Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f Jf n gtlìpttr aVÿ$ltítmíttr+ Cyf. I. TACHWEDD, 1881. Rhif. 6. MADDEUANT A CHYFIAWNHAD. GAN Y PAECH. JOHN J. EOBEBTS, COLUHBUS, WIS. Rhuf. 4: 6—8.—" Mcgys y mae Dafydd hefyd yn datgan dediüyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyf- iawnder iddo heb wcithrcdoedd, gan ddywedyd, Ded- wydd yiu y rhai y maddeuioyd eu hanwireddau, a'r rhai y cuddiwydeu pechodau. Dedwydd yw y gior nid yw yr Arglwydd yn cyfrif pechod iddo" Dyfyna Paul y geiriau hyn o Salm 323 lle golygiry cyfeiria Dafydd at ei gwyrap mewn cysylltiad âg Úriah a'i wraig, 1 Bren. 15:5. Mae Dafydd yno yn cymwyso trefn gras at ei amgylchiad neillduol ei hun. Honir weithiau fod trafod pynciau yr efengyl yn ddull sych ac anfuddiol; ond y mae felly, naill ai o anfedr- usrwydd yr ymdriniaeth, neu o ddyeithrwch y medd- wl i'w drueni trwy bechod. " Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg." Am na fynai yr Iuddewon eu trafod fel rhai euog, truenus, yr oedd yraadroddion Crist yn ddamegion tywyll iddynt. " Ydym ninau hefyd yn ddeillion ?" " Ni wasanaethasom ni neb erioed : pa fodd yr wyt yn dywedyd, c!ìavì a wneir yn rhyddion ?'" I gyfarfod pechod, argyhoeddiad, a gwrthgiliadau, y darparwyd trefn gras. Dan wasgfeuon pechod, ac archollion cwympiadau, y gwelir gwerth y drefn, ac y ca ei defnyddio, fel meddyg a meddyginiaeth mewn afiechyd. Pa bryd bynag y gallai Dafydd ymgysuro 16