Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y íTysi 9irwestoi. Cyfrol II.] TACHWEDD, 1899. [Rhif 23. Y Parch. Aaron Davies, D.D., Cadoxton Barry^ (GYNT O BONTLOTTYN.) Gan y Parch, W. Williams, Cadoxton. MAE gwrthrych ein hysgrif yn feddianol, nid yn unig ar gorff mawr a lluniaidd, ond hefyd ar galon fawr a thyner—yn llawn l*o garedigrwydd a chydymdeimlad, a sugna bawb sydd yn ei adnabod i'w fyriwes fawr agored heb yn wybod iddynt, ac enilla ymddir- iedaeth pawb o'i gwmpas. Mae ei ymddangosiad yn dywysogaidd, ac y mae yn foneddwr perffaith yn ei holl ymddygiadau. Medda ar alluoedd meddyliol cryfion a threiddgar anarferol i ragweled, darganfod a chyn- llunio. Y mae yn wr o gynghor, ac yn meddu ar lawer o ddoethineb,