Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^ÿrŵgrflptr« r Jtónmm Cyf. I. MAI, 1881. Ehie. 3. CARIAD DÜW. GAN T PARCH. H. P. HOWELLS, MILWATTKEE. 1 Ioan iv. 9.—" Yn liyn yr eglurwyd cariad Duw tu- ag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i'r lyd, fel y oyddem fyw trwyddo ef." Cariad yw hanfod gogoniant y Duwdod. Er fod Duw yn fawr yn mhob peth perthynol iddo, mewn cariad y mae fwyaf. Y mae dyweyd fod yn Nuw gariad yn wirionedd, ond nid yr holl wirionedd ; canys " Duw, cariad yw," o ran ei hanfod. Er fod pob pri- odoledd ynddo ef yn anfeidrol, ni ddywedir am un mai dyna yw Duw. Y mae gallu ynddo, ond nid gallu ydyw. Y mae doethineb ynddo, ond nid doethineb ydyw. Mae sancteiddrwydd ynddo, ond nid sancteidd- rwydd ydyw Duw; ond, " Duw, cariad yw." Nid ywei holl briodoliaethau ond gwahanol ffurfiau ar ei gariad, fel mae eiholl weithrediadau yn ddadblygiad o'i gariad. Yn ei gariad y fíynonellant oll; o'i gariad y cymerant eu nodweddion, ac er dadblygiad o hono y gwasanaethant oll. Pan y mae cariad yn ymwneyd â phobpeth yn gyffredinol, y mae yn ewyllys da ; pan yn ymwneyd â gwrthddrychau truenus, mae yn drugaredd; pan yn ymwneyd a gwrthddrychau annheilwng, mae yn ras ; pan ynymwneyd ag addewidion Duw, mae yn fìydd- londeb; a phan yn ymwneyd â dysgyblaeth dynion, mae yn amynedd. Cariad ydyw rliwymyn perffeith- rwydd ; una yr holl amrywiaeth diderfyn yn yr han- fod dragywyddol. Fel mae yr un gallu sydd yn cynal, ag a greodd, y byd,