Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŴFÍ **•** V Jÿsf Dirwesfcl Pris Ceiniog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol IX. GORPHENAF, 1906. Rhif 103. Cynwysiad. Y Syniad Dirwestol Bwrdd yr Alliance Congl y Plant Brwydr y Beirdd Ficer y Rhos ar y Diwygiad Min v Ffordd ... Y Ddau Gleddyf Cri Plentyn y Meddwyn Nostri Farrago Libelli Amrywiaeth ... 97 98 101 102 104 106 108 109 110 111 Y Syniad Dirwestol. Gan W. George, Ysw., Criccieth. BYDDIAU democrataidd ydyw y ihai hyn. Pan lefara Demos yn glir a phenderfynol plyg pawb ei ben gan ddy- wedyd, " Lleferydd Duw, ac nid dyn, yd- yw." Yr oeddym wedi cyrhaedd gan bell- ed a dweyd salus ỳopuli sitprcma lex— iech- yd (cysur neu iachawdwriaeth) v bobl ydyw'r ddeddf uchaf; ond eirgam ymhell- ach heddyw, a dywedir Vox populi vox Dei —llais y Bobl, llais Duw ydyw. Y farn gyhoeddus yw pobpcth. Nid wyf am aros i holi fewn i ddymun- oldeb nâc anymunoldeb, teilyngdod nac anheilyngdod,' yr arwyddeiriau cymdeith- asol hyn. Y cwbl wnaf yn awr yw dweyd mai dyma lle maent—er gwell neu er gwaeth—wrth wraidd y drefn gymdeithasol ar hyn o bryd. Ond paham yr ysgrifenir i'r "Tyst Dirwestor' i ail-adrodd gwirion- edd politicaidd cydnabyddedig fel hwn ? O, ddarllenydd, oni weli ei berthynas un- iongyrchol a'r achos dirwestol mewn mwy nag un cysylltiad ? Os nad wyt eto wedi ei ystyried a gâf fi dynu'th sylw at y gos- odiadau canlynol:— (1) Syniad y cyhoedd am anghenion eu hardal sydd i benderfynu rhif y tafarndai o'i rnhewn. Dyma'r safon gyfreithiol. Gwir na weithredir i fyny a'r safon hon yn fynych iawn yn y dyddiau presenol; ond y mae hyny i'w briodoli naill ai i an- aeddfedrwydd neu i ddiffyg yn mynegiant y farn gyhoeddus lawn gan fynyched ag i ddiystyrwch o'i llais gan y rhai y perthyn dehongli y cyfryw farn iddynt. (2) Y cyhoedd eu hunain sydd i bender- fynu nid yn unig rif ond hefyd gymeriad y tafarnau. Rhyfedd fel y gweithreda y dafarn a'r farn gyhoeddus y naill ary llall. Ar un llaw tuedda y fasnach feddwol i iselhau a llygru y gymydogaeth y dygir hi yn mlaen ynddi : ac felly rhoddir stamp y "dafarn i ry w raddau ar yr holl ardal. Ònd o'r tu arall effeithia cymeriad cyffredinol yr ardal i'r unrhyw, os nad i ychwaneg o raddau ar y dafarn. Dywedaf 'stori fach i eglurebu y naill a'r llall o'r haeriadau hyn. Gelwais yn nhy cyfaill dro yn ol. Ar ben y rhes yn wynebu y brif heol saif tafarndy "Y Dcìafad Gorniog." Y tu ol i'r tai mae llwybr cul (a chêl), ac meddai'm cyf- aill, " Synech pe gwelech y bobl sy'n dir- gel rodio y llwybr hwn at ddrws cefn ' Y Ddafad Gorniog.' " Gallwn dybio fod amryw o grefyddwyr yr ardal yn hoff iawn o'r llwybr cul hwn, ac fod golwg tra gos- tyngedig ar eu cerddediad hyd-ddo. Yn amser y Diwygiad elai neb braidd i fewn i'r ty ond ar hyd y ffordd hon a thrwy borth cyfyng y cefn. Pentref bach crefyddol iawn yw y Deml,acnisgallasaiond tafarn- dai respectablc gystadlu a'r Eglwysi a gwneyd bywroliaeth yno. Dyna ddylan- wad yr ardal ar y dafarn. O'r ochr arall,