Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

2/ íTyst tyirwestoi. Cyfrol III.] MAWRTH, 1900. [Rhif 27. Y Cadben G- B. THOMAS, Caernarfon. Gan EVAN WILLIAMS, Caernarfon. jlIGON prin y mae yn angenrheidiol enwi y gwrthrych uchod wrth liaws darllenwyr y Tyst Dirwestol, gan fod ei wyneb pryd serchog ac agored mor gyfarwydd i bron bob dirwestwr, hen ac ieuanc, drwy Gymru oll. Yr ydys yn y dyddiau hyn, yn clywed llawer o sôn am gedyrn a châdfridogion rhyfel a'u gorchestion, ond yn mherson y Cadben G. B. Thomas, mae genym " un o'r cedyrn," sydd er's dros ddeng-mlynedd-ar-hugain bellach, wedi ac yn cyflawni gorch- estion i gyfeiriadau amgenach,—un o arwyr blaen y fyddin ddirwestol yn Nghymru, parod ac effro bob amser i ymosod yn ddiarbed ar y gelyn andwyol sydd yn difa yn ddiattal luoedd anrhaethol fwy eu rhif na'r cledd neu'r fagnel.