Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(fyá tn>w V J'ÿsí Dirwesfol Pris Ceiniog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol VIII. MEHEFIN, 1905. Rhif 89. Cynwysiad: Yr Eglwys i arwain yn y Mudiad Dirwestol .. 81 Can Plant y Band of Hope .. .. .. 83 Min y Ffordd : Dadganiad Syr Frederick Treves .. .. &i Congl y Plant: Hanes Troedigacth Robyn Garlleg.. .. 86 Emyn Dirwestol .. .. .. ..78 Bwrdd yr Alliance: Burton on Bung .. .. .. 88 Y Cau Cynharach— Cyngor Dinesig Lerpwl .. 89 Sunday Closing (Wales) Act AmendmentBill —Yr Etholiad Agoshaol .. .. ..90 Cymdeithasau .. .. .. ..91 Llenyddiaeth Ddirwestol .. .. ..92 Temlyddiaeth Dda .. .. .. ..92 Tameidiau .. .. .. .93 Dic Shon Dafydd (Up-to-date) .. .. ..94 Yr Egiwys I arwain yn y MucSiad Dirwestol. Gan y Parch J. Griffiths, Llanfairfechan pYDOLYGIR yn gyffredin o berthynas ! \) effeithiau dinystriol y fasnach mewn diodydd meddwol. Edfychir ar y fasnach yn agos gan bawb ond y rhai y mae gob- aith eu helw mewn perygl, ac y mae y mwyaf goleuedig o'r rhai hyny fel y dengys Adroddiadau y Ddirprwyaeth Frenhinol ar Drwyddedau yn gyd-olygu, fel prif ffynonell y trueni a'r gwaradwydd sydd mor gyffredin yn ein plith. Ac nid oes person, teulu na dosbarth nad ydynt yn dioddef yn uniongyrchol neu yn anunion- gyrchol oddiwrth ei heffeithiau dinystriol. Y mae y feddyginiaeth yr ymdrechir o'i phlaid yn ddeublyg, sef cryfhau y bohl i wrthsefyll hudoliaethau y ddiod a sicrhau Dcddfwriaeth effeithiolach na'r hyn sydd genym yn bresenol. Amcanwn sylwedd- oli llwyrymwrthodiad personol a chyfryng- iad y wladwriaeth. Er nad yw y llwydd- iant y peth y carasem iddo fod nid ywheb fod yn gyíryw ag sydd yn rhoi cysur i ni i fyned rhagom nes enill y fuddugoliaeth. Er fod y Diwygiad Crefyddol presenol wedi gwneyd mwy yn mhlaid sobrwydd nag a wnaeth ein Uafur dirwestol am ugain mlynedd, ni fuasai yr hyn ydyw oni bai am y llafur dirwestol a'i blaenorodd. Ond y mae tir lawer eto i'w feddianu. Yr hyn yr amcenir ato yn y nodiadau hyn yw dangos mai yr Eglwys sydd i ar- wain yn y mudiad o blaid sobrwydd. Gof- ynwyd i'r diweddar Barch H. Ward Beecher " Pa hydyr erys y byd yn feddw ?" Ei atebiad ydoedd " Cyhyd ag y dewisa Eglwys Dduw." Nid yn unig y mae gan y mudiad o blaid sobrwydd ei hawliau gwleidyddol a dyngarol, ond hefyd ei hawl- iau Cristionogol. Hawliaymdrechion aedd- garaf yr Eglwys yn ogystal a'i chydym- deimlad a'i chefnogaeth. Medda gryfach hawliau ar yr Eglwys nag ar unrhyw gylch cymdeithasol arall o fywyd. I. Dylai tr Eglwys flaenori yn y GWAITH DlRWESTOL AM MAI HI YN UNIG SYDD YN YMWYBODOL O AGWEDD WAETHAF DRYGAU Y FASNACH FEDDWOL. Y mae drygau y fasnach yn amlochrog. Cyrhaeddant yn mhellach na'r golled a'r gwaradwydd cenhedlaethol, a'r niweidiau corfforol ac amgylchiadol i'rymyfwyr a'r rhai sydd yn ddibynol arnynt. Cyrhaedd- ant yn mhellach nar golled arianol sydd yn cael ei gwneyd i fyny gan yri8omihwn o bunau werir yn uniongyrchol i bwrcasu y diodydd alcoholaidd, y llafur gollir yn