Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(EERPPOR'Y.tëYMRYi T^ ———————-——.......■........... ——■ T^ ............... ■........■ .......■ — CYHOEDDIAD MISOL CENEDLAETHOL, %t m&*nnmtf\ Ctrôdotfettftt &t*t un mfntfy U ^nit^ Cyfrol III. MEDI, 1885. Rhif. 26. CANIADAETH YR YSGOL SAB- BOTHOL. Gan y Parch. W. Samlet Williams. AN fy mod yn myned oddi- amgylch ar y Sabbothau, yr wyf wedi cael mantais, dros ddeng mlynedd bellach, i weled agwedd y siroedd, yn enwedig Morganwg, mewn perthynas i ganiadaeth grefyddol, ac yn nglyn â hyn, ganiadaeth yr Ysgol Sabbothol. Y mae yn llawen genyf gael, mewn amryw leoedd, ganu bywiog ag hwylus, ac y mae yn ddrwg genyf weled lleoedd ereill gymaint ar oì. Cymeraf ryddid i roddi brasolwg ar Ysgol Sabbothol mewn cymydogaeth, yn ei pherthynas â chanu yr Ysgol, ac yr wyf yn dra sicr fod y frasolwg hon yn ddarlun lled gywir o ganu yr Ysgol Sabbothol yn bur gyffredinol trwy ein gwlad. Cymeraf fy safle mewn cymydogaeth boblog. Y mae y gynulleidfa yn lluosog. Y mae yr aelodau eglwysig yn agos i dri chant mewn rhifedi. Y mae ym» gapel eang, ac ysgoldy helaeth. Äf i'r ysgoldy heddyw—yma y dysgir y plant, o'r egwyddor hyd y darllen. Ỳ mae yma iawer o blant o dair blwydd oed i fyny hyd yr wyth, o dan ofal trí o athrawon medrus. Y maent yn cyfiawnu eu gwaith yn dda ; y maent yn canu dair gwaith, ac yn canu yn hynod foddhaol. Y mae y tônau a'r penillion yn dra chyf- addas i oedran y plant ; er enghraifft: "Yr Ysgol Sul lle hyfryd yw," "O na na bawn yn fwy tebyg i Iesu Grist yn byw," " Mor hapus yw," &c. (Hymnau a Thônau Elieazer Roberts). Y mae y plant Wrth eu bodd. Canwyd dair gwaith. Dyna yr ysgol trosodd heddyw. Gallaf sicrhau y darllenydd i mi gael llawer o fwynhad prydnawn y Sabboth hwn gyda'r plant a'r athrawon medrus a ffyddlawn. Heblaw cryn lawer o bleser a dderbyn- iant yn eu gwaith, y mae y wobr yn sicr iddynt yn y byd ysbrydol. Yn mhen ychydig fisoedd, cefais y fraint o ymweled â'r eglwys hon drachefn. Daeth y Sab- both. Cafwyd gwasanaeth y boreu ; yn y prydnawn y cynelir ysgol. Aethum i'r ysgol, yr hon a gynelir yn y capel. Nid oes neb yma.ond pawb sydd yn gallu darllen o'r wyth mlwydd oed i fyny. Geiwir ar frawd i ddechreu yr ysgol. Y mae yn rhoddi allan benill neu ddau i'w canu ; y mae y penillion a'r dôn o'r nod- wedd nad oes dim ynddynt i gydio yn meddyliau y rhif luosocaf o aelodau yr ysgol. Ychydig sydd yn cymeryd rhan yn hyn. Wel, wel, meddwyf finau wrthyf íy hun, dyma beth yw dechreu gwasan- aeth o chwith. Y mae tua dau cant yn bresenol, ac mae haner y rhif hwn o gwmpas yr ugain mlwydd oed a dan hyny. Gwnaf ganiatau fod y rhai sydd o gwm- pas yr ugain oed yn rhith gyduno yn y canu â'r rhai hynach ; ond beth am y rhai sydd tua phymtheg mlwydd oed a dan hyny ? Y mae fy llygaid ar fechgyn a merched bychain yn fyw; îe, yn fyw i waitb. Nid yw y geiriau a'r dôn yn cael y peth nesaf i ddim o sylw ganddynt. Rhaid eu bod yn blant drwg; na, nid felly, eithr yn hytrach nid ydynt yn teimlo dim dyddordeb yn yr hyn a genir gan yr ychydig. Y mae llawer o blant yn cael y gair eu bod yn ddrwg, o herwydd diffyg gofal, neu diffyg gallu, yn yr athraw i gyfarfod â hwy yn yr hyn sydd yn ddyddorol i'r plant. Dyna yr oll a ganwyd heddyw yn yr ysgol. Nid oedd amser i ganu cyn myned allan, o herwydd fod-rhyw fater ag yr oedd eisieu galw yr