Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tëERPPOR . Y • (gYMRYi DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol III. IONAWR, 1886. Rblf. 30. ANERCHIAD. ^EL y mae y rhan fwyaf o ddarllenwyr Cerddor y Cymrü", yn ddiau, wedi tynu y casgliad oddiwrth y ddau rifyn diweddaf, yr ydym yn gorfod atal ei gyboeddi yn ei ffurf gyflawn ac annibynol, o herwydd diffyg cefnogaeth ddigonol Cosodasom yr ain-* gylchiüdau o flaen ein darllenwyr yn blaen a gonest; a chan na welwn un gobaith, ar hyn o bryd, y deuir i fyny â'r gofynion, yn hytrach na gadael iddo fyned i lawr, yr ydym, ar gais cau- oedd o'n cerddorion yn ei barhau ar raddía lai yn nglyn â'r Gyfaill. Y mae y cynllun eang a dynasom allan ar y dechreu, o angenrheidrwydd, yn cael ei dori ; ond ceisir cadw yr un nodweddion yn mlaen. Parheir yr Ysgol Gerddorol, a chyhoeddir ys- grifau byrion dyddorol ar wahanol bynciau cerddorol, hyd y bydd ein gofod yn caniatau ; a chedwir yn mlaen y pedair tudalen o gerddor-. iaeth yn y ddau nodiant; a gellir cael yr unrhyw ar wahan pan y gofynir am hyny, a phan ein cefnogir gan gorau, cymdeithasau, &c. Na ddyweder, felly, fod y Cerddor wedi marw ; ond gobeithiwn y gwna ein holì dderbyn- wyr ei dderbyn yn nglyn â Chyjaül yr Aelwyd ; a beiddiwn ddw'eyd nad oes y fath werth Tair Ceiniog yn cael ei gynyg o un swyddfa Cymreig. Fel y bydd yr amserau yn gwella, ac os gwelwn fod awydd yn ein cerddorion i'w gael eto yn an- nibynol a chyfìawn, ni a'i dygwn yn ol i'w ffurf gyntefig. Yn y cyfamser, bydded ein ceridorion yn ffyddlon iddo yn ei ddiwyg newydd, ac an- ìoned y rhai sydd wedi casglu enwau newyddion ato y cyfryw i'r swyddfa yr un modd. Cewch, bellach, y Cerddor a'r Cyeaill am yr un tâl— Tair Ceiniog. GOLYGYDD " CERDDOR Y CYMRY." YR ARWEINYDD CORAWL. Gan T. K. Jones, Dinbych. MAE i'r swydd hon ei chyfrifoldeb ei hun, ac maeiddi ei dylanwad'er gwell neu er gwaeth a* feddyliau dynion a merched ieuainc ; ac mae y dylanwad hwnw yn estyn yn mhelíach na'u ?hwaeth gerddorol yn unig. Mae arweinydd- jjaeth dda yn mhob ystyr wedi bod yn foddion lawer tro i droi o "gyfeiliorni eu ffyrdd," a lliniaru *ymherau oeddynt ar y cyntaf yn hynodaflyw- °draethus. Dylem gofio fodi gerddoriaeth amcan uwch na dysgu canu yn dda, sef -dysgu ein gilydd vn y cariad mawr a'n carodd ni'gy- maint. Fel y dywedir fod yn rhaid i ddyn gael ei eni vn fardd cyn y bydd iddo esgor ar gynyrchion yn Uawn o wir farddoniaeth. felly hefyd gyda'r un priodoldeb y gellir dweyd atn wrthddrych ein hysgrif fod yn rhaid ei eni yn arweinydd. Mae hon yn dalent naturiol, ac hefyd yn dalent nas gellir ei throsglwyddo i aralí. Canfyddir yn mhob plentyn bron ei elfen natnriol ei hun, a gellir penderfynu oddiwrthi pa beth a fydd yn y dyfodol. Yr un vw y pren cjn ac wedi iddo aeddfedu a dwyn ffrwyth. Mae y ffaith nad oes neb yn vmgymeryd â dysgu ereill pa fodd i arwain fel ag y dysgir rhanau ereill o gerddoriaeth, yn myned yn mhell i brofí gwirionedd y ffaith nas gellir dysgyblu ar y pen hwn—rhan sydd mor wir bwysig yn nglyn â cherddoriaeth. Nid yw fod dyn yn medru curo tri, pedwar, neu ychwaneg o fesurau, yn ei wneyd yn gym- hwys i lanw y swydd bwysig hon—cawn fod plentyn yn gallu gwneyd hyny gvda'r deheu- rwydd mwyaf; ond a feddyliai rhywun osod plentyn i arwain cor ? Ac nid yw fod dyn hefyd yn feddianol ar wybodaeth eang yn y gelfyddyd (er fod hyny yu angenrheidiol), yn ddigon o reswm dros ei osod ynddi. Pa nifer o ddynion cyfìawn o wybodaeth sydd wedi sefyll erioed o flaen corau ein gwlad, ac eto yn gorfod ciiio o herwydd diffyg cymhwysder i arfer y baton, tra ereill, heb fod mor eang eu gwybodaeth o'r gelfyddyd vn g3rffredinol, yn gallu arwain bron yn ddieithriad unrhyw gor i fryn Uwyddiant a buddugoliaeth 1 Cafaddefwn uas gellir arwein- ydd da heb wybodaeth gyffredinol dda, ond d'wedwn hetyd nas gellir, ychwaith, arweinydd, er gwybodaeth, heb fod rhywbeth naturiol yn y dyn ei hunan, ac nas gall ei feddu er astudiaeth ddyfal. Mae pob arweinydd da, wedi iddo gael gafael ar y meddylddrych sydd yn gorwedd mewD dernyn o gerddoriaeth, boed iddo nifer o honynt, ac o wahanol gymeriadau, yn tafìu ei holl nerth i'w cofleidio, ac yn meddu ar y gallu rhyfedd o osod ei deimladau i ddawnsio ar ei wyneb ; ac, yn ddiddadl, yr ysbryd yn ymddangos fel hyn ar y wynebpryd yw y tafod gòreu all dyn ei feddu er dylanwadu a gweithio ereill i'r un teimlad ac ysbryd ag ef ei hun. Onid oes swyn mawr ac at-dyniadol yn gorwedd hyd yn nod ar wyneb ffrwd o gerddoriaeth ? Ond beth feddyliem