Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tttr a r Ttsîrmtum Cîf. I. MAWRTH, 1881. Rhif. 2. DIWEDD AMSER, GAN T PAECH. EDWAED MOEGAN, DYFFBYN. Datgüddiad x. 6. — :iAc efea dyngoddi'r hwn sydd yn lyiu yn oes oesoedd, yrhwn a greodd y nef, a'r peth- au sydd ynddì, aW ddaear a'r pethau sydd ynddi, a'r mor a'r pethau sydd ynddo, na byddai amser mwyach." Y mae y testyn yn un o yraadroddion rhyfeddaf llyfr sydd yn cael ei hynodi yn raysg llyfrau y Beibl, gan ddyeithrwch y desgriíiadau a'r golygfeydd a geir ynddo, Y mae holl gynwys y llyfr yn rhyfedd, yn fwy felly na'r un o lyfrau yr Hen Destament; nid yn benaf am fod ynddo lawer o ddatguddiaethau newyddion. Yr oedd y rhan fwyaf o bethau y llyfr hwn wedi eu hawgryrau yn ysgrifeniadau rhai o brophwydi yr Hen Destament, ond y mae y gair—yr awgryra—yn cael ei baentio yn ol- ygfa fywiog o flaen y llygad. Nid canfod y dy- ben wedi ei gyraedd yn unig, fe geir hyny yn mhro- phwydi yr Hen Destament, ond gweled hefyd yr holl symudiad (process), trwy ba un y dygwyd y peth o amgylch, yn cael edrych ar holl olwynion y peirian- waith dwyfol yn gwneuthur bob un o honynt ei or- chwyl penodol, yn gystal ag ar y gwaith gorphenedig. Paham y defnyddiwyd dull darluniadol, ac eto tyw- yll a dyeithr, i osod allan y pethau hyn o dan oruch- wyliaeth sydd yn hynod am ei symledd a'i heglurder? Y mae y dull yn yraddangos yn anghydweddol â natur yr oruchwyliaeth. Yr oedd desgrifiadau bywiog Ezeciel, a darluniadau dyeithr Daniel yn cydweddu a'r