amser i symud na chynulì- eidfa fechan. Dylai y dechreuwr ofalu, hefyd, am beidio rhuthro o nodyn i nodyn o flaen y gynulleidfa ; y mae hyny yn dinystrio gwir ysbryd cerddor- iaeth, ac yn f'wy o rwystr a magl nag o gymhorth i wir foliant deallus. Y mae llais da yn fanteisol, ond y mae eisieu gofal mawr fel na byddo arddangosiad o hono yn cael ei wneyd, ond gofalu fod y gogoniant yn cael ei roddi i Dduw, rhoddwr y llais. Y mae gwahaniaeth mawr i fod rhwng caniad- aeth yr addoldy a cbaniadaeth y neuadd a'r chwareudy. Mewn cyngherddau, dysgwylir i'r cantorion i ddangos eu gallu a'u rredrusrwydd ; ond yn nghaniadaeth yr addoliad cyhoeddus, dylid ymgolli yn unoliaeth y moliant,—meddwl llawer am Dduw, ac am ganu ei fawl, ac ychydig iawn am danom ein hunain. Dywed Spurgeon, " Y bregeth oreu y w hono ag y mae y pwnc wedi llyncu y pregethwr a'r gwrandawyr iddo ei hun ;