Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(hẂ ò^e^y J'yst Dirwestot Pris Ceiniog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol VIII. MAI, 1905. Rhif 88. §7 Cynwysiad: Y Cymdeithasau Dyngarol a'r Tafarndai Y Diwygiad a Llwyrymwrthodiad Congl y Plant Grocer's License Bwrdd yr Alliance .. Min y Ffordd: Llai o yfed — Y Frwydr a'r Fudd ugoliaeth yn Guernsey Ffordd newydd o weithio dros Ddirwest — Ffeithiau eraill i'w Lledaenu—YGyflafan fawr 74 Eisieu Dirwest ac nid Diffyn-doll — Arwydd- ion yr Amserau .. .. .. .. 75 Cymdeithasau, &c. .. .. .. ..75 Dick Shon Dafydd .. .. .. .. 78 Barddoniaeth—Can Bachger. y Band of Hope .. 79 89 ::■! Y Cymdeithasau Dyngarol a'r Tafarndai. Gan y Parch. J. D. Jones, Abercanaid. Y|VIOLCH i'r nefoedd am "fedydd tân " ^é^ y ganrif newydd! Mae'r genedl wedi cael " calon newydd" ac y mae bywyd Cymru gyfan wedi newid. Yr ydym yn gwybod ystyr " Diwygiad " bellach heb orfod troi i Eiriadur, a deallwn y Pentccost yn yr Actau heb gynorth- wy " Barnes " na " James Hughes " ! " Wele gwnaethpwyd pob peth yn newydd," mae'r ddaear yn newydd i gyd am fod y nefoedd wedi gweddnewid pethau. Daw amheuwyr i gredu yn ddiysgog yn ngwyrthiau yr Arglwydd Iesu Grist am fod gwyrthiau yr Ysbryd Glan wedi profi yn ddatguddiad yn Nghymru yn 1904—5. Ac un o'r gwyrthiau ydyw troi y rnedd- won yn llwyrymwrthodwyr ac yn weddi- wyr, ac yr ydym fel crefyddwyr—ie, fel eglwysi yn gyfrifol i Dduw am wneuthur pob peth posibl er eu diogelwch. Un o fsndithion y gweithiwr tlawd ydyw y Gymdeithas Ddyngarol, ac un o felldithion penaf canoedd o Gymry ydyw y Gymdeithas Ddyngarol yn y dafarn. Melldith benaf Cymru—wedt' bod—ydyw y fasnach fedHwol, .a llw^'ddiant y dafarn ac nid llwyddiant y Gymdeithas Ddyngar- ol sydd yn cyfrif am y fìaith fod rhai mor selog dros barhau yr undeb anheilwug rhwng y naill a'r llall. Gallwn nodi allan dri dosbarth ydynt yn or selog dros gadw y gyrndeithas yn y dafarn.—1 Y Tafarn- wyr oherwydd hunan elw. 2 Y medd- won ydynt }m aelodau o'r gymdeithas— am fod diod feddwol i'w chaeljy?/ rhad yno. 3 Crefyddwyr selog dros y cwpan medd- wol, am fod y gymdeithas yn esgusawd dros fyned i'r dafarn, tra mewn gwirion- edd mai porthi eu blys sydd wrth wraidd yr holl ffyddlondeb dyngarol (?) Un o nodweddion amlycaf y Diwygiad bendigedig presenol ydyw ei fod yn Ddi- wygiad Dirwestol. Er fe ddichon mai ychydig o son am ddirwest a glywir mewn nifer o'r cyfarfodydd, eto y mae y tafarn- dai yn weigion, y darllawdai yn fwy na haner segur, a'r meddwon yn Ddirwest- wyr selog bellach. Yr areithwyr angher- ddolaf ar ddirwest heddyw, ydynt y dyn- ion hyn a achubwyd o'r tafarndai ac o'r ffosydd. Clywsom lawer o honynt yn gweddio yn eu dagrau am nerth Duw i wrthsefyll yr hen brofedigaethau, ac i gysegru eu bywyd yn bur ac yn sanctaidd i Iesu Grist. Un o'u peryglon penaf yn y dyfodol ar ol i wres mawr y Diwygiad i oeri ychydig fydd y Gymdeithas Ddyngarol yn y dafarn, a byddai yn golled anadferadwy i rai p ■MH