Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f f vt$û\m nt Jlritatmttr+ Ctf. I. GORPHENAF, 1881. Rhif. 4. TYWALLTIAD YR YSBRYD. ÖAN Y DIWEDDAR BABCH. HENRY REES, LIYERPOOL. Joel ii. 28, 29.—(íA bydd ar ol liyny, y tywalltaj fy Ysbryd ar bob cnawd, a'ch meibion a'ch merched a bro- phwydant, eich henuriaid a welant freuddwydion, eich giuyr ieuainc a welant weìedigaethau : Ac ar y gweis- ion hefyd ac ar y morwynion y tywalltaf fy Ỳsbryd yn y dyddiau hyny." Hefyd Actau ii. ]6, 17, 18. Y mae yr ymadrodd " ar ol hyny" gau y prophwyd, yn nghyda'r ymadrodd cyfystyr ag ef, "y dyddiau di- weddaf," yn Act. ii. 17, yn golygu dyddiau Crist a'r efengyl. Felly y mae yr adde\vid hon am yr Ysbryd yn cael ei cliyfyngu i'r tymor hwnw, O flaen y dydd- iau hyny nid oedd yr Ysbryd Avedi ei roddi; ac ar eu hol hwynt nid ymrysona a neb yn dragywydd. Eto y mae yn rhaid i ni ddeall na bu y byd yma erioed yn hir heb Ysbryd yr Arglwydd yn gweithio ynddo. Cyn y cwymp yr oedd ein rhieni cyntaf yn llawn o hono. Efe oedd gwreiddyn eu bod hwy, yn nghyda holl oleuni, sancteiddrwydd, a gogoniant eu natur. Ac os oedd mellditli y cwymp yn cyuwys ymadawiad yr Ysbryd â dyn, a diflaniad ei holl gynyrchion bendig- edig o'r enaid, a rhoddi y creadur i fyny i'r diafol a phechod, a'i holl ganlyniadau, o'i ran ef am byth, eto yr oedd Mab Duw wedi ymrwymo i " brynu oddiwrth felldith y ddeddf, fel y delai bendith Abraham ar y cenedloedd, fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy 10