Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fapPOR -Y.tëYMRYi CYHOEDDIAD MISOL CENEDLAETHOL, Okt TOasmraetlt €*vfàmìmtf%t &c*t gn ntnHtlt n, &%mvQ. Cyfrol II. MEDI, 1884. Rhif. 14. üennòòtaetft OSterftaoraL LUDWIG VAN BEETHOYEN. Gan R. Lloyd Jones, A.C. (Llwydmor). ORCHWYL anhawdd ydyw gwybod pwy i'w gymeryd fel testyn ysgrif, gan fod cymaint o feistri teilwng — maen't fel " cwmwl o dystion." Tueddir fi yn gryf at feistr a wnaeth safie iddo ei hun trwy fod yn sefydlydd ysgol o gerdd- orion, i ba rai y gellir enwi Richard Wagner, Schumann, Schubert, Lizst, &c, fel yn perthyn. Felly heb ymdroi, ac yn unol â'r syniad yn y rhagarweiniad byr hwn, testyn fy llith fydd Ludwig Van Beethoven. Efe ydoedd yr uchaf yn mysg holl gerdd- orion Germani, a'r cyfansoddwr mwyaf athrylithgar a welodd y byd erioed. Gan- Wyd ef yn Bonn yn y flwyddyn 1770, ac yr oedd yn fab i ganwr tenor yn nghapel y prif Etholwr. Yr oedd y tad yn ddyn o arferion pur anghymedrol, ac nid yn unig yr oedd yn ffynonell pob gofìd i'w fab, ond hefyd yr oedd y teulu oll tiwy hyn mewn 'stad o dlodi, ac yn aml yr oeddynt mewn angen mawr. Dangosodd Ludwig arwyddion cynar ei fod yn feddianol ar dalent gerddorol, a meddyliai y tad y gallasai ei enillion fod yn gynorthwy i'r teulu i godi eu hunain Ç'r sefyllfa druenus yr oeddynt ynddi drwy arferion yr hwn ddylasai fod yn esiampl WelÌ iddo. Felly, gorfodid ef i ymarfer ai y ber- doneg gymaint o oriau ar unwaith, fel o'r diwedd nid oedd ei efrydiau yn ddim gwell na chaethwasanaeth. Nis gallwn *ai na theimlo drosto wrth ysgrifenu hyn 0 linellau. Yr ydoedd ef yn wir yn " Uawn o helbul," a chafodd ddrachtio o SWpan adfyd yn foreu yn ei oes. Derbyniodd ei wersi cyntaf gan Vanden Eeden, yr organydd breninol, ond cafodd äddysgiaeth fwy trefnus gan Neefe, olyn- ydd ei athraw cyntaf. Yr ydoedd ei lwyddiant gymaint, fel, pan yn ddeuddeg oed y cymerai le Neefe wrth yr organ, a phan yn I3eg oed ymddiriedwyd iddo y swydd o berdonydd yn ngherddorfa y Chwareudy Breninol. Éi uchelgais mwyaf, pa fodd bynag, oedd cael myned i Vienna i orphen ei astudiaeth, ac yn 1785 gallu- ogwydd ef i gario ei amcan allan. Pan gyrhaeddodd Vienna, ei orchwyl cyntaf oedd d'od o hyd i Mozart, yr hwn, fel y dywedir, a'i derbyniodd gyda gradd o oerfelgarwch; ond pan ei clywodd yn chwareu yn ddifyfyr gyfeiliant i destyn rhoddedig, yr oedd wedi ei synu gymaint fel ag y dywedodd wrth ei gyfeillion, " Telwch sylw i'r llanc hwn, rhyw ddiwr- nod fe synir y byd ganddo." Ni chafodd opiniwn Mozart, yr hwn oedd ar y pryd yn anterth ei boblogrwydd, pa fodd bynag, effaith uniongyrchol ar dynged ein cerddor ieuanc. Yr oedd Beethoven, pan yn i3eg oed, wedi cyhoeddi tair sonata, y rhai a gyflwynwyd i Elector Cologne, ei noddwr yn Bonn. Yn ystod ei arosiad cyntaf yn Vienna, ymroddodd yn llwyr at ei astud- iaeth am ddwy fiynedd. Yn 1787, cafodd alwad i fyned yn ol i Bonn i gladdu ei anwyl fam, yr hon oedd mor dirion a gofalus o hono ag ydoedd ei dad o lym ac anghofus. Efe, yn awr, ydoedd cynhaliwr yr holl deulu, a gorfodwyd ef i roddi gwersi, yr hyn bob amser oedd yn gas ganddo. Yr unig ysmotyn dysglaer yn ei fywyd, yr adeg hon, ydoedd y cyfeillgarwch agos a pharhaol a ffurfìodd a'r teulu Breuning — mam (yr hon oedd weddw), tri mab, a merch. Yn eu cymdeithas, pasiodd Beethoven lawer awr, ac yn eu cwmni daeth i adnabyddiaeth â llenyddiaeth glasurol y byd, yn enwedig yn ei iaith ei hun. Yma, hefyd, yr enillodd gynorthwy a chyfeillgarwch y Count Waldstein, i'r hwn y cyfiwynodd y sonata adnabyddus sydd yn dwyn yr enw Waldstein. I ddylanwad hwn rhaid priodoli ei ddewisiad fel perdonydd i'r Llys. Yn 1792, galluogwyd ef i ail-ymweled â