Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A^*í*v irwesfoí Pris Ceiníog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cgfrol VIII HYDREF, 1905. Rhif 94. Gynwysìad. Llwyddiant .. .. .. 145 Y Diwygiad yn ei bcrthynas a Dirwest .. 147 Brad y Fftig-Gyfaill .. .. .. 149 MinyFfordd— .. .. .. ..152 Y laf o Fedi—Gair difrifol Cenhadwr Cym- reig -CyfrifoldcbPrydain—Y Ddioda'r Llais —Yn syndod i'r byd—Cauwch chwi y Taf- arnau—Gwobr y Brenin -Gweinyddiaeth o Lwyrymwrthodwyr—Y Ddiod a Gorphwyll- edd. Gonestrwydd .. .. .. ..154 Y diweddar Cadben G. B. Thomas, Carnarvon .. 155 Arwyddion Tafarnau .. .. 156 Ton: Emyn Dirwestol .. .. .. 175 Lrlwydtiiant, Gan Plenydd. TÍfV AIR melus yw llwyddiant. Ymlon- ^èr ydda y meddwl mewn boddhâd yn swynion ei ystyr. Mae yn naturiol gofyn, Paham y llwyddir ? Ai rhywbeth damwein- iol o'r tu allan ydyw llwyddiant, ynte can- lyniad gweithrediadau blaenorol ? Clyw- som rai dynion cyhoeddus yn ddiweddar yn awgrymu, fod ymdrechion y gorphenol gyda dirwest wedi bod yn siomedig ac i raddau yn ofer ; ond fod y Diwygiad wedi dod, ac wedi creu daear newydd, a dynion newydd, a hono yn ol yr oraclau hyn megys y greadigaeth gyntaf—"o ddim." Mor ryfedd a gwrthnysig yr edrych hyn pan yr ystyriom ! Ymdrechion daionus yn ofer ! Y dylanwadau Dwyfol fu'n ysgogi y medd- wl dynol i lafur ac egni drwy yr amser- oedd yn ofer!! Ac ymddengys mwy o hyfdra wrth son am lafur dirwestol nac odid ddim arall. Brawddeg a glywsom yn dra mynych cyn hyn oedd, " Dal iyfed mae y bobl er pob ymdrech onide ?" Ie, clywsom hyn gan rai o'n dysgawdwyr crefyddol. Edrychai fel math o snub oddiar y twr i weithwyr ewyllysgar ond diddysg a chyffredin—ond sawrai yr ed- liwiaeth o hunan atgas, a bradychai feallai euogrwydd distaw adwfn, am nadoeddynt hwy yr hyn ddylent fod ar y maes Dir- westol. O'r dosbarth hwn hefyd, y rhan fynychaf, y ceir y rhai hyny, pan wesgir hwy i angenrhaid siarad dros ddirwest, a ymesgusodant gan ddyweyd, " Wnes i ddim araeth ar ddirwest erioed, fy nghyf- eillion i, ond rwyf yn codi i fynu i ddangos fy mod o blaid yr achos." Model o ddysg- awdwyrei genedl, onide? Aflwyddiant ? Ai ofer llafur cyson ein pwlpudau drwy y blynyddoedd ? A oedd fod tyngu a rhegi, a bywyd anniwair yn rampant yn y wlad cyn y diwygiad, yn brawf o lafur ofer i'w gwrthsefyll ? EJr cynal cymanfaoedd poblogaidd, a thywallt hyawdledd tanllyd a dysgedig megys lava am ben y gwrandawyr, elai mintoedd o gan- ol y tan i'w ffordd i dyngu yn hyfach, i ym- halogi yn ddyfnach, ac i dwylloyn dduach nag o'r blaen. Ond a fu y pregethu yn ofer ? Os na chredid yr ymadrodd, a ddy- lesid atal ymadrodd y credu ? Na, nid ofer yr ymdrechion blaenorol; yn hytrach tueddir ni i gredu mai canlyniad llafur blaenorol yw y Diwygiad bendigedig hwn. Rhaidoedd iddo ddyfod. Yr oedd rhyw grynhoad raawr,--rhyw bwynt uchel wedi ei gyraedd, rnewn modd nas gwydd- om ni. Llafur cyson ein Hysgolion Sab- bothol—y miloedd adnodau a phenillion oedd yn dygyfor yn nghof a meddwl ein