Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

2/ (Tyst tyirwestoi. Cyfrol III.] EBRILL, 1900. [Rhif 28. A7r, WILLIAM GEORGE, Criccieth. Gan MR. D. R. DANIEL, Four Crosses. ANWYD Mr. William George yn mhentref bychan Llanystum- dwy yn neheu Sir Gaernarfon, llanerch can hyfryted a*r un ellir ganfod ar lanau y Meuse neu'r Necker ar y Cyfandir— gadawn i ddarllenesau ieuainc y Tyst Dirwestol geisio dod o hyd i'r dyddiad, yn unig rhag i neb dybied ei fod \ n hŷn nag yr edrycha dy- wedwn ei fod yn ieuengach na'i frawd mwy adnabyddus D. Lloyd George, Ysw., A.S. Ar ol gorphen ei addysg rhwymwyd ef i'r alwed- igaeth gyfreithiol, ac y mae yn un o dri neu bedwar drwy Ogledd Cymru ddaeth drwy ei arholiad terfynol yn y Dosbarth Cyntaf mewn Anrhydedd, yr hyn, yn nghyda'i lwyddiant diweddar yn enill prif wobr yr Arholiad Dirwestol, a ddengys yn eglur ei fod yn gallu ateb cwestiynau celyd ei hun yn ogystal a'u gofyn i eraill fyddont mor an- ffodus a dod dan ei groesholiad. Mewn partneriaeth a'i frawd gwnaeth ei ran yn dda i ddwyn swyddfa Mri. Lloyd George a George yn un o'r rhai mwyaf cyfrifol ac enwog yn yr alwedigaeth gyfreithiol yn Nghym-