Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tfnyäfat.ùTÊẁttâm. Cyp. I. MEDI, 1881. Rhip. 5. FFYDD YN SAIL PETHAU. Heb. xi. 3.—" Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuth- ur y bydoedd tnoy air Duw, yn gymaint nad o bethaic gwéiedig y gwnaed y pethau a welir" Rhuf. i. 20.—"Canys ei anweledig bethau ef er cre- adigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pclhau awnaed, a welir yn amlwg, sef ei drayywyddol allu efa'i Dduw- dod, hydonid ydynt yn ddiesgus." Yr un awdwr sydd i'r ddau epistol a ddyfynwyd o honynt; a'r un egwyddor sydd yn eacl ei chario allan yn y ddwy ran; a'r egwyddor hono ydyw, íbd medd- wl yn lienacli na mater; fod dcall o flaeii trefn; fod tragywyddoldeb o flaen amser; fod person cyn peth- au ; fod gallu tu eefn i ysgogiad ; fod Duwdod tu cefn i'r gallu. Ac y mae ffydd yn y gwrthddrych yn an- hebgorol i ddeall trefn pethau. Y mae pethau gwel- edig yn brawf o egwyddorion anweledig, gan fod eg- wyddor peth o angenrheidrwydd o flaen y peth ei hun. Nid y peth sydd yn cynyrchu yr egwyddor, ond yr egwyddor y peth. Y mae egwyddor pob peth yn an- weledig, a'r peth ei hun yn weledig; a thrwy y peth gweledig y mae i ni, fodau meidrol, i weithio ein nordd at yr egwyddor anweledig. Ac y mae y peth, o ran ei raddau a'i ífurf, yn eglurhad ar rym ac eang- der yr egwyddor ncu yr egwyddorion sydd yn ei gyn- yrchu. Yr ydym yn y testyn yn cael y peth ar raddeb eangfawr—-bydoedd. Dyma y fíeithiau gweledig. 13