Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^4 faw* V Jÿsf Dirwesfol Pris Ceiniog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol IX RHAGFYR, 1906. Rhif 108. Rhwymedigaeth yr Eglwys yn ngwyneb y Deffroad .. .. ..177 Gwyl Ddirwestol Corris .. ... 179 Congl y Plant: " Fry ac Obry '.. .. 180 Brwydr y Beirdd .. .. .. 183 Bwrdd yr Alliance .. .. .. 184 Dirwest yn yr Ysgolion Dyddiol .. .. 185 Min y Ffordd : Gwyr y Fasnach a'r Prif Weinidog—Y cysur yn llai na'r erceso— Y cwynion a'r atebion—Y Mesur addaw- edig—Y ddeddf newydd i'r Ynys Werdd . 186 Cymanfa Arfon a Dyffryn Conwy. .. 189 Y Ddau Gleddyf .. .. ..190 Rhwymedigaeth yr Eglwysi yn ngwyneb y Deffroad. Gan y Parch. D. Cynddelw Williams, B.A., ¥R vclys wedi cael deffroad. Fe allesid fod wedi cael mwy nag a gafwyd pe eaed mwy o ddoethineb yn gyffredinol mewn hwyluso'r Diwygiad yn ei flaen. Ond fe gafwyd Deffroad. Ysywaeth, mae rhai o'r pethau oedd y beirniaid yn eu dar- ogan wedi dyfod i ben. Nid yw'r efteith- iau yn gwbl yr hyn fuasid yn eu dymuno. Ond dyna ddywedwn ni, " Bendigedig fo'r Arglwydd am y Diwygiad." Pe na bae ond un enaid wedi 'i achub trwy Gymru, fe fuasai hyny yn ddigon i orbwyso pob gormodedd ac eithafion fu yn ystod y ty- mor trwy'r holl wlad. Ond y mae canoedd wedi eu hachub, a miloedd wedi eu had- fywio. Gan dderbyn pethau fel y maent, a chan roddi heibio pob danod, ac hunan- gyfiawnder o bob math, gellir disgwyl i'r eglwysi gymeryd i ystyriaeth degbellachy cwestiwn o ba fodd i sicrhau y lles goreu o'r Diwygiad. Os myn rhai edrych yn ddu ì ar bethau, fe ddylent hwythau ymofyn sut ' i wneyd y goreu o'r gwaethaf. Cwestiwn i'w ystyried yn weddigar a myfyrgar gan bob aelod eglwysig ydyw'r un sy'n cael ei awgrymu. Ceir rhwymedigaeth uwch nag erioed wedi disgyn ar yr eglwysi i gydnabod y Dwyfol yn holl adranau'r gwaith. Cwest- iwn sydd wedi cael amlygrwydd mawr yn l.loegr yn ddiweddar ydyw pafodd y dylid edrych ar feddwdod ; ai fel aíìechyd, neu fel pechod, neu fel y ddau ynghyd ? Ai cadw'r meddwon mewn ysbyttai,neu mewn cartref wedi ei barotoi yn arbenig ar eu cyfer, neu mewn carchar, a ddylid ? Ym- ddengys fel pe baem ni yn Nghymru wedi cael cyfarwyddyd pur bendant ynyDiwyg- iad. Gras Duw ! Hwn am dori chwant, am orchfygu blys. Gweddied yr eglwysi yn aml am i Dduw ddal i achub y meddw- on. Fydd dim eisiau cartrefi i ddiwygio meddwon yng Nghymru os cawn ni Ddi- wygiad yn aml. 'Does dim ar ffordd yr eglwysi i gael Deffroad pryd ymynont,ond bod o ddifrif yn ei geisio. Os yw sefydl- iadau godir gan ddoethineb dynol yn methu, mae digono allu yn y pregethiad cywir o groes Crist i gael pob meddwynyn sobr. Rhwymedigaeth fawr sydd ar yr eglwysi barhau yn daer o flaen yr Orsedd. Cael Duw i'r maes ! Fe sicrha hyn fudd- ugoliaeth. Os honir fod y Deffroad fel y cyfryw drosodd nid yw'r eglwysi i fyned yn eu blaen heb ymdeimlad o'r presenoldeb dwy- fol gyda hwy, ac o'u cwmpas. Golyga hyn y rhwymedigaeth o gyfîawni pob peth yn y fath fodd ag i beidio diffoddi neu