Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Eerppor . y . Cymry > CYHOEDDIAD MISOL CENEDLAETHOL, ^t W&sanaetít ẃròòortaetí^ &c*t gtt mftHtft 9 €^mtu Cyfrol II. RHAGFYR, 1884. Rhif. 17. Uengûdìaetft töeròòuroL Y BRIF GANTORES (PRIMA DON- NA)~"GIULIA GRISI." Gan Lewis J. Roberts, Aberayron. MAE cryn ddadleu wedi bod yn mysg athrawon, yn nghylch blwyddyn genedigaeth gwrdd- ddrych yr ysgrif hon. Bernir yn gyffredin iddi gael ei geni y*i Milan, yn y fiwyddyn 1812 ; tra y %Wed rhai mai yn 1806, ereill mai yn *8io. Merch ydoedd y gantores enwog i ^gnor Gaetano Grisi, swyddog o dan yr ^ftiherawdwr Napoleon I. ; ac hanai o °chr ei mam o linach gerddorol. Hefyd, ^r ydoedd lluaws o'i pherthynasau yn ^Wog fel artistes. Gellir enwi ei chwaer ^uditta (dan ofal yr hon y bu yn derbyn ^1 haddysg pan yn ieuanc); ei mhodryb J°sephina Grassini (1773-1850), prif gan- tores Itali yn nechreu y ganrif bresenol, ac am yr hon y dywed De Quincey ei bod ^ feddianol ar lais mwy swynol a Pheraidd, yn mhell tuhwnt i neb a glyw- ^1 erioed ; hefyd ei chyfnither, Carlotta ^risi, cantores a dawnswraig enwog, a ^üaws ereill y gellir ychwanegu atynt. fìu Giulia ei hun yn efrydu o dan ofal pgnor Filippo Ceili, yr hwn wedi hyny a u yn preswylio yn Llundain fel athraw ^erddorol; hefyd o dan ofal Guglielmi (yr ^Uengaf, ac nid Pietro, y cyfansoddwr), a *adame Luigia Boccabadati, cantores (UWog, am yr norj y dywed Berlioz, yn y . Revue Musicale" bod ganddi dalentymar- ^er°l, ac hefyd ei bod yn teilyngu safìe o wy o enwogrwydd yn mysg cantoresau ag a dderbyniodd. Prawf hyn fod Grisi edi derbyn addysg gerddorol o'r radd cnelaf; a diamheu fod ei llwyddiant yn ^ledus, i raddau helaeíh, i'r addysg ^°rol a dderbyniodd yr adeg hon. v n Î829, daeth allan yn gyhoeddus am. y waith gyntaf yn Milan, fel Emma, yn yr opera " Zelmira," gan yr anfarwol Rossini, yr hwn a foddhawyd yn ddirfawr gan bereidd-dra ei llais, a diffuantrwydd ei hymddangosiad. Pan yn ddeunaw oed, yr ydym yn cael ei bod yn Florence, yn canu gyda Giovanni Davide (1789-1851)—nid Giacomo Davide, fel y tybir gan rai, ond ei fab, canys bu y cyntaf farw ar yr 3iain o Ragfyr, 1830, yn y 8oain fiwyddyn o'i oedran. Oddiyma dychwelodd Mdlle. Grisi i Milan', pa le yr oedd Bellini yn dwyn allan ei opera enwog " Norma." Yr adeg hon, ymgymerodd Madame Pasta â'r prif ran ; ond wedi hyn fe ddaeth yr " offeiriades dderwyddol" yn un o ranau mwyaf llwyddianus Grisi ei hun—fel yr oedd hefyd gan Mdlle. Titiens yn ein dyddiau ni. Yn Grisi, gwelodd y craffus Bellini adnoddau i wneyd " Adalgisa " ragorol; ac a sicrhaodd ei gwasanaeth yn y rhan arbenig yma. Yr oedd datganiad y ddwyawd brydferth rhwng " Norma " a " Adalgisa " yn yr ail Act, gan Pasta a Grisi, yn arddunol, a sicrhaodd lwyddiant ■ yr opera. O herwydd rhyw ymrafael yn nghylch y tâl yn Milan, ac yn analluog i gael rhyddhad oddiwrth ei hymrwymiad, yn ddisymwth fe ddiangodd Grisi i Pans.Cî Yma y daeth i gyffyrddiad â'i chwaer Giuditta, ei mhodryb Grassini, a Rossini, yr hwn oedd wedi ei benodi i fod yn ddirector y Thèâtre des Italiens—swydd a lanwodd gyda gallu a medr. Yn ddioed cynygiodd y cyfansoddwr i Grisi y prif garacter yn ei opera boblogaidd " Semi- ramide." Ar ei hymddangosiad cyntaf yn y brif-ddinas Ffrengig, cynrychiolodd Grisi y "Frenines Assyriaidd" yn yv opera hon; ac ar yr amgylchiad yma, yr ydoedd ar ei goreu. Yr oedd manylrwydd a chywreinrwydd ei mynegiad a'i thôn- yddiaeth, yn nghyd a'i llais treiddgar, * * O dan amgylchiadau tebyg, fe ffodd Aîboni 9 Yienna, yn 1844.