Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(ÜERPPOR. Y • (gYMRYi CYHOEDDIAD MISOL CENEDLAETHOL, 3M ìlìasnti ntíf\ erôôortotftt &c*t gn mftitít g dDgmrg Cyfrol III. RHAG-FYR, 1885. Rhif. 29. Xcmjòòmcth CtoöôtíroL SYR MICHAEL COSTA. Ganwyd Chwef. ^ydd, 1810 ; bu farw Ebrill 28ain, 1884. Gan R. Lloyd Jones (Llwydmor), A.C. AE côf-lyfr y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn hynod gyfoeth- og yn ei enwogion dysglaer ; ac wrth edrych arno yn y dy- fodol, pwy na all ail-adrodd,. " Pa fodd y cwympodd y cedyrn ?" Yn mhlith yr enwau goreuredig ar y côf-lyfr hwn, bydd enw Michael Costa yn sicr o gael lle. Mae yn wir na ddarfu iddo ef, fei ag y dywed y bardd Gray, dderbyn cymeradwyaeth gan senedd-dai astud ; nac, iddo, ychwaith, arwain byddinoedd i fuddugoliaeth. Ni ddarfu iddo, ychwaith, Wneuthur darganfyddiadau mewn celf- yddyd, cyfoethogi llenyddiaeth â gweith- lau anfaiwol, na dim ag y gellir cyfeirio ato fel yn effeithio ar ddyfodol yr hil- ddynol. Er na alwyd arno ef i gyflawnu un o'r pethau hyn, eto i gyd, dangosodd alluoedd gwir fawr. Ni ddylid cymeryd mesur person'ol dyn i ystyriaeth oddiwrth ei safle a'i fanteision, ond oddiwrth y cym- hwysderau a'r rhinweddau a berthyn iddo ei hun. Nid oedd Tour de l'Auvergne— " milwr cyntaf Ffrainc "—ond milwr cyff- redin ; eto, trwy orchymyn yr Ymherawd- Wrj gelwid ei enw ef gyntaf ar y rhestr yn ^ha le bynag y chwifiai y tri-lliw, a'r ateb §°goneddus ydoedd, " Wedi marw ar faes anrhydedd." Safai Costa yn uwch na ^nüwr cyffredin ; ond yr hyr haeru ..... yw, y gall dyn hynodi ei garwn hunan Symaint mewn cylch bychan yn gymharol r nyn y gall mewn cylch mwy eang. Nid oes ond eisieu i ni edrych ar ddech- reuad bywyd Costa, ac yna ar ei ddiwedd, i weled ar unwaith ei fod yn berchenog ar alluoedd hynod o ryw fath. Yn y flwyddyn 1829, pan ydoedd yn 19 mlwydd oed, ceir ef yn mysg efrydwyr y RoyalAcademyof Musicyn Naples,y pryd hwnw o dan ofal Zingarellì. Yn nghylch natur ac helaethder ei dalent gerddorol tra yma, nis gallwn ddweyd dim i sicr- wydd. Yr oedd wedi ysgrifenu cryn dipyn —gwasanaeth pabyddol, cantata, a thair opera ; ond nid oes yr un o honynt wedi byw i ni eu gweled. Hwyrach mai gwersi cerddorol ceddynt a ddysgwylid oddiwrth bob efrydydd, ac nis gallwn weled un rheswm i feddwl eu bod yn dangos gallu y tu hwnt i'r cyffredin fel cyfansoddiadau. Ar y llaw arall, y mae genym dystiolaeth eglur fod Costa wedi arddangos gallu hynod o natur arall, ac fod Zingarelli wedi darganfod ei lawn werth. Mae pawb bron yn gwybod ddarfod i Costa ddyfod i Loegr ar neges dros ei hen feistr. Y neges oedd gofalu am waith y meistr, a gyfansoddodd eroyn y Birmingham Festi- val, 1829. Yr oedd Zingarelli yn awr yn agos i bedwar ugain mlwydd oed. Bob amser yn gymhen yn ei arferion, ac hefyd yn byw yn ol cynllun - ac mae'n ddiau fod yr arferion hyn yn cryfhau fel y pasiai y blynyddoedd dros ei ben—-y mae yn mhell o fod yn annhebyg y buasai yn rhoddi gofal ei waith i fachgenyn ond pedair ar bymtheg oed oni buasai ei fod wedi ei argyhoeddi ei fod ef (Costa) yn alluog i'w gyflawnu. Dyb'd cadw mewn cof mai nid fel negesydd yn unig y daeth Costa i Loegr, ond fel cynrychiolwr. Bwriadwyd i'r dyn ieuanc arwain can- tawd ei feistr, ac mae'r ffaith syml hon yn ddigon i brofi ei fod yn feddianol ar dalent a'i cododd wedi hyn i hynodrwydd. Pa fodd bynag, ni chafodd Costa arwain ; ond nid arno ef oedd y bai. Yr oedd henach dynion nag ef, megys Greatorex Cramer