Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Jyst Dirwestot Pris Ceiniog. Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol IX. MEHEFiN, 1906. Rhif 102. Cynwysiad. Rhagolygon a Rhaglen Dirwest . . . 81 Min y Ffordd— Rho'wch pyfle i'r Bobl—Y Barnwr Rentoul ar hyn—Cyflwr y Bobl—Y Cyngrair Gwrth- Buritanaidd—Chwarcuwyr a Dirwest go Brwydr y Beirdd ..... 85 Argyhoeddiad Myfyriwr ..... 86 Caneuon yn erbyn y gwpan dywyllodrus . 87 Bwrdd yr Aliiance ..... 88 Congl y Plant ..... 90 Y Ddau Gleddyf ...... 92 Amrywiaeth ..... 94 Rhagolygon a Rhaglen Dirwesí Gan y Parch. E. K. Jones, Brymbo. (Parhad o'r rhifyn diweddaf). Y|vIDDYMlAD llwyr y fasnach feddwol, X£F wrtb gwrs, yw nôd dirwcst. Dyna'r peth mawr sydd yn argraphedig ar ei baner wen. Rhaid symud, er byny, ' fesul tipin.' Y cwestiwn yw : Beth ddylem wneyd a disgwyl y dyddiau nesaf yna ? Yn gyntaf rhaid dad-wneyd drygioni gwaeddfawrDeddf Iawn i Dafarnwyr. Dyna y gorchwyl cyntaf. Sut i wneyd hyny sydd bwnc. Myn rhai foddloni ar ddych welyd awdurdod yn ol i'r ynadon lieol. Sonir hefyd am osod terfyn ar y gwaith o fytholi trwydded a gwaddoli y fasnach ymhen ychydig flynyddoedd. Awgrym- wn mai yr hyn ddylid wneyd yw parhau yr adran sydd yn rhoddi tâl pan gollir trwydded,gan fod yr oli o'r arian yn dod o logellau y tafarnwyr a'r bragwyr eu hunain. Er hyny, gan fod hyn yn ych- wanegu at werth a diogelwch y trwydded- au, dylasai y llywodraeth osod treth ych- wanegol arnynt o filiwn a haner neu ddwy filiwn o bunau y flwyddyn. Gallem felly leihau y tafarndai yn ara deg, ac hefyd gyfyngu ar y gweddill a chael help syl- weddol oddiwrthynt tuag at gostauy wlad. Gwyddis mai y dafarn sydd yn achosi y rhan fwyaf o gostau aruthrol Prydain, gyda'i charcharau, gwallgofdai a'i thlotdai yn mhob man. Ni fyddai hyn ond tegwch a'r fasnach ac a'r wlad. Gorfodir masnach y glô a phob masnach arall i gynal y gweithwyr a anafir a'r teuluoedd aamddif- adir ganddynt. Beth pe buasai raid i'r fasnach feddwol wneyd hyny ? Peth arall ddylid ddeddfu heb oedi yw gosod yr hawl i roi trw}'ddedau yn nwylaw y Cynghor Sirol neu ryw gorph arall sydd yn etholedig a chyfrifol i'r bobl. Ofer meddwl am ymddiriedy gwaith eto i'r yn- adon. Gwyddom fod yn mhlith ein hyn- adon îawer o'r dynion goreu yn mhob ys- tyr. Ysywaeth, ceir y mwyafrif mawr o fath tra gwahanol. Nid ofnwn ddweyd mai y fainc ynadol yw y corph gwaelaf ac anghymwysaf at waith a fedd ein gwlad heddyw. Mewn llawer amgylch- iad, y mae wedi ei phrofi yn llygredig i'r craidd. Ni ddylid ar un cyfrif ddychwelyd i ddosbarth sydd wedi profi yn fethiant hollol bron, fater o'r fath bwysigrwydd. Cafwyd prawf, yn y cynghaws cyfreithiol diweddaf yn Lerpwl, fod yr Ynadon wedi gwyro barn yn enbyd yn ffafr y fasnach feddwol. Cafwyd enghraifft o beth tebyg yn Manchester, dro yn ol, pryd y profwyd fod ynadon yn eistedd ar y fainc i ddim ond amddifiyrì buddianau taf- arnwyr. Siaradwyd pethau cryfion iawn yn y Wyddgrug, ddydd Iau, Chwef. i^ed, 1906, pryd yr hysbyswyd gan ynadon yn ngwyneb ynadon, mewn cyfarfod chwarter-