Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

faPPOR.Y-tëYMRY! DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Oyfrol III. ít. I, 1886. Rhif. 34. CYNWYSIAD. Beirniadaethau— At Olygydd Cerddor y Cymry............117 Eisteddfod Aberdar, 1885 ......... ......117 Eisteddfod Gadeiriol Cymdeithas y Cymmrodorion, Tredegar ..... ... ............118 Nodiadau ..... ..................119 Yr Ysgol Gerddorol ..... ............120 Y Wasg Gerddorol .................120 Tôn—Pedwarawd, " Y Morwyr Llon " (Jolly Sailors), gan J. Hughes (Alaw Llyfnwy). BEIRNIADAETHAU. At Olygydd Cerddor y Cymry. YR,—Yn Eisteddfod Aberdar cynygiodd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol wobr o £25 am y traethawd goreu ar " Hanes Bywgraffyddol a Beirniadol Cerdd- orion Cymreig." Cytunai y beirniaid nad ydoedd y cyfansoddiadau a anfonwyd i toewn yn holloi deilwng o'r wobr. Er mwyn y cyfan- soddwyr a'r cyhoedd, bydd dda genym os gellir cael lle i feirniadaeth faeth a manwl Mr. D. Emlyn Evans yn Ngherddor y Cymry. Gyda golwg ar yr awgrymiad a geir yn niwedd y feirn- iadaeth, y mae lle i obeithio y bydd i'r Gym- deitbas gynyg gwobr helaethach ar yr un testyn, yn ol pob tebyg yn yr Eisteddfod Genedlaethoí a gynelir yn Llundain yn 1887.—Yr eiddoch, &C,— E. YlNCENT EvANS, Ysg. Cymdeithas yr Eisteddfod Oenedlaethol. 27, Ghancery Lane, Llundain. [Yr ydytn yn falch o'r awgryrniad hwn, a gobeithio y cerir ef allan gan y pwyllgor yn 1887.—G-on.] EISTEDDFOD ABERDAR, 1885. " Hanes Bywgraffyddol a Beirniadol o Gerdd- orion Gymreig, hyd ganol ŷ ganrifbresenol." Beirniadaeth Mr. D. Emlyn Evans. Pump o draethodau a dderbyniwyd, yn dwyn y ffugenwau Mab y Gan, Edno, Theoreme, 01- rheinydd, a Griff ab Edd. Gwnant gyda'u gil- ydd sypyn o ddeunaw pwys, a rhydd OÍrheinydd ymddiheuriad am fod ei draethawd. o ddiffyg amser, yn anorphenol. Braidd na thueddir ni i ddiolch am y cyfryw brindod amser. Y roae y traethodau yn amrywio yn fawr o ran eu hyd, yn ogystal ag o ran eù cynwvsiad—nifer y tudalenau a nifer y bywgraffiàdaul Gan Fab y tran ceir tua 80 o'r olaf [mewn rhyw 96 o'r blaenaf; gan Edno, 181 mewn 200 ; Theoreme, 138 mewn 300(papyr o blyg llai na'rfoohcap cyff- redin); Olrheinydd yr un nifer o fywgraffiadau mewn 436 o dudalenau, tra y rhydd Griff ab Edd 480 mewn 230 o dudalenau. Ymdrinia rhai â phethau nad ydynt yn gynwysedig yn y testyn : Mab y Gan, er esiampl, a ddefnyddia dudalenan lawer er rhoddi " brasíun hanesyddol o gerddoriaeth Gymreig," a " chasgliadau o hen alawon." Prin gwell ydyw Theoreme yn ei du- dalenau agoriadol. Amryw o'r cystadíeuwyr a ddyfynant yn helaeth o weithiau cyhoeddedig, heb gydnabod hyny yn briodol; y mae gonest- rwydd Uenyddoi yn hawlio y cyfryw gydnab- yddiaetb, a chyll y gwaith mewn pwysigrwydd ac awdurdod os egeulusir hyny. Cyfeiria ereill at " aneglurder y testyn," ond y mae amryw yn tramgwyddo yn yr hyn sydd eglur ynddo, a chaniatau fod " aneglurdeb" yn bodoli. Nid oes dim yn y testyn yn ei gyfyngu at gerddorion ymadawedig—iol ffaith ymgadwyd rhag hyny yn fwriadol, ond y mae nifer o gerddorion yn fyw a wnaethant eu marc fìynyddau cyn " canoí y ganrif bresenol," nad oes un sylw o honynt yn y traethodau hyn. Mab y Gan a adawa hyd y nod Ieuan Gwyllt allan, am nad oedd, medd ef, " werli enwogi ei hunan fel cerddor o gwbl cyn 1850." Chwiliftd y Mab eto yn ddigon manwl, ac yna fe wel ei gamsyniad. Rhai eto a rodd- ant i ni holl fanylion bywyd personau, gan angbofio mai a'r rhan gerddorol o'u hanes y mae a fynom yma. Cawn gan Theoreme 17 tudalen ar Tanymarian, gan sylwi arno nid yn unig fel cerddor, ond hefyd fel Cristion, pregethwr, a bardd. Olrheinydd a rydd i ni yn agos i 15 tudalen ar John Jones, Talysarn, 13 ar Morris Davies, 8 ar Caerfallwch, 12 ar Ieuan Glan Geirionydd, 9 ar Dr. Evan Davies, 8 ar John Davies, Godre'r Parc—o'r goreu yn Ngronicl y Gerddor, o ba le y codwyd y sylwadau gan mwyaf, ond nid cymhwys yma. Afradlon- edd ar bapyr, ac inc hefyd, ydyw rhoddi 4 tudalen i greadures fel Marged uch Ifan. Canlyniad hyn oll ydyw chwyddo y traethawd i faint afresymol a diangenrhaid cyn yn agos ei orphen ; pe bae yr awdwr wedi caeì hamdden i'w gwblhau yn nnol â'i gynllun, yr ydym yn arswydo rhag meddwl pa beth fuasai sefýllfa y truain beirniaid. \n y traethawd hwn, fel ag yn amrywo'r Ueill, cyfarfyddir a'r bai o godi nodiadau hirion yn eu crynswth o lyfrau ydynt