Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

V 3'ysf Dirwesfol Pris Ceiniog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol IX HYDREF, 1906. Rhif 106. C$nwssíab: Gwyl Ddirwestol Corris Hanes yr Achos yn Sir Drefaldwyn Min y Ffordd— Y Chwareuwyr á Dirwest— Gwarth Gogledd Cymru—Y Band of Hope — G waradwydd y Ddinas—£5000 am Ddio<i, ond gwelyau 'sglod iach—Cynydd Gorphwyllodd Manion Brwydr y Beirdd ConglyPlant Bwrdd yr Alliance Ton—" Plygeiniol Gerdd " Y Ddau Gleddyf 145 116 148 150 151 158 152 155 150 GWYL DDIRWESTOL CORRIS Gan Mr. D. Ifor Jones, Corris. fYsgrif I). HWYRACH nad anyddorol gan ddar- llenwyr ' Y Tyst Dirwestol' fydd cipdrem ar hanes yr Wyl uchod yn ystod naw mlynedd a thriugain ei hymdaith ar y ddaear. Y mae bywyd mewn dynion o'r oedran hwn, yn gyffredin, yn edwino, yn Uesghau, ac yn dyheu am gysgod. Ond yr oedd yr hen Wyl, Iau y Dyrchaf ael eleni, mor hoew ac ysgafndroed ag er- ioed, heb eisieu ftyn baglau oddiallan, na stimulants oddimewn. Rhodia yn amlder ei grym, fel ei Hawdwr, â gwir rymusder. Un o arwyddion bywyd ysprydol yn yr Eglwys ydyw, ei bod yn fyw i agv\ cddau • y cyfeiliorni' yn y byd o'i chwmpas, ac yn cyfaddasu ei hun i gyfarfod a'r agwedd- au hyny, felag î'w gwrthweithio. Y mae hyn yn amlwg yn hanes y diwygiad Meth- odistaidd, yn y ddeunawfed ganrif. Ym- deimlodd hyny o fywyd ysprydol oedd yn yr Eglwys Wladol a difrawder ac anuwiol- deb y byd, fel y torodd allan yn weinidog- aeth nerthol, gan ddeffro y rhai oedd yn cysgu, a bywhau y meirw. Yn ddiweddarach ymdeimlodd a thy- wyllwch gwrandawyr yr Efengyl, eu dygn anwybodaeth yn Ngair Duw, a'u hanallu i'w ddarllen, ac yn ei gwewyr uwchben y sefyllfa, esgorodd ar y sefydliad ammhris- iadwy—yr Ysgol Sabbothol;yr hon ynglyn a gweinidogaeth yr efengyl, sydd wedi codi yr hen wlad, cyfuwch, a dweyd y llei- af, ag unrhyw genedl dan y nef. Ond yr oedd pryf wrth wraidd y pren. Er i Paul blanu, ac i Apolos ddyfrhau, ac er i flagur a blodeu godidog wisgo gwin- llan y Duw byw, eto ni ddygir ffrwyth cy- fatebol i'r llafur, nac i addewidion y blod- au. Yr oedd y gelyn-ddyn yn effro, yn gwylio'r cynydd, ac yn tywallt ei antidote gwenwynig wrth wreiddiau y prenau, gwelid llawer o'r blodeu yn gwywo ac yn cwympo, a'r coed fu mor addawol, nid yn unig yn ddiffrwyth eu hunain, ond yn di- ffrwytho'r tir. Yn y cyfnod hwn ymwth- iodd i'r eglwys lu o ymyfwyr, tafarnwyr, bragwyr a distyllwyr, fel y bygythiai y tir droi yn anialwch gwag erchyll eilwaith. Yn ffodus, yr oedd yr eglwys ynfyw. Yr oedd y bywyd ysprydol o't' tnhewn, er yn guddiedig yn rhy fynych. Agorodd ei ílygaid i'w hamgylchoedd. Adnabu y gelyn ddyn, a'i waith. Canfu y difrod ar y winllan, a thynodd ar ei hadnoddau ei hunan i'w wrthweithio. Tyngodd ddiofryd a chyhoeddodd ryfel. Dechreuodd drefnu ei byddinoedd, ymrestrodd gwirfoddolwyr wrth y miloedd. O hyny hyd yn awr,mae y ddeulu ar y maes, ac nid oes bwrw arfau i fod nes gorchfygir y gelyn. Y symudiad hwn o eiddo'r Eglwys yn rhangyntafy ganrif ddiweddaf, sydd yn rhoddi cyfrif am holl Gymdeithasau Dir- westol y deyrnas hon, a'r byd o ran hyny. Mae y rhai hyn wedi, ac yn bod yn allu grymus yn yr eglwys ei hun—i fwrw allan