Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fáẃ "^^ .....>'■>!', M Fris Celîîíog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol Víîl AWST, 1905. Rhif 01. C\ l Cyrawysiad. Daniel.y Tyst Dirwestol . 113 ConglyPlant . 116 Min y Ffordrl— . 117 Trethu y Fasnach o fod — Alcohol yn wenwyn—Cydwyhod yr eglwys yn anes- mwytho— Rhagrìth i gyd—Arweinwyr Llafur a'r ddiod. Bwrdd yr Alliance .. . 120 Brad y Ff ug-gyfaill .. . 122 Cynideithasau . 124 Emyn Dirwcstol . 125 Dyddorol i'w gwybod . 126 Llenyddiaeth 127 Gan y Parch. William Hugh Evans, y Rhyl. Daniel i. 8 : " A Daniel a roddes ei fryd nad ym- halogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe." fN o'r pethau rr.wyaf haerllug y gellir meddwl am dano yw honi, neu gym- eryd yn ganiataol, fod gwlybyrion alco- hol yn refreshfnent—yn lluniaeth. Y mae hyn yn hollol anghywir. Ychydig iawn o faeth sydd ynddynt—dim gwerth son am dano. Ond y mae yr elfenau niweidiol a pheryglus sydd ynddynt i iechyd a bywyd yn llawer iawn. Wrth reswm, nis gallant gyda mor ychydig o faeth yn gymysg a swm mor fawr o ddefnydd peryglus, fod yn ddiogel i fywyd ac iechyd, heb son am yr angenrheidiol iddynt. Dyna dystiolaeth bendant gwyddoniaeth, dyna leferydd uch- el cyfrifon Cymdeithasau Yswirio, dyna ddysgeidiaeth ddigwestiwn ffeithiau a fyn- ant sylw cyffredin ar bob llaw yn ddibaid. Gofynwyd fil o flynyddoedd cyn Crist, " I bwy y mae gweh'au heb acìios ? i bwy y mae llygaid cochion ?" Ac yr oedd yr atebion y pryd hwnw yn union yr un peth ag y rhaid fod yr atebion i'r un gofyniad- au heddyw, ac o hyny hyd heddyw : " I'r neb sydd yn aros wrth y gwin : i'r neb sydd yn myned i ymofyn arn win cymysg- iedig " (Diar. xxiii, 29, 30). Ac eto i gyd, yn ngwyneb pob tystiolaeth, a phob rhes- wm, y mae gwr y dafarn yn ddigon gwyn- eb-galed i alw ei hun yn Victualler, a Ìlu- aws mawr o bobl yn ddigon o ffyliaid i dybio eu bod yn cael lles wrth yfed ei ddiod. Modd bynag, yr oedd yn foddhaol iawn fod Canghellydd y Trysorlys, wrth ddwyn ei Gyllideb yn mlaen yn gorfod cydnabod fod " ton o sobrwydd yn ymdori dros y wlad " ; ac i gadarnhau hyny ei fod yn gorfod cydnabod iddo dderbyn llai o fwy na miliwn a haner o bunau o gyllid oddiwrth ddiodydd alcohol, nag oedd ei amcan-gyfrif flwyddyn yn ol. Ỳr wyf yn derbyn hyn ganddo gyda llawenydd mawr ; eithr nis gallaf gydymdeimlo a'i ddymun- iad—rhy amlwg arn i adfywiad llwydd- iant y wlad ddwyn mwy o gyllid i'r Trys- orlys oddiwrth y diodydd meddwol. Ac efe a ddangosodd ddiffyg difrifol mewn gwybodaeth a chraffder, neu mewn gonest- rwydd (neu hwyrach fesur o bob un), yn ei waith yn anwybyddu yr hyn a wnaed gan yr Eglwysi, y Cymdeithasau Dirwest, y Gobeithluoedd, a'r Diwygiad, wrth gyfrif achosion y " don o sobrwydd " aaddefwyd ganddo. Efe a roes gredyd i'r music halls am ran yn ei chodi, ondni wyddai ddim am Mr. Evan Roberts, na dim o hanes chwe mis o adfywiad crefyddol anghyffredin, nac