Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

irwestoí Pris Ceíníog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol VIII. CHWEFROR, 1905. Rhif 86. Cynwysiad: Yr Adfywiad Crefyddol a Dirwest. Pa fodd i gynal y Band of Hopc. Y Dinasoedd Colledig. Tarneidiau .. Bwrdd yr Alliance: Strongest Government of modern times Deddf newydd y Trwyddedau Beth ydym i w wneyd — Can heb iawn Min y Ffordd: Tystiolaeth Maer a Gweinidog .. Barn Mcddygon — Esiampl deilwng Deddf y Plant. Mangre dychryn. Y doll ar drwyddedau. Ar eu gwarthaf. Gwasgu... Cau Cynar. Pwyllgor Trwyddedol. Canon Scott Hoiland. Dirwest a r Eisteddfod. Congl y Plant: Y Diwygiad. .. Ein dyledswydd yn ngwyneb Deddf Trwyddedau.. Barddoniaeth : Balchder—Spcctol Taid.. Fathcr Christmas—Byddin Dirwest. Cymdeithasau Yr Adfywiacl Crefyddol a Dirwest. Gan y Parch. H. Meirion Davies, Pwllheli. R gais ygolygydd, ymgeisir ag ysgrif- * enu gair ar agwedd ddirwestol yr adfywiad uchod yn ei berthynas â Phwll- heli. Er dechreu Rhagfyr diweddaf yr ydys wedi cael cyfarfodydd dirwestol bob nos Sadwrn, ac rnae'r oll o'r cyfarfodydd wedi bod yn rhai neihduol ar lawer cyfrif. Un neillduolrwydd a berthyn iddynt ydyw eu poblogrwydd. Y gẅyn gyffred- inol glywid am gyfarfodydd dirwestol braidd yn mhob man ydoedd fod y cynull- iadau yn deneu; mae'n debyg y gellir dweyd fod y cyfarfod dirwestol yn yr adeg sydd wedi myned heibio, ycyfarfod mwy- af anmhoblogaidd ; oncl yn ystod yr wyth- nosau diweddaf mae'r cyfarfodydd hyn yn neillduol ar gyfrif eu poblogrwydd, yr ys- tafell eang llc 'u cynelid yn rhy fechan i gyn- wys y bobl dyrai iddynt. Hir y parhao felly Neillduolrwydd arall berthyn iddynt ydyw yr eneiniadysbrydol sydd yn eu nod- weddu ; nis gallaf gael geiriau gwell i gyf- leu yr argraff mae'r cyfarfodydd hyn wedi ei adael ar fy meddwl. Yr wyf wedi bod mewn aml i gyfarfod dirwestol mwy brwd- frydig o bosibl na'r cyfarfodydd y sonir am danynt yn bresenol, ond gyda hyn o wa- haniaeth, fod y brwdfrydedd hwnw yn cyfranogi mwy o natur brwdfrydedd y cyfarfod politicaidd, ond, am y cÿfarfodydd hyn, mae yma ryw frwdfrydedd ysbrydol yn eu llenwi. Mae yma ryw eneiniad dwyfol wedi disgyn arnynt sydd yn eu gwneyd yn foddion gras mewn gwirionedd. Mae'r cyfarfod ystyrid gynt yn gyfarfod sych, yn ystod yr wythnosau diweddaf, yn iraidd gan wlith ysbrydol. Peth arall neillduol iawn ynglyn a'r cyf- arfodydd hyn ydyw y llwyddiant anarferol sydd wedi ac yn parhau i'w dilyn. Nid ydys wrth ddweyd hyn yn golygu fod cyf- arfodydd dirwestol y gorphenol yn af- lwyddianus ; na, nid yn ofer, nac am ddim y buwyd yn llafurio ar hyd y blynyddoedd. Credwn fod pob ymdrech ddirwestol gywir —pa mor syml bynag—wnaed yn y gor- phenol wedi dwyn neu ynte i ddwyn ffrwyth mewn rhyw gyfeiriad, oblegid nid yr " actual rcsulf' ydyw yr unig safon, nag yn mhob engraifft y safon gywir, i bender- fynu swm llwyddiant ymdrechion dirwest- ol. Ond a barnu cyfarfodydd dirwestol y dyddiau aethant heibio, yn ddynol, prin y gellir eu galw yn rhai llwyddianus iawn, hyny ydyw, ychydig os dim Uwyddiant gweledig a'u nodweddai. Prin ryfeddol ydoedd nifer y dychweledigion dirwestol